Trydydd Rhyfel Byd

Newyddion, protestiadau, trafod

Cymedrolwr: Cwlcymro

Rheolau’r seiat
Newyddion, protestiadau, trafod. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Oes rhyfel byd arall am fod?

Oes
10
29%
Na
16
46%
Anodd dweud
9
26%
 
Cyfanswm pleidleisiau : 35

Postiogan ceribethlem » Gwe 20 Mai 2005 11:27 am

Y Celt Cymraeg a ddywedodd:Wel mae n dibynu sut mae rhywyn yn dehongli rhyfel byd masiwr! Oedd yna sawl gwalad yn cymeryd rhan yn y rhyfel!
Pwynt da, bydden i'n meddwl mai rhyfel Byd yw rhyfel lle mae'r ymladd yn cymryd rhan rhwng nifer fawr o wledydd y Byd, ac fod y rhyfela yn cymryd lle mewn nifer o leolydd yn y Byd yr un pryd (e.e. Ail Ryfel Byd oedd Prydain, Ewrop, Siapan, Amerig, nifer o gefnforoedd a mwy oll yn leolydd lle bu rhyfela).
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Postiogan Cigfa » Gwe 20 Mai 2005 11:31 am

Mae o i gyd yn dibynnu ar sut wyt ti'n dehongli rhyfel byd. 'Swn i'n dadlau bod rhyfel efo cynghreiriaid fatha yr UDA a'r DU yn erbyn rhywyn yn ddychrynllyd o agos at ryfel byd achos bod nhw mor bwerus. A tra 'da ni'n cario 'mlaen i ethol pobl thic fel Bush a Blair, ma'r gwledydd yma yn mynd i gario 'mlaen i ffindio esgusion goc am fomio gwledydd, achos bod nhw mor llwgr :crio:
Na fe de...
Rhithffurf defnyddiwr
Cigfa
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 37
Ymunwyd: Gwe 29 Ebr 2005 11:16 am
Lleoliad: Mewn twll o ofn

Postiogan rhy ddiog i cofio fy enw » Gwe 20 Mai 2005 11:42 am

Na oherwydd ma america am cicio tin oherwydd bod nhw am gyrru arfau i'r gofod i atacio ar rhywle yn y byd wedyn fydd america yn invinsible ac fydd prydain yn y cefnogi ac fydd pawb arall rhy ofn i ymladd. unai bod rhywun yn gallu hacio fewn i'r system ac cymryd dros yr arfau.
Rhithffurf defnyddiwr
rhy ddiog i cofio fy enw
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2066
Ymunwyd: Llun 26 Gor 2004 9:35 pm
Lleoliad: Pen Llyn

Postiogan dafydd » Gwe 20 Mai 2005 12:33 pm

rhy ddiog i cofio fy enw a ddywedodd:Na oherwydd ma america am cicio tin oherwydd bod nhw am gyrru arfau i'r gofod i atacio ar rhywle yn y byd.

Ti'n iawn. Os yw'r trydydd rhyfel byd yn digwydd unrhyw le mi fydd e'n digwydd yn y gofod. Dwi newydd ddarllen yr erthygl yma ar y mater.
Rhithffurf defnyddiwr
dafydd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2146
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:21 pm
Lleoliad: Anfeidredd

Postiogan Sgotwr » Gwe 20 Mai 2005 3:10 pm

rhy ddiog i cofio fy enw a ddywedodd:ma america am cicio tin oherwydd bod nhw am gyrru arfau i'r gofod i atacio ar rhywle yn y byd wedyn fydd america yn invinsible


Ia ond does na neb yn mynd i sdopio neb arall neud yr un peth a nhw nagoes. Gall rhywun wneud hyn sydd hefo'r offer a'r dechnoleg.
WAW, Pysgodyn
Rhithffurf defnyddiwr
Sgotwr
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 67
Ymunwyd: Iau 19 Mai 2005 4:37 pm
Lleoliad: Y Ffôr, Gwynedd, Cymru, Byd, Gofod, Bydysawd,??????

Postiogan Hogyn o Rachub » Gwe 20 Mai 2005 3:16 pm

Edrych i'r cyfeiriad rong dach chi.

Dw i'm yn argyhoeddiedig y daw rhyfel byd newydd o gyfeiriad America. Fyddwn i'n dueddol o edrych ar Tsieina yn dechrau rhywbeth (goresgynnu Taiwan, o bosib, a mae llywodraeth Siapan yn poeni'n arw am bygythiad y Tsieniaid ers misoedd) ac America'n infolio'i hun. Neu efallai rhywbeth o gyfeiriad India a Phacistan.

Gan ddweud hynny, fe all rhywbeth mawr ddod o du Affrica, hefyd, ond gwelwn i mo hwnnw'n mynd at ryfel bydol.
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Postiogan Cwlcymro » Sad 21 Mai 2005 12:55 pm

Hogyn o Rachub a ddywedodd:Dw i'm yn argyhoeddiedig y daw rhyfel byd newydd o gyfeiriad America. Fyddwn i'n dueddol o edrych ar Tsieina yn dechrau rhywbeth (goresgynnu Taiwan, o bosib, a mae llywodraeth Siapan yn poeni'n arw am bygythiad y Tsieniaid ers misoedd) ac America'n infolio'i hun. Neu efallai rhywbeth o gyfeiriad India a Phacistan.


Cytuno efo hyn. Dwi'm yn gweld America (na unrhyw wlad) yn pigo ffeit efo rhywun du nhw methu handlo. Ma na fwy o debygrwydd i ffeit lleol waethygu, a wedyn y gwledydd mawr yn dewis ochra ac yn ei droi o yn Ryfel Byd.
Wales? Whales? Do you mean 'da fish, or them singing bastards?
Cwlcymro
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2874
Ymunwyd: Sul 15 Meh 2003 1:12 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan -Orion yr Heliwr- » Llun 20 Meh 2005 5:21 pm

ceribethlem a ddywedodd:Ga'i anghytuno ar y pwynt yma, mae America yn ceisio argyhoeddi pobl eu bod yn gallu ennill rhyfeloedd heb ddefnyddio milwyr ar y ddaear


Naethon nhw drio neud hynny'n y rhyfel oer o'r blaen do, yr UDA a'i gynghreiriau yn erbyn yr Undeb Sofietaidd oherwydd pwysau economaidd, cymorth detholiadol, cad-drefniant diplomyddol a phropaganda. Dwnim os ydi'r ddau beth yn debyg yn y bon...

GTI a ddywedodd:Yn y gerddd mae'n trio dweud fod trydydd rhyfel byd yn anochel


Ia, ac mae o'n rhagweld y canlyniadau hefyd - erchyll iawn oherwydd fod yr offer sydd ganddom ni erbyn hyn yn fwy soffistigedig - llawer iawn mwy dychrynllyd na'r rhai sydd wedi bod sy'n awgrymu wrth gwrs canlyniadau hollol ddychrynllyd - neb ar ol efallai - pawb wedi cael eu lladd, a be ma Gwenallt yn ceisio dod i'n sylw ydi'r cwestiwn pwy fydd ar ol i blannu'r "cofgolofnau byw" wedyn;

"A phan ddaw'r trydydd Rhyfel i gadw ei ddychrynllyd oed
Ni ellir rhifo'r lladdedigion llosg, na rhifo ychwaith y coed".

Mae'n ddrwg gen i os dwi'n anghywir! :wps:
Rhithffurf defnyddiwr
-Orion yr Heliwr-
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 274
Ymunwyd: Mer 02 Chw 2005 4:41 pm
Lleoliad: Cricieth

Postiogan Cawslyd » Mer 22 Meh 2005 8:52 pm

Rhyfel byd arall? Dim yn debygol iawn (yn y dyffodol gweladwy), ond ella fod llawer o ryfeloedd bychain fel sydd heddiw gyn waethed ag un rhyfel mawr.
Cawslyd
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1832
Ymunwyd: Mer 09 Meh 2004 6:43 pm

Postiogan Sleepflower » Iau 23 Meh 2005 9:18 am

Os mae'r Ewrosgeptics ar ledled Ewrop yn cael eu ffordd, bydd y UE yn chwalu , wedyn pwy a wyr?

Ond 60 mlynedd yn ol oedd yr ail rhyfel byd cofiwch.
Rhithffurf defnyddiwr
Sleepflower
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1442
Ymunwyd: Iau 20 Tach 2003 6:23 pm
Lleoliad: Caerdydd

Nôl

Dychwelyd i Rhyfel a Heddwch

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 5 gwestai

cron