ceribethlem a ddywedodd:Ga'i anghytuno ar y pwynt yma, mae America yn ceisio argyhoeddi pobl eu bod yn gallu ennill rhyfeloedd heb ddefnyddio milwyr ar y ddaear
Naethon nhw drio neud hynny'n y rhyfel oer o'r blaen do, yr UDA a'i gynghreiriau yn erbyn yr Undeb Sofietaidd oherwydd pwysau economaidd, cymorth detholiadol, cad-drefniant diplomyddol a phropaganda. Dwnim os ydi'r ddau beth yn debyg yn y bon...
GTI a ddywedodd:Yn y gerddd mae'n trio dweud fod trydydd rhyfel byd yn anochel
Ia, ac mae o'n rhagweld y canlyniadau hefyd - erchyll iawn oherwydd fod yr offer sydd ganddom ni erbyn hyn yn fwy soffistigedig - llawer iawn mwy dychrynllyd na'r rhai sydd wedi bod sy'n awgrymu wrth gwrs canlyniadau hollol ddychrynllyd - neb ar ol efallai - pawb wedi cael eu lladd, a be ma Gwenallt yn ceisio dod i'n sylw ydi'r cwestiwn pwy fydd ar ol i blannu'r "cofgolofnau byw" wedyn;
"A phan ddaw'r trydydd Rhyfel i gadw ei ddychrynllyd oed
Ni ellir rhifo'r lladdedigion llosg, na rhifo ychwaith y coed".
Mae'n ddrwg gen i os dwi'n anghywir!