Tudalen 1 o 1

yr Angry Birds nesa' gan gwmni lleol?!

PostioPostiwyd: Iau 25 Tach 2010 10:11 am
gan technolegwr
Mae cwmni o Gaernarfon, Griffilms, wedi rhyddhau trailer o'i gem iPhone newydd 'Space Wolves'.

http://www.griffilms.com/spacewolves.html

Mae'r gem yn cael ei ryddhau gan apple unrhyw ddiwrnod nawr ar yr 'app store' am bris o £0.59 - felly os wnaethoch fwynhau 'Angry Birds' neu 'Cut the Rope' dyma'r gem i chi.

Delwedd

Cefnogwch gwmni lleol a chwaraewch Space Wolves! 32 lefel llawn hwyl a llawer mwy i ddilyn mewn updates yn rhad ac am ddim yn y dyfodol agos.

:)

Re: yr Angry Birds nesa' gan gwmni lleol?!

PostioPostiwyd: Sul 28 Tach 2010 1:05 am
gan huwwaters
Bosib gewch chi mwy o gefnogaeth o'r gymuned Cymraeg, petai fo ar gael yn y Gymraeg.

Re: yr Angry Birds nesa' gan gwmni lleol?!

PostioPostiwyd: Maw 30 Tach 2010 4:27 am
gan Mali
huwwaters a ddywedodd:Bosib gewch chi mwy o gefnogaeth o'r gymuned Cymraeg, petai fo ar gael yn y Gymraeg.


Cytuno ...mae angen mwy o apps Cymraeg. A mi fasa cael gemau Cymraeg yn ddipyn o hwyl . :D

Re: yr Angry Birds nesa' gan gwmni lleol?!

PostioPostiwyd: Maw 30 Tach 2010 12:35 pm
gan technolegwr
'Da ni'n gobeithio y bydd fersiwn dwyieithog wedi ei gwblhau erbyn y flwyddyn newydd! :) Yn y cyfamser mae'r fersiwn yma rwan yn fyw yn yr 'appstore'! http://bit.ly/spacewolves2010

Re: yr Angry Birds nesa' gan gwmni lleol?!

PostioPostiwyd: Maw 25 Ion 2011 5:01 pm
gan Mali
technolegwr a ddywedodd:'Da ni'n gobeithio y bydd fersiwn dwyieithog wedi ei gwblhau erbyn y flwyddyn newydd! :) Yn y cyfamser mae'r fersiwn yma rwan yn fyw yn yr 'appstore'! http://bit.ly/spacewolves2010


Newyddion da .... :D