Tudalen 1 o 9

Trais yn gyfiawn?

PostioPostiwyd: Llun 11 Gor 2005 9:46 am
gan Panom Yeerum
Yn dilyn edefyn ffrwydriad yn Llundain, dechreuais feddwl, a oes modd cyfiawnhau trais. Mae rhai ar y maes yn dweud eu bod yn erbyn POB trais. Beth am Tryweryn? A fuasai rhywun wedi condemio rhywun yn y sefyllfa yma? Trafodwch.

PostioPostiwyd: Llun 11 Gor 2005 10:04 am
gan Hedd Gwynfor
Trais yn gyfiawn?


Na. :winc:

PostioPostiwyd: Sad 16 Gor 2005 8:09 pm
gan bibopalwla
Hedd Gwynfor a ddywedodd:
Trais yn gyfiawn?


Na. :winc:


Weithiau

PostioPostiwyd: Sad 16 Gor 2005 8:14 pm
gan Macsen
Os fysai trais yn gyfiawn ymhob achos mi fysai'n safio lot o waith meddwl. Dwi'n datgan anarchiaeth, felly.

PostioPostiwyd: Sad 16 Gor 2005 8:18 pm
gan Dave Thomas
addaswyd

PostioPostiwyd: Sad 16 Gor 2005 8:57 pm
gan Macsen
Dave Thomas a ddywedodd:Os yw pobl yn dweud nad yw trais byth yn gyfiawn, yw hyn yn cynnwys ymdrechion dewr byddinoedd oedd yn cwffio Hitler yn yr ail ryfel byd?


Ond eto, os nad am drais y Rhyfel Byd cyntaf, mae'n anhebygol y bysai y Drydydd Reich wedi codi'n y lle cyntaf. Mae trais yn dilyn trais sy'n dilyn trais. Amhosib yw mynd nol i'w darddiad ac felly rydym ni wedi'n dal mewn dolen di ddiwedd. Fel hwn.

PostioPostiwyd: Sad 16 Gor 2005 9:08 pm
gan Dave Thomas
addaswyd

PostioPostiwyd: Sad 16 Gor 2005 9:34 pm
gan Macsen
Mi fysai torri bysedd cyfrannwyr cythruddlyd fel bod nhw methu postio ar y Maes yn drais cyfiawn. Mwahahaha.

Realydd a ddywedodd:Osgoi'r cwestiwn, Macsen?


Jyst pwyntio allan ei fod o'n gwestiwn lot mwy cymhleth na mae'n ymddangos. Fyswn i'm yn dweud fod trais yn anghyfiawn ymhob achos, ond yn y mwyafrif y bysai osgoi trais wedi bod yn well. Dwed nawr bod dyn yn mynd i lawnsio bom atomig; ydi ei daro fo dros y pen a polyn dur cyn iddo wasgu'r botwm yn 'drais anghyfiawn'? Wrth gwrs tydi o ddim. Ond wedyn rhaid i ti ystyried effeithiau gwasgu'r botwm hwnnw, ac mae'r cwestiwn yn mynd yn fwy a mwy cymhleth. All neb weld i'r dyfodol. Felly mae'n amhosib ateb y cwestiwn.

PostioPostiwyd: Sad 16 Gor 2005 9:47 pm
gan Dave Thomas
addaswyd

PostioPostiwyd: Sad 16 Gor 2005 10:51 pm
gan bartiddu
Cwestwin sy'n poeni fi ar ol gwylio'r hen rhaglennu dogfen yw achos Caen. Roedd yr Almaenwyr yn eu amddiffyn yn gadarn a'r cyngrheiriaid methu enill tir. Penderfynwyd gwastadi Caen ( i gwaredi'r Almaenwyr) a lladd ar amcan gyfrif tua 6,000* o drigolion Caen, mae rhyfel yn ofnadwy, ond trais yn gyfiawn fan hyn? I enill y rhyfel cam bwysig, ond pe tawn yn un o'r 6000* honedig! :?


* rhif o'r cof .