gan Cwlcymro » Llun 31 Ion 2005 2:21 pm
Sioni, da ni wedi bod dros y ddadl olew fil gwaith. Os wyt ti isho ei ail-agor, dechreua edefyn "Ai Olew oedd pwrpas y Rhyfel" (dwi'm yn siwr faint neith ymateb, ond ma'n well na cymeryd drosodd edefyn arall er ei mwyn)
Ma'r cwestiwn o fuddiana y rhyfel yn un ddylsa gael ei drafod ddo. Yn enwedig ar ol etholiad ddoe, lle y gwnaeth 60% o Iraciaid bledleisio.
Yn sicr ma na dda wedi dod o'r rhyfal. Ma etholiad ddoe yn brawf amlwg o hynny. Ond ma na lot o ddrwg hefyd. Mi farwodd dros 50 o bobl yn Irac ddoe, 10 o rheini yn Brydeinwyr.
Dwi'n gwybod fod pawb yn anghytuno pan da ni'n dadla os oesna fwy o ddrwg ddrwg ta da, ond ma'r cwestiwn o werth y pres yn un y dylsa pawb, o Sioni i Garnet feddwl amdano.
Efo'r pres anferthol sy'n mynd i Irac, mi fysa ni wedi gallu taclo problemau'r byd, newyn, Aids, tsunamis, diffyg addysg yn y trydydd byd yn llawer mwy effeithiol. Heb son am broblemau yn America a Phrydain, cyffuriau, "binge drinking", yr NHS, diffyg athrawon, diffyg swyddi etc.
Os yda chi yn credu fod Irac mewn gaweth stad na cyn y rhyfal, yn amlwg newch chi ddim credu fod o werth y pres. Ond be am y bobl sy'n cefnogi'r rhyfal? Ydi'r da da chi'n weld yn Irac werth mwy na'r da fysa wedi ei greu drwy wario'r pres ar betha erill?
Wales? Whales? Do you mean 'da fish, or them singing bastards?