Tudalen 1 o 1

Lefel Thief

PostioPostiwyd: Mer 13 Mai 2009 6:28 pm
gan Macsen
Oni'n gweld o edefyn arall bod cwpwl o bobol yn hoffi Thief felly oni'n meddwl bydde gennyn nhw ddiddordeb yn hwn.

Mae lefel ar gyfer Thief II fues i'n gweithio arno am ryw bedwar mlynedd gyda tim o bobol ar fin cael ei ryddhau... mae'r trailer i'w weld fan hyn. Ro'n i'n rhan o'r tim sgwennu a cynllunio'r lefel, gosod yr AI ayyb.

Dyle'r lefel gael ei ryddhau rywbryd penwythnos yma. Mae di cymryd ioooooncs i'w orffen mewn rhaglen golygu lefelau uffernol o anodd i'w ddefnyddio, felly joiwch! ;)

Re: Lefel Thief

PostioPostiwyd: Gwe 15 Mai 2009 5:41 pm
gan Mega-Arth
Haha, dwi'n cofio chdi'n son am hwn oesoedd yn ol. Mae'n edrych yn broffesyniol iawn chwarae teg. Fydd jyst rhaid i fi fynd i edrych am fy hen gopi o Thief II rwan.

P.S. Rhaid i fi ddeud, wnes i bron sgwyrtio llaeth allan o nhrwyn i pan nes i glywed 'my name is Shivan' :lol:

Re: Lefel Thief

PostioPostiwyd: Sad 23 Mai 2009 10:25 am
gan Macsen
Tee hee!

Mae'r lefel ar gael ar y wefan swyddogol fan hyn.