Blerwch Blair

Newyddion, protestiadau, trafod

Cymedrolwr: Cwlcymro

Rheolau’r seiat
Newyddion, protestiadau, trafod. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Blerwch Blair

Postiogan Idris » Gwe 27 Meh 2003 2:13 pm

ac yntau wedi gwrthod y cais gan Hans Blix am fwy o amser i ganfod Arfau Dinistriol Difrifol, yn awr fe welwn Tori Blair yn gofyn am fwy o amser i ganfod Arfau Dinistriol Difrifol... ac yn y cyfamser, mae Irac yn mynd i'r diawl
Idris
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 566
Ymunwyd: Iau 01 Mai 2003 12:41 pm

Postiogan Cwlcymro » Sad 28 Meh 2003 6:43 pm

Be ma pobl maes-e yn feddwl o hyn i gyd?
Os ydy Blair a Campell wedi deud clwydda i fynd a ni i ryfal yda chi'n meddwl fod hunna'n iawn achos fod Saddam yn evil, ta yda chi yn meddwl fod o'n drosed or radd eitha?
Wales? Whales? Do you mean 'da fish, or them singing bastards?
Cwlcymro
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2874
Ymunwyd: Sul 15 Meh 2003 1:12 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan ceribethlem » Sul 29 Meh 2003 5:41 pm

Cwestiwn anodd a chymleth iawn.
Rhaid cofio sut gadarnhaodd Saddam (Ac Osama Bin Laden am hynny) ei bwer yn y lle cyntaf, sef cael ei ariannu gan yr UDA. Doedd yr UDA ddim yn hoffi Iran ar y pryd a Saddam am ryfela gyda Iran, felly dyma'r UDA (a Phrydain am hynny) yn ariannu Saddam a gwerthu arfau iddo fe er mwyn iddo gael ymosod ar Iran, tra'n cryfhau ei sefyllfa fel unben Iraq yr un pryd.
Mae'n hen bryd i'r UDA beidio a chefnogi gwledydd ag Unben ffiaidd am y rheswm eu bod am ymladd rhywun arall nid yw'r UDA yn hoffi.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Postiogan Cardi Bach » Iau 17 Gor 2003 1:43 pm

:D
Blair yn y Senedd ddoe wedi dweud:

Tony Blair a ddywedodd:We know in the 1980s that Iraq purchased from Niger over 270 tons of uranium, and therefore it is not beyond the bounds of possibility - let's at least put it like this - that they went back to Niger again


wel, gan anwybyddu'r amlwg, sef fod y gol-posts wedi symud eto a'i fod yn trial amddiffyn haeriad twp ei lywodraeth fod Iraq wedi ceisio prynnu iwraniwm wrth niger i ddatblygu arfau niwclear, wnaeth arwain yn rhanol at gael mwyafrif San Steffan i gefnogi'r rhyfel - gan anwybyddu hyn, o ddefnyddio rhesymeg Blair roedd Saddam wedi dangos 'form', o ystyried fod Prydain hefyd wedi sypleio Saddam gyda miloedd o dunnellu o arfau cemegol a biolegol ac gweithdai niwclear yn Iraq yn yr un cyfnod a niger ga i ofyn i Blair, is it not beyond the bounds of possibility to also suggest that they came back to Britain again to purchase more WMDs from your Government, Mr Blair?

Yr un rhesymeg ydyw - un twp. Blair, mae'n bryd i ti fynd!
Rhithffurf defnyddiwr
Cardi Bach
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2694
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 7:54 am
Lleoliad: Gal

Postiogan Cardi Bach » Iau 17 Gor 2003 1:46 pm

Cwlcymro a ddywedodd:Be ma pobl maes-e yn feddwl o hyn i gyd?
Os ydy Blair a Campell wedi deud clwydda i fynd a ni i ryfal yda chi'n meddwl fod hunna'n iawn achos fod Saddam yn evil, ta yda chi yn meddwl fod o'n drosed or radd eitha?


Yn syml, na dyw e ddim yn iawn - the end never justifies the means ayb. falle rodda i ateb mwy cynhwysfawr rwbryd arall. :D
Rhithffurf defnyddiwr
Cardi Bach
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2694
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 7:54 am
Lleoliad: Gal

Postiogan Cwlcymro » Iau 17 Gor 2003 9:00 pm

Yn America, lle ma'r Arlwydd yn llawer saffach am resyma allan o'i bwer (effaith Medi 11, y ffaith fod swyddfa'r Arlywydd yn llawer mwy sanctaidd etc) ma'r Ty Gwyn wedi cefnu ar yr 'Niger connection', ac wedi mewn ffordd rhoi'r bel yng nghwrt Blair.
Rhag ofn nad ydy pawb yn gwybod mae'r Ty gwyn wedi darllen datganiad yn dweud na ddylsai Bush wedi son am Niger yn ei araith fawr. A gan ma Prydain gafodd y clod am ddarganfod y *cough* prawf yn y lle cynta, arny nhw'n amlwg ma'r bai yn disgyn.

Ond ma Blair yn cario mlaen i gefnogi beth ddywedodd gynt. Erbyn hyn does ganddo ddim dewis. Os fysai wedi cyfadde ar ddechrau'r ffracas fod y dystiolaeth yn ansaff mi fysai wedi bod yn haws iddo fynd nol ar ei eiria. Ond ar ol amddiffyn ei hyn mor hir, er fod PAWB (America, UN, y senedd, yr asiantaeth sy'n monitro arfau niwclear (enw?) a Hans Blix ei hyn) wedi dweud nad ydy'r datganiad yn un saff., ma di cefnu i gornel.
Ma na dal siawns iddo ddianc. Os darganfyddith riwun WMD yn Iraq mi fydd ychydig o'r pwysa i ffwrdd, er nad ydy'n dad brofi ei gelwydd. Os oes misoedd yn pasio heb brawf pendant, anddadleuol fod y cysylltiad Niger yn anwir, mi allai fethu'r fwled. Ond, os deith y dydd pan ma'i holl ddadl dros ryfel yn colapsho, ma'n raid iddo ei ddilyn a gadael ei sedd.

Be sy'n yng nbgwylltio i fwya ydi y llywodraeth yn trio symyd y goal posts fel petai. Dim WMD ma nhwn drio ffendio ond 'evidence of a WMD programe', ma Blair yn sefyll wrth ei hen ddatganiad fod hi'n 'bosib' i Iraq brynnu o Niger (dim dyna oedd y gwir ddatganiad, SICR oeddo cyn y rhyfel). A'n olaf dim i arbed Prydain ath y fyddin i Iraq, ond i 'ryddhau'r bobl'. Sori Tony, os fysa chdi wedi bod yn dweud hynny CYN y rhyfel, a wedi cal dy mandate dan y faner honno, fyswn i ddim yn cwyno. Ond mynd yno wnes di i stopio Saddam rhag ymosod ar Brydain hefo'i WMD a'i 45 munud!!
Wales? Whales? Do you mean 'da fish, or them singing bastards?
Cwlcymro
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2874
Ymunwyd: Sul 15 Meh 2003 1:12 pm
Lleoliad: Caernarfon


Dychwelyd i Rhyfel a Heddwch

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 6 gwestai

cron