Tudalen 1 o 1

Gem Cymraeg gynta' ar yr iPhone AppStore!

PostioPostiwyd: Iau 06 Ion 2011 10:14 am
gan technolegwr
Mae Griffilms o Gaernarfon newydd lawnsio y gem Cymraeg gynta ar yr iPhone. Mae'r gem ar gael ar draws y byd a dim ond yn yr iaith Gymraeg.
Mae Cerrig Peryg (http://bit.ly/cerrig) yn gem i bob oedran ble mae'r chwaraewr yn saethu 'asteroids' (neu Cerrig Peryg).

Cefnogwch gwmni lleol a chwaraewch Cerrig Peryg! Os oes digon a alw am gemau yn yr iaith Gymraeg mae Griffilms yn gobeithio datblygu llawer mwy fel hyn.
Y ffordd orau i ddangos eich cefnogaeth yw drwy ddweud wrth eich ffrindiau a gadael 'review' yn yr app store ar ol ei chwarae. :lol:

Delwedd

Re: Gem Cymraeg gynta' ar yr iPhone AppStore!

PostioPostiwyd: Gwe 07 Ion 2011 1:19 am
gan Mali
W...da de ! :D
Newydd ei lawrlwytho i'r Ipod touch , ac mae'n gweithio'n gret . Yn fy atgoffa fi o'r space invaders . Mae isho mwy o apps a gemau Cymraeg . :D
Lwc dda i chi efo'r fenter !

Re: Gem Cymraeg gynta' ar yr iPhone AppStore!

PostioPostiwyd: Gwe 07 Ion 2011 9:07 pm
gan SerenSiwenna
Argh! Finnai newydd cael IPAD fel anrheg dolig ond methu lawrlwytho dim tan dwi di sortio'r halibalw itunes allan: basically neshi greu acownt a wedyn anghofio'r cyfrinair i'r acownt ebost...ond mae'r dyn lawr yn yr I store yn yr L1 yn deud fod o'n gallu cymyd yr acownt oddi ar y cyfrifiadaur/ Iphone/ IPad a creu un newydd fel allaf lawrlwytho stuwwf fel hyn.

Da iawn chi gyda llaw, mi wnai ei lawrlwytho cyn gyned ag y caf yr acownt newydd Itunes a wnai postio ar facebook amdanno a deuth pawb 8)

o.n. gobeithio fod o ddim mor addictif a space invaders :ofn:

Re: Gem Cymraeg gynta' ar yr iPhone AppStore!

PostioPostiwyd: Maw 11 Ion 2011 4:55 pm
gan snichyn
Da iawn, wrth gwrs. Yn anffodus dwi un o'r chydig rai heb hyd yn oed ffôn symudol i'm henw. Mae'r heddwch yn ormod i'w aberthu. Ond cytunaf bod angen gwneud pob defnydd o'r dechnoleg newydd. Llongyfarchiadau i Griffilms.

Re: Gem Cymraeg gynta' ar yr iPhone AppStore!

PostioPostiwyd: Iau 20 Ion 2011 2:53 pm
gan SerenSiwenna
Hee hee,
Dwi di bod i'r Applestore ddoe i sortio fy ITunes acownt o'r diwedd a prynes i ffon newydd...felly dyma'r 'genious' (dyna ma nhw'n galw'r pobl gwybodus, caredig) yn cynnig dangos i mi sut i downlowdio ap...felly dewisiais cerryg peryg! Ha ha, mae e'n gret chwarae teg...er bo fi'n rubbish arni hyd yma...mwy o ymarfer sydd angen. Ew mae'n gret gallu cael stwff Cymraeg fel hyn er bo fi'n byw yn Lerpwl...piti fod pob dim ddim mor efficient ag International aps :P

Da iawn chi wir. Faint o bobl sy di lawrlwytho hyd yn hyn? Dyle chi cael feature yn Golwg! Oes un arall ar y gweill gynnoch chi? 8)

Re: Gem Cymraeg gynta' ar yr iPhone AppStore!

PostioPostiwyd: Iau 20 Ion 2011 6:38 pm
gan Mali
SerenSiwenna a ddywedodd:Da iawn chi wir. Faint o bobl sy di lawrlwytho hyd yn hyn? Dyle chi cael feature yn Golwg! Oes un arall ar y gweill gynnoch chi? 8)


Wel, mae 'na oleiaf dwy ohonom wedi gwneud hyd yma :winc: . Be fasa'n dda fasa cael gweld sgors pobl eraill hefyd , a chael cystadleuaeth bach byd eang i fynd ...efo hwn a gemau eraill sydd i ddod. :)

Re: Gem Cymraeg gynta' ar yr iPhone AppStore!

PostioPostiwyd: Maw 25 Ion 2011 5:00 pm
gan Mali
Sgor uchaf ....rhywun ?
Un fi - 410 . Sobor o sal... :wps:

Re: Gem Cymraeg gynta' ar yr iPhone AppStore!

PostioPostiwyd: Sul 30 Ion 2011 2:29 pm
gan SerenSiwenna
Mali a ddywedodd:Sgor uchaf ....rhywun ?
Un fi - 410 . Sobor o sal... :wps:



Ha ha, neshi hyd ynoed lwyddo sgorio 800 a rhywbeth, a dwi ddim rili yn dda iawn ar y pethe ma, cymerodd ages i mi weithio allan fod angen symud y ffon i symud y roced! :wps:

Re: Gem Cymraeg gynta' ar yr iPhone AppStore!

PostioPostiwyd: Sul 30 Ion 2011 5:54 pm
gan Mali
SerenSiwenna a ddywedodd:
Mali a ddywedodd:Sgor uchaf ....rhywun ?
Un fi - 410 . Sobor o sal... :wps:



Ha ha, neshi hyd ynoed lwyddo sgorio 800 a rhywbeth, a dwi ddim rili yn dda iawn ar y pethe ma, cymerodd ages i mi weithio allan fod angen symud y ffon i symud y roced! :wps:


Hei , mae hynny'n sgôr dda iawn ! 8) Oes 'na rywun arall 'di cael mwy na 800 tybed ?
Llywio efo'r joi pad isel fyddai .... :D

Re: Gem Cymraeg gynta' ar yr iPhone AppStore!

PostioPostiwyd: Gwe 25 Maw 2011 8:56 pm
gan ManonElin
Ges i 11870 un tro :D y 'joi-pad' isel fi'n defnyddio hefyd.

Pa apps Cymraeg eraill sydd ar gael?