Tudalen 2 o 2

PostioPostiwyd: Sul 22 Mai 2005 12:16 pm
gan Hedd Gwynfor
Blewyn a ddywedodd:Mae campau fel hyn yn tueddu i fod fwy amdan yr unigolion a'u hunan-bwysigrwydd


Malu cachu llwyr! Roedd Ghandi ond yn poeni am ei ddelwedd yndoedd? :rolio:

PostioPostiwyd: Maw 24 Mai 2005 7:41 am
gan Blewyn
Hedd Gwynfor a ddywedodd:
Blewyn a ddywedodd:Mae campau fel hyn yn tueddu i fod fwy amdan yr unigolion a'u hunan-bwysigrwydd


Malu cachu llwyr! Roedd Ghandi ond yn poeni am ei ddelwedd yndoedd? :rolio:


Mae'r syniad y bysech yn meiddio cymharu y protestwyr lol yma efo Ghandi yn cadarnhau beth ddwedais. R'oedd gan Ghandi amcan penodol, clir ac achos iawn, a mudiad poblogaidd tu ol iddo. Be mae'r protestwyr yma am gyflawni drwy eu gorchest ?

Blewyn

PostioPostiwyd: Maw 14 Meh 2005 11:20 am
gan Realydd
Hedd Gwynfor a ddywedodd:OND, os oes rhywyn yn teimlo'n ddigon cryf dros fater ei fod yn fodlon aberthu ei gyfoeth, neu ei ryddid, ac felly yn derbyn canlyniadau ei weithredoedd, yna chwarae teg!


Dipyn o non-statement yw hon.

PostioPostiwyd: Maw 14 Meh 2005 11:24 am
gan Hedd Gwynfor
Realydd a ddywedodd:
Hedd Gwynfor a ddywedodd:OND, os oes rhywyn yn teimlo'n ddigon cryf dros fater ei fod yn fodlon aberthu ei gyfoeth, neu ei ryddid, ac felly yn derbyn canlyniadau ei weithredoedd, yna chwarae teg!


Dipyn o non-statement yw hon.


Diolch am y cyfraniad. :rolio:

PostioPostiwyd: Maw 14 Meh 2005 12:41 pm
gan Cardi Bach
Ie, clefar iawn Ret, cyfraniad clodwiw arall :rolio:

Beth bynnag am goegni, bydd Birgit Vollm yn siarad am yr ymgyrch yma ar raglen Woman'n Hour, Radio 4, am 10am dydd iau 16 Mehefin os oes diddordeb gan rywun.

PostioPostiwyd: Llun 11 Gor 2005 3:17 pm
gan Cardi Bach
Mae deiseb ar-lein i gefnogi ymgyrch y 7 Heddychwr Treth yma:www.petitiononline.com/PT7WELSH

PostioPostiwyd: Sul 03 Rhag 2006 8:08 pm
gan Guto Morgan Jones
Rhaid cofio fe wnaeth Waldo wneud yr un math o beth oherwydd ei fod yn gwrthwynebu bod cyfran o'r treth y dalai yn mynd ar gael arfau newydd.

PostioPostiwyd: Sul 03 Rhag 2006 10:13 pm
gan Huw T
Fi wedi cael golwg ar ei gwefan nhw, ac ar wefan y BBC. Mae nhw nawr yn mynd a'i hachos i Strasbourg, gan ddweud fod talu treth ar amddiffyn yn groes i'w hawliau dynol. Yn ol cyfreithwyr y trysorlys, cafwyd 'precedent' o hyn yn yr 80au, lle y barnodd Strasbourg nad oedd trethu yn groes i hawliau dynol, felly, ymddengys y byddant yn colli.

Ma'n rhaid i fi ddweud nad ydwi'n cytuno a'i hachos nhw, ond mater o farn yw hynny.

Beth sy'n fwy annoying, o ddarllen am y stori yw clywed oedd clywed un o'r protestwyr, Simon Heywood, yn dweud fod 10% o'n treth yn cael ei gwario ar amddiffyn. Fodd bynnag, fel a welir yma http://www.hm-treasury.gov.uk/media/20E ... h1_149.pdf

mae ffigwr gwariant y trysorlys ar amddiffyn yn llawer is (5.2%).

O ddefnyddio ffigyrau 'r Stockholm International Peace research Institue ar wariant, a ffigyrau'r IMF ar GDP, yna fel canran o'r GDP, 2.1% a warir ar amddiffyn.

Pam felly fod Mr Heywood mor gelwyddog am ei ffigyrau, yn enwedig os yw yn credu yng ngwir gyfiawnder ei achos?