gan Gruff Goch » Sul 01 Meh 2003 11:11 pm
Mae GTA3 ar y PC yn adnybyddus fel un o'r gemau mwyaf buggy erioed. Doedd y ffontiau ddim yn gweithio ar fy nghyfrifiadur i, ac o'n i'n cael y broblem efo'r cefndir yn troi'n sgwariau mawr du hefyd.
Yn ffodus, dydi Vice City ddim yn dioddef o'r problemau hynny- mae'n rhedeg yn wych ar fy nghyfrifiadur i (neu, mi roedd- ond stori arall ydi honna...). Mae'r graffeg dipyn yn well hefyd.