Arfau Niwclear

Newyddion, protestiadau, trafod

Cymedrolwr: Cwlcymro

Rheolau’r seiat
Newyddion, protestiadau, trafod. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Beth y chi'n feddwl o arfau niwclear

Angen ei banio'n gyfangwbl
16
76%
Dim angen, nawr fod y rhyel oer drosodd
1
5%
Maent yn llwyddo i gadw heddwch
2
10%
Angen mwy, Tyn y trigger Tony!
2
10%
 
Cyfanswm pleidleisiau : 21

Postiogan Huw T » Iau 05 Meh 2003 4:24 pm

Fin cytuno fod y cwestiwn o proliferation yn picl. Fel dwedodd De Gaulle "To be truly independent in this day and age (neu rhywbeth felna) you must posses nuclear weapons." Ar yr un llaw da ti'r ddadl y dylai gan bawb yr hawl i gael nhw, ac ar y llaw arall fe fydd tinpot dicators yn ei defnyddio nhw. Hefyd, mae UDA yn arfogi ei chyngrheiriaid, no problem - mae gan Israel fwy o arfau niwclear na Phrydain. A bod yn onest, fi ddim yn siwr ble fin sefyll ar y mater o proliferation.

Nid dyna beth oedd tu ol prif bwynt fy nadl wreiddiol fodd bynnag. Yno, ro ni'n anghytuno gyda pobl sy'n gweld arfau niwclear fel peth drwg yn unig. Yn bersonnol, fi'n gweld fod nhw wedi chwarae rol bwysig yn cadw'r heddwch rhwng y pwerau mawr dros y 60 mlynedd dwethaf.

ON i'r rhai sydd am weld banio AN yn gyfangwbl, dwi ddim yn meddwl fydde hynny'n ddoeth. Petai ond rhai gwledydd yn eu banio, bydde fe jyst yn wahoddiad i'r UDA fo yn hyd yn oed mwy o heddlu, a phetai pob gwlad yn ei banio, byddai'n wahoddiad i rouge states ei datblygu a dal y byd i ransom.
Rhithffurf defnyddiwr
Huw T
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 445
Ymunwyd: Sul 20 Ebr 2003 9:01 pm
Lleoliad: Aberystwyth/ Rhydychen

Postiogan Rhys Llwyd » Iau 05 Meh 2003 9:52 pm

Y gwir amdani yw fod holl concept rhyfel wedi newid ers 9/11.

Gyda hinsight gellid dadlau a chryn argyhoeddiad fod AN wedi atal 3ydd rhyfel byd. Ond mewn byd post 9/11 sain meddwl bod eu hangen nhw.

Dydy gwledydd fel Irac, Gogledd Korea a gweddill yr 'axis of evil' ddim mynd i, nac mynd i allu ymosod yn uniongyrchol ar Orllewn Ewrop nar UDA. Byth. Ma plismona yr UDA ar UN yn gofalu am hyn.

Beth sy'n fygythiad am y gwledydd yma yw'r ffaith bo nw'n magu'r hyn gall ymosod sef terfysgwyr. Dyna ywr bygythiad post 9/11.

Pwy ddefnydd sydd i AN i amddiffyn yn erbyn bom nwy yn Underground LLundain? Pwy ddefnydd sydd i AN i fom yn Heathrow? Pwy ddefnydd sydd i AN yn erbyn hofrenydd yn gollwng anthrax dros Fyrmingham?

Mae'r hinsawdd wedi newid, ac mae hi'n hen bryd i'r uwch bwerau newid eu hagwedd a di-ddymu pob prosiect AN a gwario yr arian ar ddiplomydda rhyngwladol, timau archwilio a chymorth dyngarol.
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan ceribethlem » Gwe 06 Meh 2003 11:33 am

Yn bersonnol, fi'n gweld fod nhw wedi chwarae rol bwysig yn cadw'r heddwch rhwng y pwerau mawr dros y 60 mlynedd dwethaf.


Mae llawer o bobl (Amercannwyr a Blair yn bennaf) yn son am allu gwahanol wledydd i adeiladu arfau niwcliar ac yn digon insane i'w defnyddio nhw. e.e. y 'rheswm' dros rhyfel Iraq. Fodd bynnag hyd yma dim ond un gwlad sydd wedi defnyddio arfau o'r fath sef America.

Hefyd mae America yn amlwg yn meddwl (neu o leiaf wedi meddwl) yn gyson am ddefnyddio'r fath arfau erchyll, fel a dangoswyd gan yr Arlywydd Regan (sef yr ail arlywydd yn yr insane league of leaders, Dubya wrth gwrs sydd ar y brig - ond ta waeth am hynny) pan ddywedodd yn fyw ar y teledu "We begin boming Russia in 5 minutes", fel ffordd o brofi y system meicroffon.
I fi mae hyn yn awgrymu eu bod wedi bod yn trafod y peth yn fanwl, ac roedd Regan am ddweud y geiriau hynny.


I fynd ymlaen at bwynt Rhys, dwi'n cytuno gyda fe, mae'r ffaith fod arfau niwcliar gyda America ac eu bod yn ceisio plismona'r byd ond yn mynd i greu mwy o derfysgwyr.
Does dim ots pa mor effeithiol na thechnolegol yw'r byddin, does dim modd ennill brwydr yn erbyn ffascsiynnau o derfysgwyr sydd yn byw y tu hwnt i danciau ayb - gweler Gogledd Iwerddon a Phalestine fel esiamplau o hyn.
Er fod Prydain yn hoffi ymffrostio am safon eu byddin, a pha mor effeithiol yw'r grwpiau arbennig megis yr SAS, ni wnaethont guro'r IRA. Oherwydd mai ideoleg oeddent yn ymladd, nid byddin.
Mae'r un peth yn wir yn y Dwyrain Canol, gan yr Iddewon mae'r byddin mwyaf effeithiol o ran rhyfela fel mae esiamplau megis y rhyfel 6 diwrnod yn dangos. Mae'r Palistinwyr dal i ymladd yn ol fodd bynnag, oherwydd bod ganddynt yr ideoleg sydd y tu hwnt i ryfela.

Fy mhwynt (braidd yn bendramwnwgl o bosib!) yn hyn yw fod y ffordd mae America yn defnyddio ei rym niwcliar fel gorfodaeth i wledydd arall i gydymffurfio, yn y pendraw yn wallys oherwydd mai creu mwy o derfysgwyr fydd y canlyniad, ac fe fydd hyn yn ryfel ni ellir ei hennill gan yr UDA - gweler Al Qaeda fel esiampl o hyn.
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Postiogan Cwlcymro » Sad 28 Meh 2003 7:21 pm

Ma'n gwestiwn amhosib o annodd.
Ar un ochr ma'r atab "syml" - eu gwahardd nhw. Ond fel ma riwun wedi ei ddweud yn barod ma hunna'n gadael y drws ar agor i 'rouge state' wneud un a gallu rheoli pawb.
Ar yr ochr arall ma gynna ni'r sefyllfa rwan. America, Prydain, Ffrainc, Rwsia, India, Pakistan a Israel (unrhywun arall?) hefo rhai, ac yn gwneud yn siwr nad oes neb arall yn datblygu rhai. A dyma lle ma'r broblam. Yr unig reswm ma'r gwledydd hyn yn gallu dweud wrth wledydd arall i beidio gwneud rhai yw gan fod ganddynt AN yn barod. Mae o fel dal gwn i ben riwun i sicrhau nad ydynt nhw yn prynnu gwn eu hunain.
Ond paw hawl sydd ganddynt i wneud hyn? Pam ein bod ni mor siwr fod Israel yn saffach hefo AN na Zimbabwe? Yda ni'n siwr o hynny? Ta ydio just yn system o 'da ni'n ffrindia fo chi so gewch chi AN'?

Fel ma petha nawr neith dim un pwer AN ymosod ar un arall hefo AN gan y bysa'r talu nol yn fawr iawn. Fel dywedodd riwun mi fysa tanio An yn swysaid. Ond dim ond un 'dirty bomb' gan rhyw derfysgwr sydd ei angen i rwygo'r byd, a does genaim ffyd yn rhei o'n harweinyddion i gadw ei llaw off y triger wedyn.

Y trasedi fwya ydi bod y fath beth wedi ei greu erioed. Ond y gwir plaen ydi ei bod hi'n amhosib an-ddyfeisio rwbath.
Wales? Whales? Do you mean 'da fish, or them singing bastards?
Cwlcymro
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2874
Ymunwyd: Sul 15 Meh 2003 1:12 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Macsen » Sul 17 Awst 2003 4:47 pm

Sut allech chi ddweud bod y ras ddynol ddim yn datblygu pam dan ni'n darganfod ffordd newydd i ladd ein gelynion bob rhyfel?


Coeliwch chi fi, mewn ychydig flynyddoedd byddech chi'n gobeithio mai bomb niwclear yn unig sydd newid ffrwydro uwch eich pen chi.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan Huw T » Llun 18 Awst 2003 12:13 am

wyt tin gwbod rhywbeth dy ni ddim?????? :ofn:
Rhithffurf defnyddiwr
Huw T
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 445
Ymunwyd: Sul 20 Ebr 2003 9:01 pm
Lleoliad: Aberystwyth/ Rhydychen

Postiogan Al Jeek » Llun 18 Awst 2003 12:57 pm

Ni ddylai neb gael mwy o nukes, ond ddylai'r UN gadw un neu ddau rhagofn fod aliens yn dod a neud Independence Day job arna ni (gan obeithio fod firws compiwtar yn gweithio cyn hyn, neu hyd yn oed dwr fel yn Signs).
Neu wrth gwrs Asteroid enfawr.
Heb law am hyn dwim yn gweld unrhyw reswm i'w cael.
Dwin poeni am y ffaith fod N.Korea yn eu hadeiladu. Dim ond un nut case efo pwer sydd ei angen i greu WWIII, a mae gan America un nutcase yn benodol yn barod.
Al Jeek
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 651
Ymunwyd: Sul 27 Gor 2003 6:45 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Macsen » Llun 18 Awst 2003 1:46 pm

Al Jeek a ddywedodd: Ni ddylai neb gael mwy o nukes, ond ddylai'r UN gadw un neu ddau rhagofn fod aliens yn dod a neud Independence Day job arna ni (gan obeithio fod firws compiwtar yn gweithio cyn hyn, neu hyd yn oed dwr fel yn Signs).
Neu wrth gwrs Asteroid enfawr.


:D

Y problem ydi, os mae'r aliens yn ymddangos, bod pob un o'r nukes yma yn pwyntio aten ni a dim aten nhw. Ironig y buasai, hmmm?
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan Dylan » Llun 18 Awst 2003 11:14 pm

Cwestiwn digon hawdd. Gwahardd nhw. Mae rhagrith y gorllewin drwy orfodi G Corea i ddiweddu eu "prosiect" hwythau yn chwerthinllyd pan 'rydych yn ystyried y ffaith bod digon ohonynt gan America i droi'r ddaear gyfan i lwch 10 gwaith drosodd (wel, bosib) ac yn wir pan mai hwy ydi'r unig wlad mewn hanes erioed i'w defnyddio. Wrth gwrs mae'n bryder bod Corea yn parhau a'r fath fenter ond nid dyna'r pwynt; dyla America fod yn arwain y ffordd.
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Macsen » Maw 19 Awst 2003 12:11 pm

Dwi'm yn gweld Bush yn gwneud dim i leihau nifer o formiau niwclear america. Efallai os fysai Nader mewn swyddfa. :winc:

Mi fysai'n ddoniol os fysai rhywun yn gofyn yn yr UN, 'Llaw i fyny pob gwlad sydd wedi defnyddio bomb niwclear.' Mi fysai hynny'n cau ei ceg nhw.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

NôlNesaf

Dychwelyd i Rhyfel a Heddwch

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 12 gwestai

cron