Faint mae rhyfel Irac yn gostio?

Newyddion, protestiadau, trafod

Cymedrolwr: Cwlcymro

Rheolau’r seiat
Newyddion, protestiadau, trafod. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Faint mae rhyfel Irac yn gostio?

Postiogan Cardi Bach » Gwe 28 Ion 2005 10:50 am

Dyma gost y rhyfel - arian America - hyd yma.

Faint roddwyd wedi trychuneb y Tsunami?
Faint sy'n cael ei roi i leddfu dyled y Trydydd Byd?

Mae pris ar bopeth.
Democratiaeth.
Bywyd un person.
Bywyd 100,000 o bobl.
Addysg a iechyd gwlad gyfan.
Iechyd meddwl cenhedlaeth gyfan.
Teuluoedd cannoedd o filoedd o blant.

Dyma'r pris.
:(
Rhithffurf defnyddiwr
Cardi Bach
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2694
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 7:54 am
Lleoliad: Gal

Postiogan Sioni Size » Gwe 28 Ion 2005 12:01 pm

Ond siawns Cardi na fedri di weld fod y rhyfel yma yn gwneud lawer mwy o ddaioni i ddynol ryw na chael gwared o newyn ac afiechyd. Canlyniadau sy'n cyfri, nid cymhellion.
Ti'n siarad fel fod gan arweinwyr y byd rhydd bwrpas arall heblaw achub Irac rhag Saddam ddrwg a'r byd rhag WMD.
Rhithffurf defnyddiwr
Sioni Size
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2302
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 11:43 pm
Lleoliad: Pen Llyn

Postiogan Garnet Bowen » Gwe 28 Ion 2005 12:13 pm

Ti'n ddyn doeth Sioni.

Mae hi'n ddigon teg dy fod ti'n holi beth ydi cost y rhyfel. Ond onid ydi hi hefyd yn deg gofyn be 'da ni'n ei gael am ein pres?
Rhithffurf defnyddiwr
Garnet Bowen
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2085
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 11:45 am
Lleoliad: Y Fro Gymraeg

Postiogan Sioni Size » Gwe 28 Ion 2005 1:23 pm

Wel wrth gwrs. Anwybyddu'r darlun cyfan fyddai'r gwrthwyneb.

Geroge W Bush, araith flynyddol.
"And what else was part the question? Oh, oil revenues.

Well, the oil revenues, they're bigger than we thought they would be at this point in time. I mean, one year after the liberation of Iraq, the revenues of the oil stream is pretty darn significant.
Rhithffurf defnyddiwr
Sioni Size
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2302
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 11:43 pm
Lleoliad: Pen Llyn

Postiogan Garnet Bowen » Gwe 28 Ion 2005 2:40 pm

Tydi cynnig dyfyniadau di-sail, allan o gyd-destun, yn cyfrannu dim byd at unrhyw drafodaeth. 'Da ni 'di dadlau digon am y blydi olew erbyn hyn, Sioni, ac mi ydw i wedi postio sawl dogfen sydd yn profi yn ddi-amheuaeth fod y pres sy'n cael ei godi drwy werthu olew Irac yn mynd yn syth i goffrau'r llywodraeth. Sgen i - na neb arall, 'swn i'n tybio - ddim diddordeb mewn ail-adrodd hen ddadleuon.
Rhithffurf defnyddiwr
Garnet Bowen
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2085
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 11:45 am
Lleoliad: Y Fro Gymraeg

Postiogan Cwlcymro » Sad 29 Ion 2005 2:54 pm

Garnet Bowen a ddywedodd:Mae hi'n ddigon teg dy fod ti'n holi beth ydi cost y rhyfel. Ond onid ydi hi hefyd yn deg gofyn be 'da ni'n ei gael am ein pres?


Yndi yn wir. Gan ma chdi ydi'n 'resident pro-war' ni Garnet. Be yda ni wedi cal am y pres? Ac o ran tegwch mi fyswn i'n disgwyl clywed y petha da a drwg da ni (ni = pobl y Byd, dim jesd Prydain a America) wedi gal...............
Wales? Whales? Do you mean 'da fish, or them singing bastards?
Cwlcymro
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2874
Ymunwyd: Sul 15 Meh 2003 1:12 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Sioni Size » Llun 31 Ion 2005 1:38 pm

Garnet Bowen a ddywedodd: mi ydw i wedi postio sawl dogfen sydd yn profi yn ddi-amheuaeth fod y pres sy'n cael ei godi drwy werthu olew Irac yn mynd yn syth i goffrau'r llywodraeth.

Dwi eto i weld un o'r rhain. Mae na nifer o bethau sy'n dangos y gwrthwyneb fodd bynnag.
Dwi'n cymryd mai am lywodraeth Irac wyt ti'n son nid yr Unol Daleithau?
Rhithffurf defnyddiwr
Sioni Size
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2302
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 11:43 pm
Lleoliad: Pen Llyn

Postiogan Garnet Bowen » Llun 31 Ion 2005 2:12 pm

Sioni Size a ddywedodd:
Garnet Bowen a ddywedodd: mi ydw i wedi postio sawl dogfen sydd yn profi yn ddi-amheuaeth fod y pres sy'n cael ei godi drwy werthu olew Irac yn mynd yn syth i goffrau'r llywodraeth.

Dwi eto i weld un o'r rhain. Mae na nifer o bethau sy'n dangos y gwrthwyneb fodd bynnag.
Dwi'n cymryd mai am lywodraeth Irac wyt ti'n son nid yr Unol Daleithau?


Wedi bod yn edrych ar yr edefyn 'Pam fethodd y mudiad gwrth-ryfel?", tudalen 5 (yn fama)

Cyfeirio at adroddiad yr International Monitoring and Advisory board oeddwn i. Tydw i heb gynnwys y linc, ond mi ddoi di o hyd i'r adroddiad drwy ddefnyddio Google. Toes gen i ddim byd i'w ychwanegu at y drafodaeth yma, a toes gen i ddim diddordeb mewn gwastraffu amser yn ail-adrodd fy hun.
Rhithffurf defnyddiwr
Garnet Bowen
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2085
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 11:45 am
Lleoliad: Y Fro Gymraeg

Postiogan Cwlcymro » Llun 31 Ion 2005 2:21 pm

Sioni, da ni wedi bod dros y ddadl olew fil gwaith. Os wyt ti isho ei ail-agor, dechreua edefyn "Ai Olew oedd pwrpas y Rhyfel" (dwi'm yn siwr faint neith ymateb, ond ma'n well na cymeryd drosodd edefyn arall er ei mwyn)

Ma'r cwestiwn o fuddiana y rhyfel yn un ddylsa gael ei drafod ddo. Yn enwedig ar ol etholiad ddoe, lle y gwnaeth 60% o Iraciaid bledleisio.

Yn sicr ma na dda wedi dod o'r rhyfal. Ma etholiad ddoe yn brawf amlwg o hynny. Ond ma na lot o ddrwg hefyd. Mi farwodd dros 50 o bobl yn Irac ddoe, 10 o rheini yn Brydeinwyr.
Dwi'n gwybod fod pawb yn anghytuno pan da ni'n dadla os oesna fwy o ddrwg ddrwg ta da, ond ma'r cwestiwn o werth y pres yn un y dylsa pawb, o Sioni i Garnet feddwl amdano.

Efo'r pres anferthol sy'n mynd i Irac, mi fysa ni wedi gallu taclo problemau'r byd, newyn, Aids, tsunamis, diffyg addysg yn y trydydd byd yn llawer mwy effeithiol. Heb son am broblemau yn America a Phrydain, cyffuriau, "binge drinking", yr NHS, diffyg athrawon, diffyg swyddi etc.

Os yda chi yn credu fod Irac mewn gaweth stad na cyn y rhyfal, yn amlwg newch chi ddim credu fod o werth y pres. Ond be am y bobl sy'n cefnogi'r rhyfal? Ydi'r da da chi'n weld yn Irac werth mwy na'r da fysa wedi ei greu drwy wario'r pres ar betha erill?
Wales? Whales? Do you mean 'da fish, or them singing bastards?
Cwlcymro
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2874
Ymunwyd: Sul 15 Meh 2003 1:12 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Garnet Bowen » Llun 31 Ion 2005 5:28 pm

Dwi'n falch dy fod di'n cydnabod fod 'na rhyw dda wedi dod o'r rhyfel 'ma, CwlCymro. I raddau, mae hi'n amhosib i ni benderfynnu rwan os ydi manteision y rhyfel yn cyfiawnhau'r gost - y gost ariannol, a'r gost ddynol. Mae gan y rhyfel yma botensial aruthrol. Fe allai cyfundrefn ddemocrataidd-ryddfrydol yn y dwyrain canol fod o werth aruthrol i holl bobl y byd. Byddai'n cyfoethogi bywydau'r rhai sy'n gorfod byw yn yr ardal, ac fe allai wneud y byd i gyd yn saffach ac yn fwy sefydlog. Byddai canlyniad o'r fath yn amhrisiadwy, ac yn llawn gyfiawnhau cost y rhyfel. Ond amser yn unig a ddengys beth fydd effaith y rhyfel yma ar y byd.
Rhithffurf defnyddiwr
Garnet Bowen
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2085
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 11:45 am
Lleoliad: Y Fro Gymraeg

Nesaf

Dychwelyd i Rhyfel a Heddwch

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 16 gwestai

cron