Tudalen 1 o 1

Football Manager Live

PostioPostiwyd: Iau 13 Tach 2008 9:21 am
gan Gwyn
Gem newydd yn y gyfres Football Manager gan Sports Interactive. Y peth gwahanol am y fersiwn hon yw ei bod yn gwbl ryngweithiol; rydych chi'n cael eich rhoi mewn 'Gameworld' gyda 1,000 o 'reolwyr' eraill o bedwar ban byd, ac yn chware gemau cystadleuol neu gyfeillgar yn erbyn eu timau nhw dros y we.

Oes rhywun ar y maes wedi cofrestru? Nes i drio ddoe ond, hyd yn hyn, wy ddim wedi gallu logio mewn am rhyw reswm. Teething problems ma rhaid. Dim ond wthnos dwetha nath y gem gychwyn wy'n credu. Swnio'n gyffrous iawn beth bynnag.

Re: Football Manager Live

PostioPostiwyd: Iau 13 Tach 2008 1:35 pm
gan bartiddu
Newydd cael pip http://www.footballmanagerlive.com diddorol iawn, wedi hen laru ar Hattrick, dim wedi edrych mewn yn gywir sut mae'n gweithio, bydd rhaid prynu meddalwedd neu mae'r cwbwl yn cael eu neud arlein?
£72.99 am flwyddyn o whare, oes gwobrau neu beth? ...gwell darllen mwy amdano gleu :)