Cymro Sinistr a ddywedodd:Dydi cardiau graffeg ATI ddim yn chwara'r gem ar ddwbl FPS na rhai GeForce??? Sydd yn broblem arall i mi, gan mai GeForce FX sgenai
Mae gwahaniaeth mawr rhwng un cachi geforce ac un immense geforce. Yr un peth efo ATI. Mae'n wir i ddweud fod halflife yn well ar ATI a doom 3 ar Nvidia, ond os mae un high end gen ti, ti'n saff anyway. Mae'r 9800 pro (£130) wedi passio ei orau nawr, a ti well off aros nes rol dolig pan fydd y prisiau'n gostwng (ond gyda'r gem yma yn dod allan mis nesa, a elli di ddal dy hun yn nol?) a chael radeon x800 (£240) neu geforce 6800. (£200) neu ultra (£350)
A dwi'n medru conffyrmio bod y 128mb o'r 6800 (Mae hwn yn 256-bit gerllaw) yn ol y benchmarks dwi di gweld yn gwneud yn well na'r 9800xt na'r 5950 256mb a mwy neu lai yr un peth a x800 ar 1280x1024 yn doom3. A'r cwestiwn am orfod rhoi'r textures lawr? Mae'r frame rate yn hen ddigon da ar 1280x1024 (45fps) ar textures uchel cyn belled a bo ti ddim yn rhoi'r antialias yn rhy uchel.
Mwnci Banana Brown a ddywedodd:Ma texture Doom yn gaca! MSPaint job siwr y fod.
Tn chwarae hwn ar yr hen Acorn?