Morrowind...

Mae bywyd yn arcêd, gyfaill

Morrowind...

Postiogan SbecsPeledrX » Gwe 21 Maw 2003 12:40 pm

Prynodd fy nghariad y gem 'ma a dyw o dim yn gweithio ar ei chyfrifiadur hi felly rhoddodd o i mi.
Faswn i byth wedi cysidro eu brynnu ond mae'n wych. Fatha Elite gynt ond gyda cleddyfau yn lle llongau ofod!!!
Rhithffurf defnyddiwr
SbecsPeledrX
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3057
Ymunwyd: Llun 13 Ion 2003 12:32 pm
Lleoliad: Treffynnon

Postiogan bartiddu » Mer 05 Ebr 2006 12:50 pm

Wel wedi ymladd yn gryf yn erbyn buddsoddi yn y darpar gwastraffwr amser hwn dwi wedi ei archebu heddi, rhywyn arall wedi cael gafael ar Ebargofiant eto? :?
Rhithffurf defnyddiwr
bartiddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2285
Ymunwyd: Sad 21 Chw 2004 12:22 am
Lleoliad: Pentrwyn Cynwyl

Postiogan Al Jeek » Iau 06 Ebr 2006 10:02 pm

Yndw, newydd fod yn chwarae fo ar fy hdtv newydd.
Mae'n wych! 8)

Mae o 5 ohona ni yn y gwaith di gael o (ia, cwmni llawn geeks), a be sy'n dda yw'r ffordd ma pawb wedi cael anturiaethau mor wahanol. Dwi di bod yn dilyn y stori yn eitha da hyd yn hyn tra fod un arall yn gwaith di rhoi wfft i'r stori a'n dwyn a llofruddio fel bywoliaeth. :)
Al Jeek
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 651
Ymunwyd: Sul 27 Gor 2003 6:45 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan bartiddu » Gwe 07 Ebr 2006 11:31 am

Yn cyrraedd 'fory, mae 'na gymaint o 'fuzz' amdano ar wahniaeth forymmau, mae fod yn anhygoel, mae'r sgrinrithiau'n ddigon i dynnu dwr i'r dannedd! Credu wnai jest crwydro oamgylch y wlad fel rhyw fath o Dafydd ap Gwilym :D gwneith y gem hon bara rhyw 2-3 mlynedd mae'n siwr, gobeithio wnaiff y cyfrifiadur ymdopi a'r graffeg!
Rhithffurf defnyddiwr
bartiddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2285
Ymunwyd: Sad 21 Chw 2004 12:22 am
Lleoliad: Pentrwyn Cynwyl

Postiogan Dyn Gwyn Gwirion » Gwe 07 Ebr 2006 12:30 pm

Dwi'n cael fy nhemptio i gael cyfrifiadur newydd / XBox 360 jyst i chwarae Oblivion. Does gen i ddim pres yn amlwg, ond...

Wedi bod yn ail-chwarae Morrowind yn ddiweddar hefyd. Wnes i erioed orffen y gem fel cleddyfwr penigamp, felly rwan dwi'n trio eto fel 'mage'. Gwych o beth. Mae cliff racers yn hynod o annifyr.
Le pain de la mer dans le nuit,
The sweet, sweet sea bread of the sea,
Le grands garcons est dans la boucherie,
The big boys are in the butchers. - R & M
Rhithffurf defnyddiwr
Dyn Gwyn Gwirion
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 739
Ymunwyd: Maw 22 Ebr 2003 8:19 pm
Lleoliad: Bangor / Caerdydd

Postiogan LosinMelysGwyrdd » Maw 11 Ebr 2006 10:30 am

Rwy'n 'Silencer' erbyn hyn yng ngild y llofruddwyr. Gwych o beth yw hi. 'Silencer', gwych!!!
"hhhmmm, I can feel a sexy disturbance in the force".
Rhithffurf defnyddiwr
LosinMelysGwyrdd
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 548
Ymunwyd: Mer 24 Medi 2003 3:00 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan bartiddu » Maw 11 Ebr 2006 11:30 am

:D!
Sut ma' nhw medri cynnwys sut gymaint ar UN cd wnai byth ddeall :ofn:
Wedi dod yn bencampwr yn yr Arena! A finnau hefyd wedi cael gwahoddiad gan gymeriad llechwraidd yn ystod y nos i ymuno hefo'r llofruddwir, a cael cylleth fel anrheg, ma rhaid i fi deithio i fradlofruddio rhyw gymeriad nawr, diar diar :?

Hoffi'r ffaith eich bod medru teithio ar geffyl 'fyd! 8)
Rhithffurf defnyddiwr
bartiddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2285
Ymunwyd: Sad 21 Chw 2004 12:22 am
Lleoliad: Pentrwyn Cynwyl

Postiogan Tronaldo » Mer 12 Ebr 2006 8:46 pm

Dwi di dechrae chwara fo fyd, dwi newydd ymuno'r guild of fighters(neu warriors dwi ddim yn cofio'n iawn). Gem dda hyd yn hyn.
Rhithffurf defnyddiwr
Tronaldo
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 338
Ymunwyd: Maw 24 Chw 2004 2:10 pm
Lleoliad: Cybertron


Dychwelyd i Gemau Cyfrifiaduron

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 7 gwestai

cron