Wel dwi wedi prynu hwn a mae o'n wych! Dros y penwythnos mi wnes i ddewis cynrychioli Cymru, gan ddechrau mewn rheolaeth o Bowys, Clwyd, Gwent a Chernyw yn 750AD (roedd Gwynedd a Dyfed dan reolaeth rebeliaid Cymreig), ac erbyn neithiwr mi roeddwn i wedi llwyddo i chwipio tinnau y Sacsoniaid, Mersiaid, Northumbrians, Scotiaid, Pictiaid, Gwyddelod a'r Vikings, fel fy mod i'n rheoli holl wledydd Prydain.
Dwi am drio fo eto ar 'Hard' dwi'n meddwl
.