Huw T a ddywedodd:Yn bersonnol, dwi'n teimlo mai nhw, oherwydd y perygl o 'M.utually A.ssured D.estruction' oedd yn gyfrifol am gadw'r gwledydd ar 2 ochr y rhyfel oer rhag ei gwneud hi'n rhyfel oer.
Yn sicr dwi ddim yn credu fod angen gymaint ohonyn nhw ar yr UDA a Rwsia, ond mae ei bodolaeth nhw, fin teimlo, yn sicrhau na fydd yna ryfel byd arall.....oni bai fod yr 'anti ballistic missile missile' yn dod yn realiti hynny yw.
Sori Huw, ond wy ddim yn gweld hwn yn neud lot o sens.
Ti'n credu y dylai'r ddwy ochr fod wedi cael arfau niwclear er mwyn rhwystro rhyfel - mutual destruction.
ond hefyd ti'n gweud nad oedd angen gymaint ag oedd gan yr UDA a'r USSR. Onid yn syml dyna oedd holl bolisi y ddwy ochr, sef 'one-up-manship'? petai'r USSR a 100 warhead, yna byddai'r UDA yn cynhyrchu 101, yn yr un modd byddai'r USSR yn mynd ati i gael 102, a'r UDA wedyn 103 ayb ayb.
Ras ideolegol ydoedd - pwy drefn oedd y gorau. Gollyngwyd y bom ar Hiroshima a Nagasaki, ddim am fod Japan yn fygythiad - roedden nhw eisioes wedi colli'r rhyfel - ond fel rhybydd i'r USSR; yna aeth Rwisa ati a chael y dyn cyntaf yn y gyfod , wedyn cafodd yr UDA y 'dyn cyntaf ar y lleuad' ayb ayb.
Mae rhyfela yn arwydd o fethiant yn ei hun.
Mae rhyfel yn anghywir.
Mae lladd un person mewn rhyfel felly yn anghywir.
Mae cynhyrchu arf sydd a'r potensial o greu dinistr llwyr y tu hwnt i'm amgyffred i. Ni ddylid felly ar unrhyw gyfrif fod wedi datblygu arfau niwclear.
Does dim gwahaniaeth pa mor saff yw cyfansoddiad gwlad, dim ond un nytyr (george W?) sydd ei angen i ddinistrio bywydau miliynnau ar filiynnau.