Nethack, gêm y diafol

Mae bywyd yn arcêd, gyfaill

Postiogan nicdafis » Gwe 19 Medi 2003 2:46 pm

O, uffern:

Dyna fi, yn y bocs bach gwyn. I'r dde yw'r Arglwydd Fampyr a oedd gyda sgrol o greu bwystilfod (wedi'i felltitho, felly mae'n creu llu o'r bastads).

Dydy hyn ddim yn edrych yn dda i'r hen Elsi. :?

Ydw i wedi dweud nad oes modd i arbed dy gêm yn Nethack? Os ydw i'n cael fy lladd nawr (dewin lefel 20, gyda bron sydd angen i ennill y gêm), dyna diwedd y gêm i mi, a dw i'n gorfod dechrau 'to.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm

Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan Geraint » Gwe 19 Medi 2003 3:26 pm

Edrych yn wych. O le wy ti'n lawrlwytho y fersiwn ti'n ei ddefnyddio Nic?
Rhithffurf defnyddiwr
Geraint
Cymedrolwr
Cymedrolwr

Negeseuon: 5804
Ymunwyd: Llun 30 Medi 2002 3:35 pm
Lleoliad: Dan garreg mewn ogof dan mynydd gogogoch yn y gofod (in space)

Postiogan Rhodri Nwdls » Gwe 19 Medi 2003 6:30 pm

Nesh i jest clicio ar graphics version yn y setup bit. Dwi'm yn dallt sut ma newid petha yn y setup doc :?

Nesh i fynd fyny'r grisia a nath y gem orffan! Nai sdicio at Treasure Island Dizzy dwi'n meddwl.

Ar nodyn arall, Ydach chi'n gallu downloadio Monkey Island i'r pc rwla?
Maes-eio ers 2002, yo.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhodri Nwdls
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur

Negeseuon: 3061
Ymunwyd: Sad 23 Tach 2002 4:31 pm
Lleoliad: Maesymwstwr

Postiogan Geraint » Gwe 19 Medi 2003 6:33 pm

Rhodri Nwdls a ddywedodd:Nesh i jest clicio ar graphics version yn y setup bit.

Lle? all di rhoi linc? Dwi'n dwp heno
Rhithffurf defnyddiwr
Geraint
Cymedrolwr
Cymedrolwr

Negeseuon: 5804
Ymunwyd: Llun 30 Medi 2002 3:35 pm
Lleoliad: Dan garreg mewn ogof dan mynydd gogogoch yn y gofod (in space)

Postiogan Rhodri Nwdls » Gwe 19 Medi 2003 6:40 pm

Ym! Dwi'm yn gallu ffendio fo rwan. Dwi jyst yn chwara NetHackW.exe a ma'n dod fyny fel graphics.

Step 4: run.

nethack.exe
for the tty interface
nethackw.exe
for the graphical interface

Save and bone files are compatible between these two executables.

Refer to the file README within the zip file for further installation instructions and release notes.

If the game halts with one of these messages:

Common control library is missing.
Common control library is outdated.

then you need to apply the Common Control Library patch
Maes-eio ers 2002, yo.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhodri Nwdls
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur

Negeseuon: 3061
Ymunwyd: Sad 23 Tach 2002 4:31 pm
Lleoliad: Maesymwstwr

Postiogan nicdafis » Sad 20 Medi 2003 9:52 am

Dw i ar OSX i'r Mac, ac mae dewis o "traddodiadol" a "gyda theils" i ni'r goleuedig. Mae fersiwn Windows fan hyn. Edrych fel popeth yn yr un pecyn, jyst angen rhedeg nethackw.exe unwaith ti wedi dat-baco fe.

Nwdls a ddywedodd:Nesh i fynd fyny'r grisia a nath y gem orffan! Nai sdicio at Treasure Island Dizzy dwi'n meddwl.

Welaist ti mo'r neges "Beware: there will be no return?" :rolio:

Ti ddim i fod i fynd lan y stâr gwreiddiol (h.y. y ffordd i mewn i'r daeargelloedd) nes i ti ffeindio dy ffordd reit lawr i'r gwaelod (rhyw 50 lefel), darganfod a churo Dewin Yendor a dwyn ei Amiwlet. Wedyn ti'n mynd lan stâr, ac i'r nefoedd, i'w ddinistrio ar allor dy dduw.

Paid a cholli pwyllau'r coblynnod ar dy ffordd i lawr (mae grisiau ar lefel 2, 3 neu 4 o'r prif ddaeargelloedd. Os wyt ti'n cyrraedd fan na heb twyllo ac heb edrych ar y "spoilers" sy dros y we i gyd, ti'n well rhyfelwr na fi. Dyma tro cyntaf i fi gyrraedd Gehenom (sef, Uffern) heb chwarae o gwmpas gyda'r ffeiliau achub ("scum-saving", mae ffanatics NH yn ei alw).

Un rheswm pam dw i mor frwdfrydig am y gêm 'ma, yw dylai fod yn bosib i greu fersiwn Gymraeg ohoni yn y pen draw. Ond mae angen mwy o gaethweision i'r gêm yn gyntaf...

Dw i'n ddyn dwrg. :crechwen:
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm

Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan Geraint » Mer 24 Medi 2003 9:23 pm

nicdafis a ddywedodd:Dw i ar OSX i'r Mac, ac mae dewis o "traddodiadol" a "gyda theils" i ni'r goleuedig. Mae fersiwn Windows fan hyn. Edrych fel popeth yn yr un pecyn, jyst angen rhedeg nethackw.exe unwaith ti wedi dat-baco fe.

Dwi'n teimlo'n dwp yn gofyn hyn, ond sut da chi'n rhedeg rhywbeth fel ffeil .exe? Dwi'n cofio neud o yn windows 3, ond rioed di neud o ar XP. MS DOS dio neu rhywbeth? :?
Rhithffurf defnyddiwr
Geraint
Cymedrolwr
Cymedrolwr

Negeseuon: 5804
Ymunwyd: Llun 30 Medi 2002 3:35 pm
Lleoliad: Dan garreg mewn ogof dan mynydd gogogoch yn y gofod (in space)

Postiogan SbecsPeledrX » Mer 24 Medi 2003 9:51 pm

jest clicia ar ei icon yn windows explorer neu my computer. Neu clicia start, Run a theipio'r command line. sef..... c:/enw'r ffeil/enw'r ddogfen.exe
Rhithffurf defnyddiwr
SbecsPeledrX
Cymedrolwr
Cymedrolwr

Negeseuon: 3057
Ymunwyd: Llun 13 Ion 2003 12:32 pm
Lleoliad: Treffynnon

Postiogan nicdafis » Mer 24 Medi 2003 10:20 pm

(Os dw i'n cofio yn iawn) Gwasgu'r botwm Start, dewis Run, ffeindio'r rhaglen (Browse) a rho glec ar OK. Dylai hynny weithio os ydy'r rhaglen yn gweithio yn Windows. Y fersiwn diwetha o Nethack wnes i ddefnyddio ar y PC oedd yn rhedeg mewn ffenest MSDOS, felly oedd rhaid gwybod ble oedd y rhaglen a teipio pethau fel hyn mewn ffenest DOS:
Cod: Dewis popeth
CD programs
CD games
CD nethack
nethack.exe

O, bu farw Elsi druan. Ro'n i'n barod i bennu'r gêm, hefyd gyda popeth sydd angen: Lefel 21, AC -47, HP 251, pob math o hudlath, modrwy ac arfwisg hudol sydd ar gael, ac wedyn...

Oedd angen tipyn bach o ddwr sancaidd arna i, felly oedd rhaid i mi gonferto yr unig allar oedd yn handi, cyn mynd i lawr i ladd Rodney, Y Dewin o Yendor. Ww, edrych, ungorn gwyn!

Bastad gêm.

Gobeithio y caf i fwy o lwc gyda Kitano, y Samuri.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm

Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan nicdafis » Gwe 25 Meh 2004 7:44 am

Wedi dechrau chwarae Nethack hen-ysgol, ar-lein yma. Mae'n mynd yn dda, hyd yn hyn.

Cod: Dewis popeth

/    REST    \
/      IN      \
/     PEACE      \

|     ceiriog      |
|       0 Au       |
|   killed by a    |
|    giant rat     |

|       2004       |

Aloha ceiriog the Tourist...

You died in The Dungeons of Doom on dungeon level 3 with 216 points,
and 0 pieces of gold, after 695 moves.
You were level 1 with a maximum of 10 hit points when you died.
--More--
You reached the 534th place on the top 1000 list.

Chwarae teg! Dw i'n hanner ffordd lan i siart a dw i heb gyrraedd lefel 2 eto.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm

Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

NôlNesaf

Dychwelyd i Gemau Cyfrifiaduron

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 3 gwestai

cron