Tudalen 2 o 4

PostioPostiwyd: Iau 05 Meh 2003 9:36 am
gan Rhys Llwyd
Yn union. Ma nwn dweud fod hanes wedi cal i sgwennu gan y buddugwyr.

Ateb terfynnol Hitler oedd difar Iddewon di-niwed yn y gwersylloedd.

Ateb terfynnol UDA oedd difa trigolion di-niwed Hiroshima a Nagasaki gyda bomiau Niwclier!

Yn fy marn i roedd beth nath UDA gydar bomiau cyn ddrwg a beth odd Hitler yn gwneud. Y gwahaniaeth oedd y motifs.

PostioPostiwyd: Iau 05 Meh 2003 11:34 am
gan Huw T
ond hefyd ti'n gweud nad oedd angen gymaint ag oedd gan yr UDA a'r USSR.


Twist my words why don't you. Edrych eto, fi'n dweud nagoes angen gymaint o arfau ar UDA a RWSIA, sydd yn golygu heddiw. Mae'r rhyfel oer drosodd, mae America wedi ennill, felly mae cadw storfa o'r maint sydd gyda nhw yn wastraff arian.

Ti'n dweud, Cardi, dy fod ti'n erbyn rhyfel yn gyfangwbl. Wel alli di ddim sylweddoli, heb y bygythiad o M.A.D. y byddai'n llawer mwy tebygol y byddai WW3 wedi bod. Brwydr ideoleg o bosibl, ond yn sicr, dyna pam i ni dal i fod.

Hefyd, byddai banio arfau niwclear yn arwain at ddau beth -
1. Gwledydd fel Gogledd Korea yn dyblu ei ymdrechion i adeiladu un, er mwyn dod yn bwer cryfa'r byd
2. Arwain at ddrwgydbiaeth enfawr ynglyn a chadw'r ban. e.e - mae'r UDA wedi llofnodi treaty yn erbyn arfau cemegol/ biolegol, ond mae tystiolaeth yn bodoli ei bod hi dal yn eu cynhyrchu.

Yn fy marn i roedd beth nath UDA gydar bomiau cyn ddrwg a beth odd Hitler yn gwneud. Y gwahaniaeth oedd y motifs.


Sori, ddim yn deall. Explain. Cyn belled ac alla i weld mae'r ddwy sefyllfa yn holloll wahanol

PostioPostiwyd: Iau 05 Meh 2003 11:45 am
gan kamikaze_cymru
dwin meddwl ddyla archwilwyr arfau'r CU fynd i bob gwlad, dim jyst y rhai ma nhw'n cael eu gorchmynu i fynd iddynt. Wedyn gawn ni weld os ydi pawb yn cadw at y cytundebau.

(dwin meddwl bo v d deud hyn yn rwla arall, meddwl bod on berthnasol yma hefyd)

Re: Arfau Niwclear

PostioPostiwyd: Iau 05 Meh 2003 11:54 am
gan Cardi Bach
Huw T a ddywedodd:Yn sicr dwi ddim yn credu fod angen gymaint ohonyn nhw ar yr UDA a Rwsia, ond mae ei bodolaeth nhw, fin teimlo, yn sicrhau na fydd yna ryfel byd arall


Wedi ei dderbyn. Camgymeriad. Ond mae'r pwynt sylfaenol yn dal i sefyll, sef yw ai trwy ddal dryll wrth ben rhywun y mae cadw heddwch? Dyna, i mi, y mae'r frawddeg uchod yn awgrymu.

America a Rwsia, felly, yw heddlu y byd, a nhw sydd yn cael penderfynnu pryd mae rhywun yn croesi'r llinell ai peidio.

Petai rhywun yn croesi'r llinell yna ...zap. Ond mae hyn yn bolisi peryglus iawn - mae'r hyn ddigwyddodd yn Irac wedi profi hynny. mae America yn manteisio ar ei phwer iw dibenion ei hun.

Cyn i mi fynd ymhellach, ai dyma wyt ti'n ddweud HuwT? (nid fy rant yn y paragraff olaf :winc: ond y cwestiwn am heddlu'r byd.)

Wy ddim hefyd yn gweld siwd wyt ti'n gallu gweud a sicrwydd fod America a'r USSR wrth gael arfau niwclear wedi sicrhau nad oedd yna WWIII. esbonia ymhellach.l

PostioPostiwyd: Iau 05 Meh 2003 12:21 pm
gan Huw T
Ma'r cwestiwn am blismona'r byd yn un anodd. Yn ddelfrydol, ur UN fyddai'n gwneud hyn, ond dyw'r sefyllfa ddim yn caniatau. Petai UDA yn plismona'r byd gan ddilyn deddfau'r UN byddwn i'n hapusach fy myd, ond dydy nhw ddim.

Nath Clinton weud rhywbeth itha revelaing unwaith, sef "if the North Koreans used a nuclear weapon, it would mena the end of their country." Nawr, fe alli di gymryd hyn i olygu na fyddai UDA yn defnyddio ei WMD heb gael ei phryfocio (byddwn i yn actually - galli di ddychmygu'r brotest, hyd yn oed o fewn America ei hun, petai nhw'n defnyddio WMD heb reswm ar wlad sydd heb WMD). OND mae hefyd yn ffordd i'r powers that be gadw gwrthwynbwyr iddynt 'in check' sydd yn sicr yn beth gwael. Y pwynt yw, fod arfau niwclear yn golygu na fydd y powers that be yn cael rhyfel arall gyda'i gilydd. Felly, mae'n gleddyf a dau lafn.
(cofia tho, fod grym milwrol UDA yn all-conquering, gyda neu heb arfau niwclear)

Nes i byth weud a sicrwydd fod America a'r USSR wrth gael arfau niwclear wedi sicrhau nad oedd yna WWIII. Y geirie ddefnyddies i oedd "llawer mwy tebygol". Fi'n credu bod hynny'n wir tho. Wyt ti'n meddwl y bydde Jo Stalin wedi caniatau bodolaeth Gorllewin Berlin, oni bai am y perygl o arf atomic america? Yr un peth yn achos Cuba. Roedd gan y byd ormod i'w golli, felly yn lle all out war, fe ganolbwyntion nhw ar gefnogi gwahanol ffacsiynnau mewn rhyfeloedd cartref, a cheisio trechu ei gilydd yn economaidd.

PostioPostiwyd: Iau 05 Meh 2003 12:24 pm
gan Rhys Llwyd
Sori, ddim yn deall. Explain. Cyn belled ac alla i weld mae'r ddwy sefyllfa yn holloll wahanol


Na pam wedesi maer motifs oedd yn wahanol.

h.y ateb terfynol oedd y ddau beth OND ateb terfynnol i wahanol senarios.

PostioPostiwyd: Iau 05 Meh 2003 12:37 pm
gan Huw T
Beth nes ti weud oedd fod bomio Hiroshima yr un mor ddrwg a hil-laddiad yr Iddewon. Mae'r ddau beth yna yn wahanol beth bynnag y motifau. Beth yw'r motifau yn dy farn di ta beth?

PostioPostiwyd: Iau 05 Meh 2003 12:41 pm
gan Rhys Llwyd
Motifs Hitler oedd hil-laddiad, motifs UDA oedd trechu'r Japs!

Roedd yr Iddewon yn ddi-niwed un ffordd ag oedd gwerin bobl dinasoedd Japan.

PostioPostiwyd: Iau 05 Meh 2003 12:52 pm
gan Huw T
Nagwyt ti wedi trechu dy ddadl dy hun braidd. Motif Hitler fel dwedest ti oedd dileu'r holl Iddewon. Byddai eu trechu heb gael unrhyw effaith ar ganlyniad y rhyfel.

Motif yr Americaniaid oedd trechu'r Japaneaid gan felly orffen y rhyfel Wrth gwrs fod miloedd o'r bobl a laddwyd yn Hiroshima a Nagasaki yn ddiniwed, ond felly hefyd oedd y miliynnau gafodd ei lladd gan y Japaneaid yn China ac Indochina. Wrth fomio Japan, roedd UDA yn ceisio ennill y rhyfel (seeing as dyna be tin ceisio neud mewn rhyfel). Ar ol ennill y rhyfel, naethon nhw ddim mynd mlaen i ddileu'r genedl Japaneiadd do fe.

Dwi ddim yn anghytuno gyda ti wrth ddweud fod bomio Hiroshima yn beth ofnadwy. Ond mae'n hurt gweld unrhyw gymhariaeth rhwng yr ateb terfynol a defnyddio bom atomic i orffen y rhyfel.

PostioPostiwyd: Iau 05 Meh 2003 1:11 pm
gan Cardi Bach
Huw T a ddywedodd:Nagwyt ti wedi trechu dy ddadl dy hun braidd. Motif Hitler fel dwedest ti oedd dileu'r holl Iddewon. Byddai eu trechu heb gael unrhyw effaith ar ganlyniad y rhyfel.

Motif yr Americaniaid oedd trechu'r Japaneaid gan felly orffen y rhyfel Wrth gwrs fod miloedd o'r bobl a laddwyd yn Hiroshima a Nagasaki yn ddiniwed, ond felly hefyd oedd y miliynnau gafodd ei lladd gan y Japaneaid yn China ac Indochina. Wrth fomio Japan, roedd UDA yn ceisio ennill y rhyfel (seeing as dyna be tin ceisio neud mewn rhyfel). Ar ol ennill y rhyfel, naethon nhw ddim mynd mlaen i ddileu'r genedl Japaneiadd do fe.

Dwi ddim yn anghytuno gyda ti wrth ddweud fod bomio Hiroshima yn beth ofnadwy. Ond mae'n hurt gweld unrhyw gymhariaeth rhwng yr ateb terfynol a defnyddio bom atomic i orffen y rhyfel.


Dyma lle ti'n anghywir HuwT, nid bomio Japan ermwyn ennill rhyfel oedd motif America - roedd japan eisioes wedi ei churo. Fel soniais i gynnau, motif America oedd rhoi gwers/rhybydd i Rwsia - dangos iddynt eu bont wedi datblygu'r bom atom ac nad oeddynt yn ofn ei ddefnyddio (darllen dy AJP Taylor - mae hyn bellach yn cael ei dderbyn fel 'ffaith' hanesyddol).

Dyma fy nhrafferth i gyda arfogi.
Os credu mewn arfogi pam ddim caniatau i bob gwlad gael ymuno yn y ras niwclear - pam ddim Gogledd Korea?
Fi'n deall y pwynt am y pryder y bydden nhw am 'gymryd drosodd y byd' ac yn ddigon 'nyts' iw ddefnyddio - iawn.
Ond mae hynny eisioes wedi digwydd - mae America wedi ei ddefnyddio ddwywaith; wedi datgan yn ddiweddar eu bont yn barod iw defnyddio eto, ac yn brysur adeiladu ymerodraeth (emipre of the willing falle, ond mae'r rhan fwyaf o'r 'willing' wedi cael eu bwlio, a'r lleill fel Prydainyn llwfr).
Beth sy'n gwneud gweithrediadau America yn hyn o beth felly yn fwy cywir na amcanion Gogledd Korea (sydd yn ddim gwahanol)?

Mae'n meddylfryd ni bellach feltai wedi ffydjo ffieidd-dra America dros yr hanner canrif a mwy diwetha, ac ni'n dewis ei anwybyddu, gan yn hytrach edrych ar fygythiadau gwledydd fel Irac nad oedd a dim arf o ddinistr mawr.

Ble mae'r sens yn hyn?
Dyw'r ffaith fod America a Rwsia gyda arfau Niwclear i stopio rhyfeloedd eraill ddim wedi bod o unrhyw werth i drieiniaid Irac, neu Somalia, neu Lybia, neu Iran, neu Indo-China, neu'r Palesteina, neu hyd yn oed Rwanda, Congo, Sierra Leon, ayb ayb.