Eto, post dwl gan y wenci am gem steam.
Wedi bod yn chwarae ers rhyw wythnosau, gêm uffernol o wych ar y lefel gweledol ydy o, 'da modd graffig diddorol, yn ogystal â dewis o adran sy'n creu bron deg gêm gwahanol. Yn bersonol dwi'n arfer chwarae fel ysbïwr neu pyro ond weithiau fel cêl-saethwr os dwi eisiau newid, mae 'na cymaint o ddewisiad ynddi. Oes rhywun arall ar y maes sy wedi dod o hyd i'r gem? Mae o'n ymddangos yn boblogaidd go iawn.