Fi wedi cael golwg ar ei gwefan nhw, ac ar wefan y BBC. Mae nhw nawr yn mynd a'i hachos i Strasbourg, gan ddweud fod talu treth ar amddiffyn yn groes i'w hawliau dynol. Yn ol cyfreithwyr y trysorlys, cafwyd 'precedent' o hyn yn yr 80au, lle y barnodd Strasbourg nad oedd trethu yn groes i hawliau dynol, felly, ymddengys y byddant yn colli.
Ma'n rhaid i fi ddweud nad ydwi'n cytuno a'i hachos nhw, ond mater o farn yw hynny.
Beth sy'n fwy annoying, o ddarllen am y stori yw clywed oedd clywed un o'r protestwyr, Simon Heywood, yn dweud fod 10% o'n treth yn cael ei gwario ar amddiffyn. Fodd bynnag, fel a welir yma
http://www.hm-treasury.gov.uk/media/20E ... h1_149.pdf
mae ffigwr gwariant y trysorlys ar amddiffyn yn llawer is (5.2%).
O ddefnyddio ffigyrau 'r Stockholm International Peace research Institue ar wariant, a ffigyrau'r IMF ar GDP, yna fel canran o'r GDP, 2.1% a warir ar amddiffyn.
Pam felly fod Mr Heywood mor gelwyddog am ei ffigyrau, yn enwedig os yw yn credu yng ngwir gyfiawnder ei achos?