Tudalen 1 o 1

Malcolm Allen ar FIFA?

PostioPostiwyd: Sul 28 Rhag 2014 12:30 am
gan ffanjonsi
Iawn ta. I ddechrau, dyma fy mhost cyntaf yn maes-e a mae o'n eitha boncyrs. Fy syniad I ydi I gyfieithu gem bêl droed gyfrifiadurol fel FIFA neu PES i'r gymraeg. Os ydi o am ddigwydd mae hi am fod yn broses anodd a hir, ond yn un posib yn fy marn i.

Buaswn I yn recordio gemau Uwch Gynghrair Cymru I gael sylwebaeth Nic Parri a Malcolm Allen (dychmygwchy ddau yma yn sylwebucar fifa! Pethau fel 'na mae breuddwydion wedi eu gwneud ohonynt). Fodd bynnag, dwi angen rhywun all roi'r recordiau hyn ar y gem. Mae hyn yn bosib dwi'n meddwl, ond ei fod yn broses hir ac anodd iawn, gan fod angen amnewid y clipiau gyda'r rhai gwreiddiol.

Felly, oes rhywun yn gêm? Os ydych chi'n 'nabod rhyun sy'n dda hefo pethau fel 'ma, gadwch fi wbod.
Neu, Os dachi'n meddwl 'mod i'n mental a fod dim pwynt, peidiwch a dal yn ôl. Diolch maes-e!

Re: Malcolm Allen ar FIFA?

PostioPostiwyd: Llun 29 Rhag 2014 2:29 pm
gan ffanjonsi
Iawn ta, wedi cal brec-thrw bach heddiw, ond wedi sylwi fod angen miloedd o recordiau I wneud hyn. Ar Pro Evo fydd y sylwebaeth nid fifa gan ei fod rywfaint yn haws i'w olygu. Peidiwch a phoeni, tydi hi ddim yn gêm rhy ddrwg flwyddyn yma.
Dwi rwan yn erfyn ar bobl I yrru unrhyw dapiau sydd ganddynt o gemau sydd gan Nic Parry a Malcolm Allen yn sylwebu arnynt i mi, os gwelwch yn dda. Dwi di cael ychydig oddi ar youtube a s4c clic ond ni fydd hynny yn ddigon.
Byddai unrhyw help yn werthfawr iawn, diolch.

Re: Malcolm Allen ar FIFA?

PostioPostiwyd: Sul 04 Ion 2015 3:13 pm
gan Mwnci Banana Brown
Ti'n mental- sim pwynt!