Ydw i'r unig un sy'n ddigon trist i chwarae hen gemau arcêd ar fy mhenliniadur? Oes ffans arall yr efelychydd <a href="http://www.mame.net/">MAME</a> yma? Beth yw dy hoff gemau arno? Mae theori 'da fi bod y gemau oedd yn y caffis a siopau sglodion pan o't ti'n 12 oed yw'r rhai a fydd yn well 'da ti nawr. Felly, i fi, plentyn oes aur yr arcedau, does dim byd well 'na Space Invaders, Asteroids, BattleZone a Defender, er mod i mor crap arnyn nhw nawr ag o'n i yn 1979.
Mae MAME yn wych, yr unig peth sydd angen yw cwpl o ffag burns ar gorneli y laptop, a darn carpiog o blastic gwydd dros gwaelod y sgrin.
Dwm DWM! <b>Dwm DWM!</b> Dwm DWM! Dwm DWM!