Tudalen 1 o 1

Rhys Mwyn: "mae angen ‘Call of Duty’ yn Gymraeg"

PostioPostiwyd: Gwe 05 Rhag 2014 12:10 pm
gan Rhodri Nwdls
Chwarae X-Box mae’r genhedlaeth ifanc gyda cerddoriaeth yn gefndir i’r gemau cyfrifiadurol. Dyna’r her nesa , mae angen ‘Call of Duty’ a ‘Grand Theft Auto’ yn Gymraeg. Cytuno neu ddim mae angen Popeth yn Gymraeg os am gadw’r Iaith yn berthnasol

Dwi ddim yn meddwl bod cyfeirio at gemau Triple A yn ddefnyddiol yn y fath hyn o ddadl, mwy na mae dweud bod 'angen Jay Z Cymraeg' neu bod 'angen Star Wars Cymraeg'.

Motsh faint tisio fo. Ti ddim yn mynd i gael o. Ac os ti am gael hit, rhaid i ti gynhyrchu lot o shit. A da ni'n cynhyrchu bron dim. Ma'r pres i gyd yn mynd mewn i deledu.

Mae gemau anibynnol neu casual yn fater arall.
Mae diwylliant gemio Cymraeg (iaith newyddiaduraeth, iaith trafod, iaith cystadlu arlein, iaith walkthroughs, iaith fideos cynnwys am gemau) yn fater arall eto.

Re: Rhys Mwyn: "mae angen ‘Call of Duty’ yn Gymraeg"

PostioPostiwyd: Sad 06 Rhag 2014 2:47 am
gan Hen Rech Flin
Rwy'n hoffi chware gemau GTA ond i fod yn hollol onest pe bai opsiwn Cymraeg ar y gemau rwy'n amheus pe bawn yn ei ddefnyddio. Rwy'n cofio gwylio'r ffilm cowbois Shane wedi ei dybio i'r Gymraeg yn y 70au, roedd o'n embaras i'r iaith ac yn wastraff o adnoddau gallesid wedi ei wario ar gynyrch Cymraeg gwreiddiol. Dydy'r syniad o glywed dihyrod Liberty City neu San Andreas yn siarad Cymraeg ddim yn apelio lawer i mi. Wrth gwrs mae 'na gemau lle byddai cael opsiwn Cymraeg yn dda - os oes gêm yn cael ei selio ar gwpan Rygbi'r Byd blwyddyn nesaf byddai cael opsiwn Cymraeg yn gwbl naturiol i'r rhai ohonom sydd wedi arfer ar wylio rygbi ar S4C.

Y delfryd, pe bai modd gwneud, byddid dilyn trywydd cartwnau gwreiddiol S4C megis Siwperted a Sam Tân - creu cynyrch gemau Cymraeg (ac ieithoedd bychan eraill) gwreiddiol gellid ei werthu i weddill y byd. Er engraifft mae sôn bod cyfres Y Gwyll wedi gwerthu'n dda yn rhyngwladol be am greu Gêm y Gwyll (tebyg i L.A. Noir) yn y Gymraeg, y Saesneg ac yn ieithoedd y gwledydd sydd wedi prynu'r rhaglen?