Tudalen 3 o 3

PostioPostiwyd: Iau 29 Tach 2007 3:09 pm
gan Positif80
'Roedd Deluxe Paint yn rhy anodd i fi. :( Wnes i drio defnyddio'r system animeiddio, gyda breuddwydion o greu cartwns gwych, ond 'roedd canlyniadau'n ymdrechion yn edrych fel rywbeth gan wiwer hefo problem yfed. :(

A gyda llaw, o'n i ddim yn dweud mai'r Amiga oedd fy nghariad, jest meddwl i fi'n hun: yn dechnegol, mae gen i girlfriend. Es i'm allan lot yn fy harddegau. :?

Skid marks? Good call! Ges i byth y gem llawn, ond roedd y demo ges i'n wych - ar ol arfer hefo'r controls rhyfedd.

Roedd Amiga Power yn wych ar adegau, a The One hefyd.

PostioPostiwyd: Iau 29 Tach 2007 11:28 pm
gan Jon Bon Jela
Prynais i Wii bythefnos yn ol. Ddoe, wedi i mi ddychwelyd o'r gwaith roedd rhywun wedi torri mewn i'r fflat a'i ddwyn. Nid yw Jon yn hapus :(

Efallai ei bod hi'n werth prynu'r Amiga eto i godi 'nghalon...

PostioPostiwyd: Llun 03 Rhag 2007 8:21 pm
gan Positif80
Jon Bon Jela a ddywedodd:Prynais i Wii bythefnos yn ol. Ddoe, wedi i mi ddychwelyd o'r gwaith roedd rhywun wedi torri mewn i'r fflat a'i ddwyn. Nid yw Jon yn hapus :(

Efallai ei bod hi'n werth prynu'r Amiga eto i godi 'nghalon...


Gwnewch yn siwr eich bod chi'n cael tv modulator da...mae nhw'n anodd iawn i ddod o hyd iddyn nhw os yw un yn torri.

Gyda llaw, pa fodel oedd gen pawb? 'Roedd gen i 500+. Cafodd rywun arall Kenny Dalglish Soccer a Renegade?

PostioPostiwyd: Maw 04 Rhag 2007 9:55 am
gan Hogyn o Rachub
Roedd gen i Amiga 1200. A dyna oedd ffycin swanc!

PostioPostiwyd: Mer 19 Rhag 2007 4:58 pm
gan Geraint
Chi Amiga-wyr wastad mor gas tuag at yr atari! :(

Lot o'r un gemau ar yr Atari St ac Amiga beth bynnag, dyma oedd rhai o fy ffefrynnau:

IK+
Striker
Kick Off II
Vroom
Escape from the planet of the robot monsters
Magic Pockets
Xenon 2
Speedball 2
Midwinter 2
Hunter
Prince of Persia
Rick Dangerous II
R-Type II
Another World
Emlyn hughes International Soccer

Nes i bron byth prynu gem, o ni'n cael fersiynau wedi hacio gan ffrindiau, oedd efo 'menu' yr hacwyr ar y dechrau efo cerddoraeth a graffeg a negesuon. Oedd huna'n digwydd lot da'r amiga?

Re: Amiga 500/500+/600/1200

PostioPostiwyd: Iau 07 Chw 2008 11:20 am
gan Positif80
Rhywun yn cofio WWF European Rampage? Braidd yn gachlyd ond yn hwyl ar yr un pryd. Amser braf cyn i mi darganfod fod yr Ultimate Warrior yn loon a bod Hylc Hogan yn wancar.

Re: Amiga 500/500+/600/1200

PostioPostiwyd: Mer 14 Ion 2009 3:55 pm
gan Shon
Pam son amdanynt, chwaraewch nhw eto:

http://www.winuae.net/
http://www.thegamearchives.com/?val=0_2 ... 17_0_0_0_0

Amiga emulator i'r PC a bron pob gem a gafodd ei rhyddhau i'r sustem ar gael!

Un o'r ffefrynau oedd On The Ball World Cup Edition, mynd a Cymru i Gwpan y Byd a'r anfarwol Monkey Island 2:LeChuck's Revenge. Oedd gemau Microprose yn rai da hefyd, F15 Strike Eagle II, Midwinter II:Flames of Freedom, a Gunship 2000.

Re: Amiga 500/500+/600/1200

PostioPostiwyd: Mer 14 Ion 2009 7:35 pm
gan Chickenfoot
Mae Panza Kickboxing arni - gwychder! Dw i'n cofio treulio llawn gormod o amser yn herio'r wahanol cymeriadau a cheisio cael fy nghymeriad i wneud y symudiadau newydd wnes i ddewis. Dyddiau da.