Medieval Total War ...... mae'r llychlynwyr wedi cyrraedd!!!

Mae bywyd yn arcêd, gyfaill

Medieval Total War ...... mae'r llychlynwyr wedi cyrraedd!!!

Postiogan SbecsPeledrX » Iau 22 Mai 2003 1:10 pm

Top. O'r diwedd dwi di byw fy mreuddwyd o greu Cymru rhydd. Dwi di chwarae'r campaign am wythnos gyfan, bron heb gysgu - ma cariad fi'n meddwl fod fi'n nerd ond os dyna pris rhyddid - gret!

Dyw hi ddim yn hawdd, ma Cymru'n eitha crap i gychwyn. Enwau Cymraeg (gyda cyfieithiad saesneg oddi tannynt) ar y teitlau hefyd. Trysorydd, Arweinydd a Tywysog!
Rhithffurf defnyddiwr
SbecsPeledrX
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3057
Ymunwyd: Llun 13 Ion 2003 12:32 pm
Lleoliad: Treffynnon

Postiogan Gruff Goch » Iau 22 Mai 2003 1:21 pm

Dwi 'di cwblhau hwn unwaith yn barod efo'r Cymru (ar 'Normal'), a dwi wrthi'n trio eto ond yn newid fy nhactegau. Mae'r enwau Cymraeg yn dda ar y cyfan, ond mae ambell i Seisnigiad o enwau Cymraeg wedi llithro i mewn e.e. David, Howel, Adam, Griffith (mae Gruffydd a Hywel yno hefyd), a dydi enwau Normano-Gymreig fel William a Robert ddim yn addas ar gyfer y cyfnod. Serch hynny, mae'r gêm yn wych!

Ydi'r Vikings wedi ymosod arnat ti eto Sbecs? Mae nhw wedi bod yn ddistaw iawn efo fi, ac mae'r Gwyddelod yn cadw i'w hynys- y Mersiaid ydi'r prif elyn gen i tro 'ma a'r tro cynt, er i fi drio bod yn ffrindiau!
Rhithffurf defnyddiwr
Gruff Goch
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1148
Ymunwyd: Iau 12 Rhag 2002 1:22 pm
Lleoliad: neuadd fawr rhwng cyfyng furiau

Postiogan SbecsPeledrX » Iau 22 Mai 2003 1:29 pm

Well, mae'r gwyddelod newydd cicio fi allan o'r Iwerddon pan oeddwn yn brysyr yn ymladd y blydi Saeson. Ond chwarae teg roedd yr ymerodraeth gymreig :winc: yn rheoli mwy o'u gwlad na ma'r Brits yn gwneud rwan felly dwi ddim yn eu beio nhw!

Dwi di chwalu'r Northumbrians ond natho nhw, y sacsoniaid ar mersiaid ymosod arnaf fi ar yr un pryd. Ma Gwent a Powys yn nwylo'r estroniaid ond gweddill Cymru a pobman rhwng gogledd Cymru a'r Alban yn perthyn i'r Cymry bellach.

Bron heb weld llychlynwr. Ma fy llynges yn eitha cryf a welais un neu ddau fyny yn yr Alban ond dwi ddim am bigo ffeit efo'r sweaty socks felly dwi di gadael nhw i frwydro'u gilydd.

Pan gai band llydan i fy nhw newydd wythnos nesaf fydd rhaid ni chwarae yn erbyn ein gilydd ar lein met.

Turn around touch the ground, baggsie im Wales!
Rhithffurf defnyddiwr
SbecsPeledrX
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3057
Ymunwyd: Llun 13 Ion 2003 12:32 pm
Lleoliad: Treffynnon

Postiogan SbecsPeledrX » Iau 22 Mai 2003 3:59 pm

SbecsPeledrX a ddywedodd:Well, mae'r gwyddelod newydd cicio fi allan o'r Iwerddon pan oeddwn yn brysyr yn ymladd y blydi Saeson. Ond chwarae teg roedd yr ymerodraeth gymreig :winc: yn rheoli mwy o'u gwlad na ma'r Brits yn gwneud rwan felly dwi ddim yn eu beio nhw!

Dwi di chwalu'r Northumbrians ond natho nhw, y sacsoniaid ar mersiaid ymosod arnaf fi ar yr un pryd. Ma Gwent a Powys yn nwylo'r estroniaid ond gweddill Cymru a pobman rhwng gogledd Cymru a'r Alban yn perthyn i'r Cymry bellach.

Bron heb weld llychlynwr. Ma fy llynges yn eitha cryf a welais un neu ddau fyny yn yr Alban ond dwi ddim am bigo ffeit efo'r sweaty socks felly dwi di gadael nhw i frwydro'u gilydd.

Pan gai band llydan i fy nhw newydd wythnos nesaf fydd rhaid ni chwarae yn erbyn ein gilydd ar lein met.

Turn around touch the ground, baggsie im Wales!


Byggar roedd hi'n iawn. Dwi'n nerd!
Rhithffurf defnyddiwr
SbecsPeledrX
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3057
Ymunwyd: Llun 13 Ion 2003 12:32 pm
Lleoliad: Treffynnon

Postiogan Gruff Goch » Gwe 23 Mai 2003 6:05 pm

SbecsPeledrX a ddywedodd:Pan gai band llydan i fy nhw newydd wythnos nesaf fydd rhaid ni chwarae yn erbyn ein gilydd ar lein met.


Sgen i'm band llydan adre'n anffodus (rhy bell o'r gyfnewidfa), ond ma' gen i ail linell ffon felly fe allwn ni roi go arni.

Os wyt ti wirioneddol ishio crasfa, hynny yw... ;)
Rhithffurf defnyddiwr
Gruff Goch
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1148
Ymunwyd: Iau 12 Rhag 2002 1:22 pm
Lleoliad: neuadd fawr rhwng cyfyng furiau

Postiogan Madrwyddygryf » Maw 21 Rhag 2004 9:02 pm

Sut ydech chi yn gallu chwarae fel y Cymry dwed ?
Rhithffurf defnyddiwr
Madrwyddygryf
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2230
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 6:32 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Al » Maw 21 Rhag 2004 10:11 pm

dwi di cymeryd diddordeb yn gemau total war y diweddar ma! Clywais andan un nhw y tro gynta trwy y rhaglen "time commanders"(y gem newydd oedd a nhw yn defnyddio sef total war: rome) ac oedd yn edrych yn brilliant o gem! Newydd ddod allan mae 'Total war: rome' ac rwyf yn gobeithio mi fydd ai yn cael o ar diwrnod dolig! Ond ers da chi wedi son amdan total war medival ac cael chware fel y cymru dwi di gwirionni(ella ar ol lot o sgafio nai gal hwn fyd) clywad fod hyn ar gael! Ond dior ots mi fydd ai yn digon hapus gyda yr un rome! Ydi gemau total war yn rhai da? Dwi heb chwre nhw oblaen just mynd yn ol syd oedd yn edrych ydwi(wbath dwi ddim yn neud fel arfer)?
Al
 

Postiogan Mega-Arth » Mer 22 Rhag 2004 12:32 am

Nesi brynu Rome chydig bach yn ol a mae o yn briliant. Y gem gora dwi erioed wedi ei chwara yn sicr.

Ti tecnicali yn gallu chwara fatha cymru hefyd achos ma'r Celtiaid Prydeinig yn un o'r ochrau ti'n gallu dewis. Un o arfau arbennig y Brythoniaid ydi pobl sy'n taflu pennau wedi gorchuddio a quicklime :crechwen: .
Rhithffurf defnyddiwr
Mega-Arth
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 162
Ymunwyd: Llun 25 Awst 2003 7:19 pm
Lleoliad: Alaska

Postiogan Macsen » Mer 22 Rhag 2004 1:30 am

Be am i ni greu ein 'mod' (addasiad?) ein hunain i Rome: Total War, lle rwyt ti'n cwffio o safbwynt y Cymru Cymraeg.

Byddin o geltiaid noeth, blewog, a budr. :crechwen:
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan Al » Iau 23 Rhag 2004 11:07 pm

Dwi wedi cael total war medieval wan oherwydd nes i weld box set o hwna ar expansion pack o vikings ar gael yn gamestation am mond £20, fellu meddyliais 'pam ddim! Mae o yn gem da chwara teg, mae y vikins yn lethal yndda fo, triodd nhw cymud cernyw gan dda fi a mond ta 99 o pesanst oedd gena fi, ond mond 2 boi oedd ganddyn nhw! Massacr ia, anghywir nhw nath massacyrio fi! Blydi hysskarls nhw yn malu 99 o pesanst fi! Damia nhw, wel dwin ffrindiau da nhw nawr ar mersiaid na! Mae heina yn cymud bob man fyd! Ond dwi gyda byddin reit fawr ond pethau crap di nhw! Dwisio mwy o fferins!

Rhywun eisiau gem ar gamespy rhywbryd?
Al
 

Nesaf

Dychwelyd i Gemau Cyfrifiaduron

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 7 gwestai

cron