Cymedrolwr: Cwlcymro
GTI a ddywedodd:nawr mae ganddom ni y cenhedloedd unedig a'r Undeb Ewropeaidd... sy'n helpu sortio allan y problemau hyn fel trio dal y pobl sy'n debygol o ddechrau rhyfel byd arall fel Sadam Housain
Annibyniaeth RWAN a ddywedodd:3. Doedd Saddam ddrwg ddim am ddechra rhyfel byd arall
Ga'i anghytuno ar y pwynt yma, mae America yn ceisio argyhoeddi pobl eu bod yn gallu ennill rhyfeloedd heb ddefnyddio milwyr ar y ddaear, mae Irac wedi profi fod hyn yn anghywir. Fe aeth America (a Phrydain) mewn gyda'r bomiau a'r awyrennau, gan fomio adeiladau. Doedd hyn ddim yn ddigon i ennill y rhyfel, rhaid oedd mynd mewn a'r milwyr er mwyn atal y milwyr rhag ddatblygu yn rhyw fath o ryfel guerilla. Ymddengys yn Irac ar hyn o bryd eu bod yn methu yn yr ymgais hwn.twm a ddywedodd:Os fysa na ryfel byd arall mi fysa'r byd ar ben, gan fod y bomia a ballu mor fawr wan. Fydd na ddim rhyfel efo dynion yn saethu eu gilydd ddim mwy, gan fod dyn efo gwn ddim digon effeithiol.
Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 16 gwestai