Gem newydd yn y gyfres Football Manager gan Sports Interactive. Y peth gwahanol am y fersiwn hon yw ei bod yn gwbl ryngweithiol; rydych chi'n cael eich rhoi mewn 'Gameworld' gyda 1,000 o 'reolwyr' eraill o bedwar ban byd, ac yn chware gemau cystadleuol neu gyfeillgar yn erbyn eu timau nhw dros y we.
Oes rhywun ar y maes wedi cofrestru? Nes i drio ddoe ond, hyd yn hyn, wy ddim wedi gallu logio mewn am rhyw reswm. Teething problems ma rhaid. Dim ond wthnos dwetha nath y gem gychwyn wy'n credu. Swnio'n gyffrous iawn beth bynnag.