Dwi'n bwriadu cael band-llydan yn o fuan, a hynny yn benodol er mwyn cael defnyddio Xbox Live.
Yr hyn dwisio wybod ydi...
Oes yna ddefnyddwyr arall o'r gwasanaeth ar y maes 'ma? I ni gael pencampwriaethau ac ati drwy gyfrwng y Gymraeg? Neu hyd yn oed sefydlu clan Cymraeg i gicio tîn dros y byd i gyd. Allwn ni alw'n hunan yn Meibion Glyndwr neu rwbath felly, a drysu pawb drwy gyfathrebu mewn iaith hynafol, iaith grefydd- sori. Gwrando gormod ar Saizmundo dyddia'ma.
Rwyn amdani?[/i]