Trais yn gyfiawn?

Newyddion, protestiadau, trafod

Cymedrolwr: Cwlcymro

Rheolau’r seiat
Newyddion, protestiadau, trafod. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Cath Ddu » Sad 16 Gor 2005 11:14 pm

bartiddu a ddywedodd:Cwestwin sy'n poeni fi ar ol gwylio'r hen rhaglennu dogfen yw achos Caen. Roedd yr Almaenwyr yn eu amddiffyn yn gadarn a'r cyngrheiriaid methu enill tir. Penderfynwyd gwastadi Caen ( i gwaredi'r Almaenwyr) a lladd ar amcan gyfrif tua 6,000* o drigolion Caen, mae rhyfel yn ofnadwy, ond trais yn gyfiawn fan hyn? I enill y rhyfel cam bwysig, ond pe tawn yn un o'r 6000* honedig! :?

* rhif o'r cof .

Hollol gywir Bartiddu. Di trais byth yn gywir. Mae trais BOB amser yn arwydd o fethiant. Ond, ac mae hyn yn hollol anffodus, mae trais weithiau'n gyfiawn.

Oedd trais Michael Collins yn gyfiawn? Oedd fe haeraf gan ei fod yn cynrychioli mwyafrif sylweddol o drigolion Iwerddon yn 1920/21. Oedd trais DeValera yn gyfiawn yn y rhyfel cartref ddilynodd yr heddwch rhwng Prydain ac Iwerddon? Na - trais er budd lleiafrif (bychan) oedd hyn.

Oedd yr ANC yn iawn i ddefnyddio trais - oedd i mi gan fod cyfundren hiliol a di-gyfaddawd De Affrica yn y 60au a'r 70au yn defnyddio trais i sarthu mwyafrif sylweddol. Yn yr un modd, fe fyddai trais gan 'renegade' Afrikaners yn anghyfiawn gan nad oedd iddynt fandad democrataidd.

Gallwn fynd ymlaen ac ymlaen. Fel y dywedodd fy nhaid wrth adael PC yn 1940. "Nid Prydain di'r gelyn bellach". Fo oedd yn gywir. Fe fyddai heddychiaeth amherthnasol PC a Gwynfor Evans wedi gwneud dim i roi stop ar Hitler. Yn hyn o beth, fe fyddai heddychiaeth o'r fath yn 'intervention' bwriadol i stopio unrhyw ymdrech i roi stop ar Hitler. Fe fyddai hynny'n afresymol ac yn anfoesol.
Cath Ddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1963
Ymunwyd: Iau 22 Gor 2004 2:23 pm

Postiogan Mr Gasyth » Sul 17 Gor 2005 12:06 pm

Pam fod rhaid i bob trafodaeth ddod rownd at Hitler yn y diwedd dudwch?

Eniwe, dwi'n cytuno fwy neu lai efo popeth ma Macsen a'r Gath wedi ddeud. Wrth gwrs tydi trais fyth yn ddymunol, ond weithiau mae'n gyfiawn - ac o'i ddefnyddio trais i amddiffyn eich hun yn erbyn trais mae'n anodd gweld sut ellid condemnio hynny fyth.

Y broblem gyda dweud fod trais weithiau'n gyfiawn fodd bynnag ydi ein bod wedyn yn gadael i unigolion a grwpiau o bobol benderfynnu pryd mae'n gyfiawn a nid pawb fydd yn cytuno ar hyn a mae'n rhaid felly dderbyn na fydd diffiniad ein gelynion o be sy'n gyfiawn yr un fath a'n un ni. Mae Bush yn credu fod rhyfel Irac yn gyfiawn tra bo Bin Laden yn credu fod bomio Llundain yn gyfiawn. Gallwn gytuno gyda'r naill neu'r llall neu gyda'r un ohonyn nhw, ond os ydym yn credu fod trais weithiau'n gyfiawn allwn ni ddim dweud fod y naill ohonyn nhw'n anghywir.

Dyna pam fod heddychiaeth yn ffordd lot mwy syml o edrych ar y byd oherwydd wedyn gellir osgoi gwneud y penderfniad yma o beth sy'n gyfiawn a be sydd ddim. Dyna pam dwi'n gweld heddychiaeth fel bach o cop-out.
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Postiogan Dave Thomas » Sul 17 Gor 2005 1:42 pm

addaswyd
Dave Thomas
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 500
Ymunwyd: Mer 13 Gor 2005 10:26 pm

Postiogan cyfrinair » Sul 17 Gor 2005 4:57 pm

Mr Gasyth a ddywedodd:

Dyna pam fod heddychiaeth yn ffordd lot mwy syml o edrych ar y byd oherwydd wedyn gellir osgoi gwneud y penderfniad yma o beth sy'n gyfiawn a be sydd ddim. Dyna pam dwi'n gweld heddychiaeth fel bach o cop-out.

Os wyt ti'n Gristion o argyhoeddiad mae bod yn heddychwr yn syml. Dilyn athrawiaeth a dysgeidiaeth Iesu yw'r ffordd symla o fyw:-

Luc 6:29-31

"Pan fydd dyn yn dy daro di ar dy foch, cynigia'r llall iddo hefyd; pan fydd dyn yn cymryd dy fantell, paid â'i rwystro rhag cymryd dy grys hefyd. Rho i bawb sy'n gofyn gennyt, ac os bydd rhywun yn cymryd dy eiddo, paid â gofyn amdano'n ôl. Fel y dymunwch i ddynion wneud i chwi, gwnewch chwithau yr un fath iddynt hwy"

Yn aml gei di bobl sy'n honni bod yn Gristnogion (Bush a Blair) yn anwybyddu'r uchod - ond ys dywed Llythyr cyntaf Ioan 4:20

Os dywed rhywun, "'Rwy'n caru Duw", ac yntau'n casau ei frawd, y mae'n gelwyddog; oherwydd ni all neb nad yw'n caru'r brawd y mae wedi ei weld, garu Duw nad yw wedi ei weld."
Er mwyn Cymru
Rhithffurf defnyddiwr
cyfrinair
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 141
Ymunwyd: Llun 01 Rhag 2003 7:56 pm
Lleoliad: fan hyn

Postiogan Mr Gasyth » Sul 17 Gor 2005 5:50 pm

cyfrinair a ddywedodd:
Mr Gasyth a ddywedodd:

Dyna pam fod heddychiaeth yn ffordd lot mwy syml o edrych ar y byd oherwydd wedyn gellir osgoi gwneud y penderfniad yma o beth sy'n gyfiawn a be sydd ddim. Dyna pam dwi'n gweld heddychiaeth fel bach o cop-out.

Os wyt ti'n Gristion o argyhoeddiad mae bod yn heddychwr yn syml. Dilyn athrawiaeth a dysgeidiaeth Iesu yw'r ffordd symla o fyw

Dyna oedd fy mhwynt, mae'n syml, yn rhy syml. Tydi bywyd a'r byd rydym yn byw ynddo dim yn syml.
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Postiogan Hedd Gwynfor » Sul 17 Gor 2005 5:53 pm

Cytuno'n llwyr. Dwi'n methu gweld sut all unrhyw Gristion gyfiawnhau UNRHYW DRAIS!
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Postiogan Hedd Gwynfor » Sul 17 Gor 2005 5:54 pm

Mr Gasyth a ddywedodd:
cyfrinair a ddywedodd:
Mr Gasyth a ddywedodd:

Dyna pam fod heddychiaeth yn ffordd lot mwy syml o edrych ar y byd oherwydd wedyn gellir osgoi gwneud y penderfniad yma o beth sy'n gyfiawn a be sydd ddim. Dyna pam dwi'n gweld heddychiaeth fel bach o cop-out.

Os wyt ti'n Gristion o argyhoeddiad mae bod yn heddychwr yn syml. Dilyn athrawiaeth a dysgeidiaeth Iesu yw'r ffordd symla o fyw

Dyna oedd fy mhwynt, mae'n syml, yn rhy syml. Tydi bywyd a'r byd rydym yn byw ynddo dim yn syml.

Mae'n syml i Gristion. Efallai i eraill nid yw mor syml! :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Postiogan cyfrinair » Sul 17 Gor 2005 5:58 pm

Mr Gasyth a ddywedodd:
Tydi bywyd a'r byd rydym yn byw ynddo dim yn syml.

Mi wn i hynny, ond tase'r bobl sy'n honni bod yn Gristnogion yn gweithredu eu Cristnogaeth, bydde bywyd tipyn yn llai cymhleth.
Er mwyn Cymru
Rhithffurf defnyddiwr
cyfrinair
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 141
Ymunwyd: Llun 01 Rhag 2003 7:56 pm
Lleoliad: fan hyn

Postiogan Lowri Fflur » Sul 17 Gor 2005 6:13 pm

Sa ni'n cael gwared ar bob dim sydd yn gwneud ni'n wahanol i eraill sa'r byd yn le lot mwy heddychlon. Sa ni'n cael gwared ar bethau fel iaith dosbarthiadau cymdeithasol, ieithoedd, crefyddau. Boring fysa pobl os fysa nw i gyd yr un peth.
"It's better to light a candle than to curse the darkness"
Rhithffurf defnyddiwr
Lowri Fflur
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1296
Ymunwyd: Sul 30 Tach 2003 10:07 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Mr Gasyth » Sul 17 Gor 2005 6:22 pm

cyfrinair a ddywedodd:
Mr Gasyth a ddywedodd:
Tydi bywyd a'r byd rydym yn byw ynddo dim yn syml.

Mi wn i hynny, ond tase'r bobl sy'n honni bod yn Gristnogion yn gweithredu eu Cristnogaeth, bydde bywyd tipyn yn llai cymhleth.

Petai, petai, petai... Ond tydi o ddim felna nagydi, nid pawb sy'n gristion neu yn honni bod yn un a felly mae yna bobl ddrwg yn y byd ma sy'n barod i frifo a lladd pobl eraill. Allwn ni ddim byw bywyd wrth reolau byd delfrydol nad yw'n bodoli neu buasen ni'n ffycd.

A beth bynnag mae Cristnogion yn ei ddweud, tydw i ddim yn credu am eiliad petai unrhywun ohonynt yn cael ei ymosod arno gan rywyn yn ceisio ei ladd, neu yn gweld rhywyn yn gwneud hynny i'w graig/gwr/plant na fuasent yn ymladd yn ol ac yn amddiffyn eu hunain a'u teulu. Mae rhesthreg yn hawdd, ond mae realiti yn wahanol.
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

NôlNesaf

Dychwelyd i Rhyfel a Heddwch

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 9 gwestai