Mi fydd hi'n amhosib mesur y gost ddynol, gan fod America a Phrydain yn gwrthod cyfri faint o Iraciaid mae nhw yn ei lladd.
Da ni yn gwybod am rhai petha da a drwg yn irac yn barod (cael gwared o Sadam, galluogi Iraciaid i bledleisio, y miloedd sydd wedi ei lladd yn y rhyfel, y trefi sydd wedi ei dinistrio, y codiad/lleihad (dibynu ar eich barn eto) ar y nifer o derfysgwyr yn y byd)
Ond dwi'n cytuno fod bron popeth yn Irac ar y funud yn "amser a ddengys". Pwy a wyr os wneith y system ddemocrataidd lwyddo, da ni'm yn gwybod os wneith y lladd byth stopio, da ni'm yn gwybod am ba hyd fydd ein milwyr ni yn gorfod aros etc.
Ond wrth edrych ar y peth o ochr arianol yn unig, allai ddim gweld cyfiawnhad. Er na alla ni fyth wybod ar be fysa'r arian wedi ei wario, mi fysa hi wedi bod yn bosib gwella bywyd llawer mwy o bobl drwy ei wario mewn llefydd eriall. Jusd dychmyga y gwelliana y bysa ni wedi gallu ei roi i Affrica. Sawl bywyd fysa wedi ei achub drwy daclo ei problemau enbyd nhw? Sawl person fysa yn byw bywyd gwell? Dwi'm yn meddwl alla ni fyth wybod, ond dwi'n dychmygu y bysa fo llawer mwy na unrhyw dda sydd wedi ei wneud yn Irac (heb son am yr holl ddrwg).
Gyda llaw, hyd yn oed os fysa Irac wedi bod yn nefoedd am y flwyddyn diwetha. Dim lladd, dim Abu Ghraib, dim brwydr Fallujah, mi fyswn i dal yn anghyffyrddus am y rhyfal.
Dwi ddim yn dilyn y syniad o "the end justifies the means". Mynd i Irac i stopio Sadam ddefnyddio WMD's wnaetho ni. Dyna be bledleisiodd y Senedd arno, dyna be ddywedodd Tony Blair wrth y bobl a'r milwyr.
Mi ddywedodd Blair rwbath tebyg i "We are not going over there to overthrow Saddam, if he gave up his WMD today, we would not invade and he can remain in power".
Mae tacteg Blair o droi ffocws pawb ar doplo Saddam yn afiach. Hyd yn oed os fysa Irac yn nefoedd, mi fyswn i dal yn disgwyl i Blair ymddiswyddo.