Trais yn gyfiawn?

Newyddion, protestiadau, trafod

Cymedrolwr: Cwlcymro

Rheolau’r seiat
Newyddion, protestiadau, trafod. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Dave Thomas » Sul 17 Gor 2005 7:00 pm

addaswyd
Dave Thomas
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 500
Ymunwyd: Mer 13 Gor 2005 10:26 pm

Postiogan Hedd Gwynfor » Sul 17 Gor 2005 7:06 pm

Dave Thomas a ddywedodd:Dwi'n amau dyna yw'r dehongliad cywir. Dyma pam fod gadael dehongli'r beibl i amateurs yn beth all fod yn beryglus.


Cytuno 100%! Mae'r amturiaid asgell dde efengylaidd yn yr Amerig wdi newid ystyr gwir Gristnogaeth i fo yn un rhyfelgar, anioddefgar a chul! Ych a pych!
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Postiogan cyfrinair » Sul 17 Gor 2005 11:33 pm

[quote="Dave Thomas"] Dwi ddim yn meddwl fod dy ddehongliad di o'r beibl yn dal dwr, rywsut.

Nid fy nehongliad i yw e. Y Gair. Darllen dy feibl. xx
Er mwyn Cymru
Rhithffurf defnyddiwr
cyfrinair
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 141
Ymunwyd: Llun 01 Rhag 2003 7:56 pm
Lleoliad: fan hyn

Postiogan Cath Ddu » Sul 17 Gor 2005 11:45 pm

Mr Gasyth a ddywedodd:A beth bynnag mae Cristnogion yn ei ddweud, tydw i ddim yn credu am eiliad petai unrhywun ohonynt yn cael ei ymosod arno gan rywyn yn ceisio ei ladd, neu yn gweld rhywyn yn gwneud hynny i'w graig/gwr/plant na fuasent yn ymladd yn ol ac yn amddiffyn eu hunain a'u teulu. Mae rhesthreg yn hawdd, ond mae realiti yn wahanol.


Dyma daro'r hoelen ar ei phen. Dwi'n gwybod nad wyf yn heddychwr. Gallaf gynnig esiamplau hanesyddol o pam fod yna gyfiawnhad weithiau i drais. Ond yr uchod i mi di'r ddadl yn erbyn heddychiaeth. Pe byddai fy nheulu dan fygythiad fe fyddwn yn defnyddio unrhyw drais i'w diogelu. Dwi'n gwybod hynny, a dwi'n falch o hynny.

Nid wyf felly yn heddychwr, ac yn ol rhai o fewn y maes nid wyf chwaith yn Gristion. Wel, dwi erioed wedi honni fy mod yn Gristion mawr, ond dwi'n ansicr os dwi am dderbyn barn Hedd ar pwy sydd a phwy sydd ddim yn Gristion.

Un gwr oedd yn gristion oedd fy nhaid. Serch hynny fe fu iddo adael PC yn 1940 gan ei fod yn credu fod yn rhaid rhoi stop ar Almaen y Natsiaid (ddim y fi di'r cyntaf i godi WW2 gyda llaw!).

Dyma ddywedodd yn ei ddyddiadaur;

Ambrose Bebb a ddywedodd:Yr oedd yn wir gyfyng arnaf: ni fedrwn weddio am fendith Duw ar y lladdfa ofnadwy; ac ni allwn erfyn am unrhyw fath o Heddwch. Rhwng meddyliau'n tynnu'n groes, pa fodd y byddai grym na graen ar fy ngweddi? Heblaw - a yw Prydain...Ffrainc yn gwir haeddu ffafr y Nefoedd? Ac eto....y mae hwn hefyd yn syniad creulon, cableddus efallai.....ac anghristnogol.


Mae'n cydnabod fan hyn fod rhyfel yn groes i ddysgeidiaeth y Cristion, ond heb os mae yma gyfiawnhad o'r hyn yr oedd yn ei weld fel rhyfel cyfiawn. Yr oedd yr Almaen yn 1940 yn elyn oedd yn cyfiawnhau trais hyd yn oed yn meddwl dyn oedd yn Gristion o arddeliad.

Llawer rhy syml yw dald Hedd ac eraill am Gristnogaeth / cyfiawnhau trais fe dybiaf
Cath Ddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1963
Ymunwyd: Iau 22 Gor 2004 2:23 pm

Postiogan cyfrinair » Llun 18 Gor 2005 12:04 am

[quote="Cath Ddu"]
Er mwyn Cymru
Rhithffurf defnyddiwr
cyfrinair
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 141
Ymunwyd: Llun 01 Rhag 2003 7:56 pm
Lleoliad: fan hyn

Postiogan Cath Ddu » Llun 18 Gor 2005 12:10 am

cyfrinair a ddywedodd:
Cath Ddu a ddywedodd:Llawer rhy syml yw dald Hedd ac eraill am Gristnogaeth / cyfiawnhau trais fe dybiaf


Dywedodd Runcie - "To turn the other cheek would be folly" - plis peidiwch dweud wrtho fi mai ffwl oedd Iesu.


Ddaru fi ddweud hynny? Ond dwi'n licio dyfyniad Runcie :lol:
Cath Ddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1963
Ymunwyd: Iau 22 Gor 2004 2:23 pm

Postiogan Cath Ddu » Llun 18 Gor 2005 12:12 am

Ymddengys fod cyfraniad Cyfrinair wedi mynd :ofn:
Cath Ddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1963
Ymunwyd: Iau 22 Gor 2004 2:23 pm

Postiogan Dielw » Llun 18 Gor 2005 12:15 am

Hedd Gwynfor a ddywedodd:
Mr Gasyth a ddywedodd:
cyfrinair a ddywedodd:
Mr Gasyth a ddywedodd:

Dyna pam fod heddychiaeth yn ffordd lot mwy syml o edrych ar y byd oherwydd wedyn gellir osgoi gwneud y penderfniad yma o beth sy'n gyfiawn a be sydd ddim. Dyna pam dwi'n gweld heddychiaeth fel bach o cop-out.


Os wyt ti'n Gristion o argyhoeddiad mae bod yn heddychwr yn syml. Dilyn athrawiaeth a dysgeidiaeth Iesu yw'r ffordd symla o fyw


Dyna oedd fy mhwynt, mae'n syml, yn rhy syml. Tydi bywyd a'r byd rydym yn byw ynddo dim yn syml.


Mae'n syml i Gristion. Efallai i eraill nid yw mor syml! :winc:
....Mae'r gallu i feddwl yn fy atal rhag bihafio mewn ffordd mor anfoesol. Dwi ddim yn dallt sut ma rhai a fyddai'n cael eu disgrifio fel pobl deallus gan mwyafrif cymdeithas (?) mor argyhoeddiedig bod dehongliad 2000 oed o'r Beibl yn fwy pwysig na teimladau naturiol dynol.

Dydi crefydd ddim yn hoff iawn o natur sylfaenol dyn, na felly y gwirionedd. Dwi'n falch bod capeli yn cau.
One day this chalk outline will circle this city

Survival... Recovery... Prevention la la la
Rhithffurf defnyddiwr
Dielw
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 960
Ymunwyd: Iau 30 Hyd 2003 4:08 pm
Lleoliad: heheheee... urgh

Postiogan cyfrinair » Llun 18 Gor 2005 12:28 am

Cath Ddu a ddywedodd:
cyfrinair a ddywedodd:
Cath Ddu a ddywedodd:Llawer rhy syml yw dald Hedd ac eraill am Gristnogaeth / cyfiawnhau trais fe dybiaf


Dywedodd Runcie - "To turn the other cheek would be folly" - plis peidiwch dweud wrtho fi mai ffwl oedd Iesu.


Ddaru fi ddweud hynny? Ond dwi'n licio dyfyniad Runcie :lol:


Chydig yn rhyfedd o gofio mai Archesgob Caergrawnt ddwedodd hynny. Rhyfedd ife? Mor wrthun i ddysgeidiaeth Iesu
Er mwyn Cymru
Rhithffurf defnyddiwr
cyfrinair
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 141
Ymunwyd: Llun 01 Rhag 2003 7:56 pm
Lleoliad: fan hyn

Postiogan bibopalwla » Llun 18 Gor 2005 9:32 am

Cath Ddu a ddywedodd:
bartiddu a ddywedodd:Cwestwin sy'n poeni fi ar ol gwylio'r hen rhaglennu dogfen yw achos Caen. Roedd yr Almaenwyr yn eu amddiffyn yn gadarn a'r cyngrheiriaid methu enill tir. Penderfynwyd gwastadi Caen ( i gwaredi'r Almaenwyr) a lladd ar amcan gyfrif tua 6,000* o drigolion Caen, mae rhyfel yn ofnadwy, ond trais yn gyfiawn fan hyn? I enill y rhyfel cam bwysig, ond pe tawn yn un o'r 6000* honedig! :?


* rhif o'r cof .


Hollol gywir Bartiddu. Di trais byth yn gywir. Mae trais BOB amser yn arwydd o fethiant. Ond, ac mae hyn yn hollol anffodus, mae trais weithiau'n gyfiawn.

Oedd trais Michael Collins yn gyfiawn? Oedd fe haeraf gan ei fod yn cynrychioli mwyafrif sylweddol o drigolion Iwerddon yn 1920/21. Oedd trais DeValera yn gyfiawn yn y rhyfel cartref ddilynodd yr heddwch rhwng Prydain ac Iwerddon? Na - trais er budd lleiafrif (bychan) oedd hyn.

Typical. 'Mond yng Nghymru gewch chi ddadl mewn iaith leiafrifol lle gall rhywun honni o ddifrif mai dim ond er lles y mwyafrif mae hawl defnyddio trais. Rwtsh. Os yw trais yn gyfiawn, pwy sydd i weud pa ochr sy'n gyfiawn? ee y gorllewin yn erbyn ffwndamentaliaid Islamaidd sy'n mo'yn gwaredu'r 'non-believers' yn enw Duw. Falle taw Islam sy'n iawn. Falle taw eu fersiwn nhw o Islam sy'n gywir. Cyfiawnhau trais felly? Sai'n credu.

Sy'n dod a fi at y ddadl grefyddol/Gristnogol yn yr edefyn. Cadwch blydi grefydd mas ohoni. Mater personol yw crefydd, a peryg iawn yw ei ystyried wrth lunio polisi tramor. Gellir ei ddehongli y naill ffordd neu'r llall. Hedd, mae'n anhygoel o ymhonus ar dy ran di i feddwl fod dy ddehongliad di yn un fwy dilys na'r 'efengyls Americanaidd' (a mae'n gas gen i bobol sy'n ceisio sathru'r gwrthwynebwyr drwy gyffelybu eu dadl nhw a rhywbeth Americanaidd o hyd ag o hyd, gan wybod fod llwyth o lefftis bach drewllyd ar y maes yn mynd i gytuno jyst achos yr un cyfeiriad hwnnw).

Beth am efengyls Cymru? Beth am Dr Martyn Lloyd-Jones? Fe ddarllenodd e dipyn mwy o'r beibl na ti Hedd, a fe feddyliodd e dipyn mwy amdano fe, faswn i'n tybio, a dodd e ddim yn ddyn twp (nid dweud ydw i dy fod ti! :winc: ). Darllen ei lyfr Why does God allow war?. Sili iawn yw dweud na ellir bod yn Gristion heb fod yn heddychwr.

Cath Ddu a ddywedodd:Oedd yr ANC yn iawn i ddefnyddio trais - oedd i mi gan fod cyfundren hiliol a di-gyfaddawd De Affrica yn y 60au a'r 70au yn defnyddio trais i sarthu mwyafrif sylweddol. Yn yr un modd, fe fyddai trais gan 'renegade' Afrikaners yn anghyfiawn gan nad oedd iddynt fandad democrataidd.

Wot? Yn dy farn di. Dyma lle ma'r ddadl o blaid trais i weld i fi yn disgyn bob tro. Lle bo anghydweld, 'dyw trais byth yn iawn, ac eithrio fel amddiffyniad. Fire only when fired upon fel 'tai.
Ond, wrth gwrs, yn yr oes niwclear, ma' hyd yn oed y ddadl hon yn rhy syml. Fel wedodd Carwyn James, get your retaliation in first. Beth os oes tystiolaeth yn dod i'r feu fod Gog Korea am ymosod yn niwclear ar UDA, neu Israel, neu Dde Korea? Allwch chi ddim aros tan bod nhw wedi saethu gynta' wedyn, does bosib?

Cath Ddu a ddywedodd:Oedd yr ANC yn iawn i ddefnyddio trais - oedd i mi gan fod cyfundren hiliol a di-gyfaddawd De Affrica yn y 60au a'r 70au yn defnyddio trais i sarthu mwyafrif sylweddol.


Beth am Gandhi yn India? Fel yn India, pocedi bach oedd yn defnyddio trais yn Ne Affrica, o'dd Mandela ddim o blaid defnyddio trais (fi'n credu bod fi'n iawn fanna, ond fi'n barod i ga'l fy saethu lawr gan rhywun mwy gwybodus yn y pwnc!)

Cath Ddu a ddywedodd:Gallwn fynd ymlaen ac ymlaen. Fel y dywedodd fy nhaid wrth adael PC yn 1940. "Nid Prydain di'r gelyn bellach". Fo oedd yn gywir. Fe fyddai heddychiaeth amherthnasol PC a Gwynfor Evans wedi gwneud dim i roi stop ar Hitler. Yn hyn o beth, fe fyddai heddychiaeth o'r fath yn 'intervention' bwriadol i stopio unrhyw ymdrech i roi stop ar Hitler. Fe fyddai hynny'n afresymol ac yn anfoesol.


A ie, ond ma safbwynt Gwynfor Evans yn fwy cymhleth o lawer na ti'n dweud. Brwydrau y gwledydd mawr oedd rhain. Nhw o'dd yn dachre'r rhyfeloedd, a'u breuddwydion ymherodrol nhw oedd yn gyfrifol am y rhelyw ohonyn nhw. Pam ddylsai arweinydd cenedlaetholwyr Cymru fach felly fod o blaid y naill fastad neu'r llall? 'Dyw'r ail rhyfel byd, mae'n ddrwg 'da fi weud, ddim yn frwydr mor ddu a gwyn, gwd and ifil, a ma pobol yn hoffi meddwl. Yn y naws sydd ohoni, falle bod hi'n briodol i son am derwristiaeth Lloegr. Dyna'u tacteg nhw wedi bod erioed. ee lladd 30,000 o bobol yn Dresden yn ystod y Rhyfel Mawr Gwych a Chyfiawn 1939-1945. Nid rhoi stop ar Hitler oedd bwriad heddychiaet GE a PC, ond gwneud yr hyn oedd, yn eu tyb hwy, yn foesol gywir, ac yn iawn i Gymru. A ma' gyda nhw bwynt. O Agincourt i Bosnia i Irac ma' bois Cymru wedi bod ar flaen y gad yn enw rhyfeloedd 'cyfiawn' Lloegr, eu gormeswyr, yn erbyn pobol eraill rownd y byd a ormeswyd gan yr un wlad. Pam ddylsai Gwynfor gefnogi parhad y sefyllfa gywilyddus hon?
"There are few things more pleasing than to perform a good deed by stealth, which is discovered by accident"
bibopalwla
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 105
Ymunwyd: Gwe 24 Meh 2005 8:20 pm

NôlNesaf

Dychwelyd i Rhyfel a Heddwch

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 9 gwestai

cron