Tudalen 2 o 3

PostioPostiwyd: Gwe 23 Tach 2007 10:37 am
gan Jon Bon Jela
Haaaaa! Yr atgofion! Mae'n amlwg cest ti hefyd dy fagu mewn lle anghysbell iawn... ;)

O'n i'n dwlu ar yr Amiga. Chwant gyda fi fynd i chwilio amdani yn yr atig a chael gwledd o nostalgia.

PostioPostiwyd: Gwe 23 Tach 2007 10:38 am
gan Jon Bon Jela
Geraint a ddywedodd:Atari ST! Atari ST! :crechwen:


Wwww! Controfyrsial! O't ti'n un o'r "rheiny" o't ti? *Yn poeri atat* :x

PostioPostiwyd: Gwe 23 Tach 2007 1:19 pm
gan Positif80
Ataris ST? ATARI ST?!!!! :ofn:

PostioPostiwyd: Gwe 23 Tach 2007 6:15 pm
gan Positif80
WWF European Rampage. O'n i'n ei hoffi, er bod y cylchgronnau i gyd yn sgwennu adolygiadau negyddol iawn amdani. Blydi Amiga Power. Natch.

PostioPostiwyd: Mer 28 Tach 2007 6:44 pm
gan Positif80
Beth oedd eich hoff cylchgrawn i'r Amiga? Ges i gasgliad enfawr o dem disgs erbyn '96 - blwyddyn marwolaeth yr Amiga, i bob pwrpas.

Hefyd, oedd rywun arall yn meddwl bod enw'r Amiga yn cwl, gan dy fod ti'n gallu dweud fod gen ti "girlfriend" hyd yn oed os oeddet, fel fi, yn uber geek. Jest fi, felly?

PostioPostiwyd: Iau 29 Tach 2007 12:01 pm
gan Llefenni
Odde ti'n mynd rownd yn deud mae Amigo oedd enw dy gariad? Dwi di drysu wan Positif80 :?

PostioPostiwyd: Iau 29 Tach 2007 12:20 pm
gan Dan Dean
Ooo, yr atgofion! :D

Exile, Frontier, Syndicate, Kick Off 2, Sensible Soccer, Cannon Fodder, Formula 1 GP, Indianapolis 500, Ultima 5, Prince of Persia, Indiana Jones, Premier Manager, Championship Manager 93, Speedball 2, IK+, A-Train, Dune 2, Supercars, Super Skidmarks (rasio ceir bach oedd hwnnw gyda llaw, nid cachu'n drowsus ar ol Guinness noson gynt a chinio dydd sul)... mae'r rhestr yn ddi-ddiwedd, wedi methu llwyth o gemau eraill. Oriau maith o hwyl yn fy mhlentyndod. Wel, dyddiau maith. Wel, blynyddoedd maith.

A deud y gwir dwin meddwl mai gwychder yr Amiga yw'r prif reswm pam bod gennyf radd mewn cyfrifiadureg rwan. Hebddo fysa gennyf dipyn llai o ddiddordeb yn y pwnc a wedi neud rwbath arall mae'n siwr.

Amiga Power oedd y cylchgrawn gora heb os nac oni bai. Oedd ganddynt y gallu i fod yn ddoniol bob mis, yn enwedig wrth adolygu gemau crap.

Llefenni a ddywedodd:Rwyn arall di defnyddio'r photo-shop math o raglen oedd arno?

Deluxe Paint III ti'n feddwl? Newydd gofio animeiddio petha ar hwnnw! :D

Mae nifer o wefannau ar gael efo emulators a gemau fel eich bod yn gallu chwarae hen glasuron ar eich PC. Heb drio nhw yn iawn eto, chwaith. Mae gennyf Syndicate, Frontier ac Ultima 5 ar fy nghyfrifiadur, yn gallu ei chwarae ond dydynt ddim yn gweithio'n iawn (swn a graphics a frame rate ohoni).

PostioPostiwyd: Iau 29 Tach 2007 12:29 pm
gan Llefenni
Deluxe paint III!!

Iei! O waw, dyddie da yn chware dwli :D

Dwi hefyd yn gweithio efo cyfrifiaduron, a mae mrawd yn Beirianydd Rhwydwaith - y ddau ohonna ni wedi ein hysbrydoli gan yr Amiga. Clasur :D

PostioPostiwyd: Iau 29 Tach 2007 3:09 pm
gan Positif80
'Roedd Deluxe Paint yn rhy anodd i fi. :( Wnes i drio defnyddio'r system animeiddio, gyda breuddwydion o greu cartwns gwych, ond 'roedd canlyniadau'n ymdrechion yn edrych fel rywbeth gan wiwer hefo problem yfed. :(

A gyda llaw, o'n i ddim yn dweud mai'r Amiga oedd fy nghariad, jest meddwl i fi'n hun: yn dechnegol, mae gen i girlfriend. Es i'm allan lot yn fy harddegau. :?

Skid marks? Good call! Ges i byth y gem llawn, ond roedd y demo ges i'n wych - ar ol arfer hefo'r controls rhyfedd.

Roedd Amiga Power yn wych ar adegau, a The One hefyd.

PostioPostiwyd: Iau 29 Tach 2007 11:28 pm
gan Jon Bon Jela
Prynais i Wii bythefnos yn ol. Ddoe, wedi i mi ddychwelyd o'r gwaith roedd rhywun wedi torri mewn i'r fflat a'i ddwyn. Nid yw Jon yn hapus :(

Efallai ei bod hi'n werth prynu'r Amiga eto i godi 'nghalon...