Tudalen 1 o 2

Yr Anfarwol...

PostioPostiwyd: Sul 02 Maw 2003 8:45 pm
gan Hogyn o Rachub
...Amiga! Pwy arall ohonoch chi oedd yn berchen ar y teclynod 'na? :D

PostioPostiwyd: Maw 04 Maw 2003 10:46 pm
gan Geraint
Sori Hogyn, ond o ni yn berchen ar yr Atari ST. Mae'r ddadl ST vs Amiga yn un hen a gwaedlyd, ond dwi dal yn ffyddlon i'r ST gwych (er fod yr amiga ar bapur yn gwell)(hebal am MIDI inputs yr ST :winc: ).

Roedd gemau tebyg ar y ddau beth bynnag, dyma rhai o'r gemau dwi'n cofio chwarae:

Hunter
Another World
Xenon 2
Magic Pockets
TV Sports Football
James Cod
Castle Master
Escape from the Planet of the Robot Monsters
Emlyn Hughes International Soccer
Falcon
Final Fight
Jimmy White's Snooker
International Karate +
Kick Off 2
Sensible Soccer
Midwinter
Monkey Island
Mega-lo-mania
Vroom

PostioPostiwyd: Iau 06 Maw 2003 5:23 pm
gan Rhodri Nwdls
ti newydd fy anfon mewn i fyd o nostalgia fan'na. Oedd Xenon 2 yn ffycin wych. Nais won Ger!

PostioPostiwyd: Sad 15 Maw 2003 6:34 pm
gan Ramirez
odd geni Amiga hefyd.
Lemmings, Sensible Soccer, Steve Davis Snooker, Nigel Mansell F1, Total Recall, Persian Gulf Inferno, F-18 Interceptor, Player Manager 2....mae'r rhestr yn faith!

PostioPostiwyd: Sad 15 Maw 2003 7:01 pm
gan Hogyn o Rachub
Blydi Lemmings! O'n i'n obsesed efo hwnnw a Zool. Ond Colonization a Civilization oeddwn i orau ac oedd SWOS yn ardderchog. Rwbath fedra i rhoi marc personol arno fo! (fel newid y clybiau neu concro'r byd efo Dyffryn Ogwen :P)

PostioPostiwyd: Sad 15 Maw 2003 10:59 pm
gan Ramirez
Ffycin Zool!! y basdad ffast, oddo'n wych! Well na Sonic ddy blydi Draenog neu Mario a'i gyfaill Lwiji unrhyw ddydd!!

PostioPostiwyd: Sul 16 Maw 2003 9:24 pm
gan Rhodri Nwdls
Hei! na'i ddim derbyn unrhyw diss i Mario, roedd Super Mario World yn gem anghygoel, gwell na Sonic o bell, lot mwy o ddyfnder ac amrywiaeth, a Zool? Wel, does na'm pwynt trio cyfianwnhau gwerth y gem yna. Peil o gachu mot.

PostioPostiwyd: Llun 17 Maw 2003 9:05 am
gan Hogyn o Rachub
Sut elli di ddweud hynna? Spesiali efo'r da-da's bach na yn trio lladd chdi ymhobman!

Nes i fyth pasio'r ail fyd eniwe.

PostioPostiwyd: Llun 17 Maw 2003 10:33 am
gan Rhodri Nwdls
Nes i fyth pasio'r ail fyd eniwe.


Yn union, dangos fod y gem ddim wedi cael ei gynllunio'n iawn ei bod yn rhy annodd i gyflawni. Roedd y setting afrwyddineb (ych, gair crap) yn berffaith ar Mario World, gallu symud mlaen a mlaen heb deimlo'n rhwystredig. Roedd yn rhy hawdd yn ol rhai ond roedd cymaint o bethau eraill i'w darganfod wedi dod i dddiwedd y gem roedd hi'n para am oes wedyn.

PostioPostiwyd: Llun 17 Maw 2003 6:52 pm
gan Ramirez
Pach! Glywesi 'rioed shwt ddwli!
Mario yn ddigon enjoiabl, ond ddim yn cymharu efo'r olmeiti Zool!
Deud gwir, odd well geni Sonic na Mario. Van Basten ar Sensible Soccer yn well na nw'i gyd eniwe :lol: