Faint mae rhyfel Irac yn gostio?

Newyddion, protestiadau, trafod

Cymedrolwr: Cwlcymro

Rheolau’r seiat
Newyddion, protestiadau, trafod. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Cwlcymro » Maw 01 Chw 2005 1:22 pm

Mi fydd hi'n amhosib mesur y gost ddynol, gan fod America a Phrydain yn gwrthod cyfri faint o Iraciaid mae nhw yn ei lladd.

Da ni yn gwybod am rhai petha da a drwg yn irac yn barod (cael gwared o Sadam, galluogi Iraciaid i bledleisio, y miloedd sydd wedi ei lladd yn y rhyfel, y trefi sydd wedi ei dinistrio, y codiad/lleihad (dibynu ar eich barn eto) ar y nifer o derfysgwyr yn y byd)
Ond dwi'n cytuno fod bron popeth yn Irac ar y funud yn "amser a ddengys". Pwy a wyr os wneith y system ddemocrataidd lwyddo, da ni'm yn gwybod os wneith y lladd byth stopio, da ni'm yn gwybod am ba hyd fydd ein milwyr ni yn gorfod aros etc.

Ond wrth edrych ar y peth o ochr arianol yn unig, allai ddim gweld cyfiawnhad. Er na alla ni fyth wybod ar be fysa'r arian wedi ei wario, mi fysa hi wedi bod yn bosib gwella bywyd llawer mwy o bobl drwy ei wario mewn llefydd eriall. Jusd dychmyga y gwelliana y bysa ni wedi gallu ei roi i Affrica. Sawl bywyd fysa wedi ei achub drwy daclo ei problemau enbyd nhw? Sawl person fysa yn byw bywyd gwell? Dwi'm yn meddwl alla ni fyth wybod, ond dwi'n dychmygu y bysa fo llawer mwy na unrhyw dda sydd wedi ei wneud yn Irac (heb son am yr holl ddrwg).

Gyda llaw, hyd yn oed os fysa Irac wedi bod yn nefoedd am y flwyddyn diwetha. Dim lladd, dim Abu Ghraib, dim brwydr Fallujah, mi fyswn i dal yn anghyffyrddus am y rhyfal.
Dwi ddim yn dilyn y syniad o "the end justifies the means". Mynd i Irac i stopio Sadam ddefnyddio WMD's wnaetho ni. Dyna be bledleisiodd y Senedd arno, dyna be ddywedodd Tony Blair wrth y bobl a'r milwyr.
Mi ddywedodd Blair rwbath tebyg i "We are not going over there to overthrow Saddam, if he gave up his WMD today, we would not invade and he can remain in power".
Mae tacteg Blair o droi ffocws pawb ar doplo Saddam yn afiach. Hyd yn oed os fysa Irac yn nefoedd, mi fyswn i dal yn disgwyl i Blair ymddiswyddo.
Wales? Whales? Do you mean 'da fish, or them singing bastards?
Cwlcymro
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2874
Ymunwyd: Sul 15 Meh 2003 1:12 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Garnet Bowen » Maw 01 Chw 2005 2:16 pm

Cwlcymro a ddywedodd:Ond wrth edrych ar y peth o ochr arianol yn unig, allai ddim gweld cyfiawnhad. Er na alla ni fyth wybod ar be fysa'r arian wedi ei wario, mi fysa hi wedi bod yn bosib gwella bywyd llawer mwy o bobl drwy ei wario mewn llefydd eriall. Jusd dychmyga y gwelliana y bysa ni wedi gallu ei roi i Affrica. Sawl bywyd fysa wedi ei achub drwy daclo ei problemau enbyd nhw? Sawl person fysa yn byw bywyd gwell? Dwi'm yn meddwl alla ni fyth wybod, ond dwi'n dychmygu y bysa fo llawer mwy na unrhyw dda sydd wedi ei wneud yn Irac (heb son am yr holl ddrwg).

Gwendid dy ddadl di ydi ei bod hi'n canolbwyntio ar faint o arian sy'n cael ei wario, yn hytrach na sut mae o'n cael ei wario. Tydw i ddim yn ama fod 'na ardaloedd o'r byd fyddai'n medru defnyddio'r biliynnau a wariwyd yn Irac, ond os wyt ti'n pwmpio arian i mewn i wledydd sydd a strwythr llywodraethol llwgr, mi wyt ti'n medru gwneud y broblem yn waeth. I raddau, mae gwario arian ar y rhyfel yn Irac yn fuddsoddiad. Dwyt ti ddim yn tyllu fynhonnau, na'n imiwneiddio plant rhag afiechyd, ond mi wyt ti'n creu sefydliadau a fydd - gobeithio - yn tyfu i fedru cymeryd cyfrifoldeb dros y teip yma o beth eu hunain, yn y dyfodol. Yn yr ystyr yma, mae'r arian a wariwyd ar y rhyfel yn mynd i fynd ymhellach.

CwlCymro a ddywedodd:Gyda llaw, hyd yn oed os fysa Irac wedi bod yn nefoedd am y flwyddyn diwetha. Dim lladd, dim Abu Ghraib, dim brwydr Fallujah, mi fyswn i dal yn anghyffyrddus am y rhyfal.
Dwi ddim yn dilyn y syniad o "the end justifies the means". Mynd i Irac i stopio Sadam ddefnyddio WMD's wnaetho ni. Dyna be bledleisiodd y Senedd arno, dyna be ddywedodd Tony Blair wrth y bobl a'r milwyr.
Mi ddywedodd Blair rwbath tebyg i "We are not going over there to overthrow Saddam, if he gave up his WMD today, we would not invade and he can remain in power".
Mae tacteg Blair o droi ffocws pawb ar doplo Saddam yn afiach. Hyd yn oed os fysa Irac yn nefoedd, mi fyswn i dal yn disgwyl i Blair ymddiswyddo.

Dwi'n gyndyn o droi hon yn ddadl arall ynglyn a chyfiawnhad y rhyfel, ac mi ydw i'n gwrthod amddiffyn polisi Blair. Mi oeddwn, ac mi ydw, i yn cefnogi'r rhyfel am fy rhesymau fy hun, rhesymau nad oedd ganddyn nhw unrhywbeth i'w gwneud a WMDs. Ac maae fy safbwynt i am 'gymhellion vs. canlyniadau' yn un sydd wedi ei thrafod ddigon yn barod.
Rhithffurf defnyddiwr
Garnet Bowen
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2085
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 11:45 am
Lleoliad: Y Fro Gymraeg

Postiogan ffwrchamotobeics » Mer 02 Chw 2005 10:05 am

Gyda llaw, pam wyt ti'n cefnogi'r rhyfel anghyfreithlon eto Garnet?
Rhithffurf defnyddiwr
ffwrchamotobeics
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 912
Ymunwyd: Mer 27 Awst 2003 9:06 am
Lleoliad: llanbibo

Postiogan Cwlcymro » Mer 02 Chw 2005 10:26 am

Plis duda ma jocian wti ffwrch! Dwi'm yn meddwl fod na unrhyw ddau berson wedi gwneud ei barn yn fwy clir ar y rhyfal na Sioni a Garnet!!

Gwendid dy ddadl di ydi ei bod hi'n canolbwyntio ar faint o arian sy'n cael ei wario, yn hytrach na sut mae o'n cael ei wario. Tydw i ddim yn ama fod 'na ardaloedd o'r byd fyddai'n medru defnyddio'r biliynnau a wariwyd yn Irac, ond os wyt ti'n pwmpio arian i mewn i wledydd sydd a strwythr llywodraethol llwgr, mi wyt ti'n medru gwneud y broblem yn waeth.

Dwi'n sylwi fod pres i lywodraethau llwgr yn diflanu. Ond mae na ffyrdd lot gwell o wella bywyd pobl Affrica na roi siec blanc i'w llywodraethau.

Pan oni yn Zambia, yr un stori glwyson ni gan bawb, ma adrannau'r llywodraeth sy'n derbyn cymorth rhyngwladol yn dreifio o gwmpas mewn 4x4's hyfryd ect, tra nad oedd y bobl dlawd yn gweld ceiniog.
Gweithio drwy elusenau profiadol (Groes Goch etc), efo cydweithrediad (ond dim dan reolaeth) llywodraethau sydd ei eisiau.

Dwyt ti ddim yn tyllu fynhonnau, na'n imiwneiddio plant rhag afiechyd, ond mi wyt ti'n creu sefydliadau a fydd - gobeithio - yn tyfu i fedru cymeryd cyfrifoldeb dros y teip yma o beth eu hunain, yn y dyfodol.

Ond am $200bn (neu beth bynnag ydi cyfanswm gwariant America, Prydain a'r gwledydd arall aeth i ryfel, yn ogystal a gwaraiant yr ail-adeiladu) mi fysa chdi'n gallu helpu llawer o sefydliadau i gymeryd cyfrifoldeb yn y dyfodol. Heb yr angen am ryfel mi fysa'r pres yn mynd yn lot bellach ac yn helpu llawer mwy o bobl.
(dwi'n sylwi ma dadl academaidd ydi hi, a heb ryfel Irac ma'n siwr y fysa America wedi gwario'r pres ar lanio ar Mars neu rwbath fel yna!)
Wales? Whales? Do you mean 'da fish, or them singing bastards?
Cwlcymro
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2874
Ymunwyd: Sul 15 Meh 2003 1:12 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Garnet Bowen » Mer 02 Chw 2005 11:02 am

Cwlcymro a ddywedodd:

Mewn unrhyw ddadl wleidyddol, mi fydd gan bawb eu blaenoriaethau. Dechreua di drafod y ffordd y mae'r celfyddydau'n cael eu hariannu ym Mhrydain, a chyn bo hir, mi fydd 'na rywun wedi gofyn "Pam na fedrwn ni ddim gwario'r pres yma ar ysbytai/ysgolion/plismyn?".

Dwi'n cydymdeimlo efo dy safbwynt di. Ella bod 'na well ffyrdd o wario'r biliynnau a aeth i ariannu'r rhyfel. Mae'r arian yma yn cael ei ddefnyddio ar brosiect sydd - yn fy marn i - yn mynd i fod o fudd i'r dwyrain canol a'r byd Islamaidd. Ond mae hefyd yn mynd i fod o fudd i'r gorllewin. Bydd llywodraeth ddemocrataidd, sefydlog, yn Irac yn helpu i sefydlogi prisiau olew, a fydd yn cael effaith ar yr economi fyd-eang. A fy ngobaith i ydi bydd cyfundrefn newydd, ddemocrataidd, yn helpu i bontio'r gagendor rhwng y byd Islamaidd a'r gorllewin, rhywbeth sy'n holl-bwysig os ydym ni am danseilio terfysgaeth Islamaidd.
Rhithffurf defnyddiwr
Garnet Bowen
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2085
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 11:45 am
Lleoliad: Y Fro Gymraeg

Postiogan Garnet Bowen » Mer 02 Chw 2005 11:03 am

Garnet Bowen a ddywedodd:
Cwlcymro a ddywedodd:
Dwyt ti ddim yn tyllu fynhonnau, na'n imiwneiddio plant rhag afiechyd, ond mi wyt ti'n creu sefydliadau a fydd - gobeithio - yn tyfu i fedru cymeryd cyfrifoldeb dros y teip yma o beth eu hunain, yn y dyfodol.

Ond am $200bn (neu beth bynnag ydi cyfanswm gwariant America, Prydain a'r gwledydd arall aeth i ryfel, yn ogystal a gwaraiant yr ail-adeiladu) mi fysa chdi'n gallu helpu llawer o sefydliadau i gymeryd cyfrifoldeb yn y dyfodol. Heb yr angen am ryfel mi fysa'r pres yn mynd yn lot bellach ac yn helpu llawer mwy o bobl.
(dwi'n sylwi ma dadl academaidd ydi hi, a heb ryfel Irac ma'n siwr y fysa America wedi gwario'r pres ar lanio ar Mars neu rwbath fel yna!)

Mewn unrhyw ddadl wleidyddol, mi fydd gan bawb eu blaenoriaethau. Dechreua di drafod y ffordd y mae'r celfyddydau'n cael eu hariannu ym Mhrydain, a chyn bo hir, mi fydd 'na rywun wedi gofyn "Pam na fedrwn ni ddim gwario'r pres yma ar ysbytai/ysgolion/plismyn?".

Dwi'n cydymdeimlo efo dy safbwynt di. Ella bod 'na well ffyrdd o wario'r biliynnau a aeth i ariannu'r rhyfel. Ond nid prosiect elusenol ydi hwn - mae 'na fantais i ni hefyd. Mae'r arian yma yn cael ei ddefnyddio ar brosiect sydd - yn fy marn i - yn mynd i fod o fudd i'r dwyrain canol a'r byd Islamaidd. Ond mae hefyd yn mynd i fod o fudd i'r gorllewin. Bydd llywodraeth ddemocrataidd, sefydlog, yn Irac yn helpu i sefydlogi prisiau olew, a fydd yn cael effaith ar yr economi fyd-eang. A fy ngobaith i ydi bydd cyfundrefn newydd, ddemocrataidd, yn helpu i bontio'r gagendor rhwng y byd Islamaidd a'r gorllewin, rhywbeth sy'n holl-bwysig os ydym ni am danseilio terfysgaeth Islamaidd.
Rhithffurf defnyddiwr
Garnet Bowen
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2085
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 11:45 am
Lleoliad: Y Fro Gymraeg

Postiogan Cwlcymro » Iau 03 Chw 2005 4:55 pm

Ond mae hefyd yn mynd i fod o fudd i'r gorllewin. Bydd llywodraeth ddemocrataidd, sefydlog, yn Irac yn helpu i sefydlogi prisiau olew, a fydd yn cael effaith ar yr economi fyd-eang

Dwi'n siwr y bydd Esso wrth ei bodd............

http://news.bbc.co.uk/1/hi/business/4231693.stm

:winc: :P
Wales? Whales? Do you mean 'da fish, or them singing bastards?
Cwlcymro
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2874
Ymunwyd: Sul 15 Meh 2003 1:12 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Sioni Size » Gwe 04 Chw 2005 1:35 pm

Garnet Bowen a ddywedodd:Mae hi'n ddigon teg dy fod ti'n holi beth ydi cost y rhyfel. Ond onid ydi hi hefyd yn deg gofyn be 'da ni'n ei gael am ein pres?

Pwy ydi 'ni'? Pawb yn y byd? Pawb sy'n byw dan ddemocratiaeth? Y 'Gorllewin'? Ni British? Diffinia 'ni' ac efallai fyddai'n deall pam fod dyfyniad Bush mor ddi-sail ac allan o'i gyd destun.

Cwlcymro
Sioni, da ni wedi bod dros y ddadl olew fil gwaith. Os wyt ti isho ei ail-agor, dechreua edefyn "Ai Olew oedd pwrpas y Rhyfel".

A wele'r neges olaf gennyt. Ddim mor hawdd i beidio ystyried yr aur du wrth son am fuddianau'r rhyfel nacdi Cwlcymro. A mae'r Thatcheriaeth rhonc mae Garnet yn ei arddel yma fod gwella economi'r ....wel, Prydain ac UDA... yn mynd i wella'r byd i gyd yn grwn yn y pendraw yn ymgais gywilyddus i gyfiawnhau'r rhyfel drwy theoris 'trickle down' Thatcher - gadewch i'r ychydig wneud eu helw anferth a bydd yr arian yn ffendio'i ffordd lawr i'r mwyafrif yn naturiol. Ha ffycin ha.
Rhithffurf defnyddiwr
Sioni Size
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2302
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 11:43 pm
Lleoliad: Pen Llyn

Postiogan Garnet Bowen » Gwe 04 Chw 2005 2:05 pm

Sioni Size a ddywedodd: Mae'r Thatcheriaeth rhonc mae Garnet yn ei arddel yma fod gwella economi'r ....wel, Prydain ac UDA... yn mynd i wella'r byd i gyd yn grwn yn y pendraw yn ymgais gywilyddus i gyfiawnhau'r rhyfel drwy theoris 'trickle down' Thatcher - gadewch i'r ychydig wneud eu helw anferth a bydd yr arian yn ffendio'i ffordd lawr i'r mwyafrif yn naturiol. Ha ffycin ha.

Toes gen i ddim byd i'w ddeud wrth theori trickle-down. Mae'n rhaid cael strwythr gwleidyddol cenedlaethol sy'n medru sicrhau fod twf economaidd byd-eang o fantais i'r gymdeithas gyfan. Tydi cyfoeth ddim yn mynd i gael ei drosglwyddo i'r tlodion ar ei ben ei hun. Ond mae'n rhaid i chdi sicrhau fod 'na gyfoeth yn cael ei greu, er mwyn ei drosglwyddo i'r tlodtaf.

Mae dirwasgiad economaidd yn gwneud mwy o niwed i'r rhai sydd ar waelod y pentwr nac i'r rhai sydd ar y top. Tydi economi ansefydlog sydd mewn perygl o ddadfeilio o ddim help i drigolion tlota'r byd.
Rhithffurf defnyddiwr
Garnet Bowen
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2085
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 11:45 am
Lleoliad: Y Fro Gymraeg

Postiogan Sioni Size » Gwe 04 Chw 2005 2:35 pm

Mae'n rhaid cael strwythr gwleidyddol cenedlaethol sy'n medru sicrhau fod twf economaidd byd-eang o fantais i'r gymdeithas gyfan

Ai hyn sydd i'w weld ar waith yn Irac? Dyma yw/fydd sgil effaith y rhyfel? Dyma un o dy resymau am gefnogi'r antur?

Beth ydi treth llywodraeth Blair ar betrol? 47c y litr? Mae Shell a'r gweddill wedi gwneud yr elw aruthrol mond drwy sgimio ceiniog o elw ar bob litr. O ryfel hyfryd, gyfiawn. O economi wych. Siwr caiff pobl Irac weld canlyniad y preifateiddio rhonc o'u hasedau yn dod a buddianau iddyn nhw, sydd ar waelod y peil fach yma, yn y pendraw. Eto, does neb yn medru darogan y dyfodol.
Rhithffurf defnyddiwr
Sioni Size
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2302
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 11:43 pm
Lleoliad: Pen Llyn

Nôl

Dychwelyd i Rhyfel a Heddwch

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 9 gwestai

cron