gan Gruff Goch » Mer 28 Mai 2003 11:47 pm
Newydd ei chael hi ar PC heddiw- ma hi'n wych! Ma'r ddinas yn fwy cyflawn rhywsut, ma 'na fwy o geir, a pethau fel motobeics a hofrenyddion. Ar y cyfan ma' 'na dipyn mwy o amrywiaeth na'r cynta, ac mae'r graffeg yn well (ac yn well na graffeg y PS2 hefyd). Dwi newydd fod yn rhedeg pobl drosodd efo bygi golf. Class.
Ma'r soundtrack yn wych hefyd- Ozzy, Herbie Hancock a'r holl synth-pop erchyll o'r 80au (er, dwi'n mwynhau gyrru rownd efo Billy Jean ar y Radio- clasur).
Fas dal yn well gen i os fasa'r peth yn perspectif-cyntaf fel quake neu medal of honour pan wyt ti'n cerdded, ond dyna ni. Werth ei gael.