Trais yn gyfiawn?

Newyddion, protestiadau, trafod

Cymedrolwr: Cwlcymro

Rheolau’r seiat
Newyddion, protestiadau, trafod. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan bibopalwla » Llun 18 Gor 2005 9:35 am

Dielw a ddywedodd:Mae'r gallu i feddwl yn fy atal rhag bihafio mewn ffordd mor anfoesol. Dwi ddim yn dallt sut ma rhai a fyddai'n cael eu disgrifio fel pobl deallus gan mwyafrif cymdeithas (?) mor argyhoeddiedig bod dehongliad 2000 oed o'r Beibl yn fwy pwysig na teimladau naturiol dynol.


Sori, ti jyst ddim yn neud dim sens o gwbwl.
"There are few things more pleasing than to perform a good deed by stealth, which is discovered by accident"
bibopalwla
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 105
Ymunwyd: Gwe 24 Meh 2005 8:20 pm

Postiogan Cath Ddu » Gwe 22 Gor 2005 9:25 pm

bibopalwla a ddywedodd:Typical. 'Mond yng Nghymru gewch chi ddadl mewn iaith leiafrifol lle gall rhywun honni o ddifrif mai dim ond er lles y mwyafrif mae hawl defnyddio trais. Rwtsh.


Rwtsh fydde dadl o'r fath, ond nid dyna y bu i mi ddweud. Darllen yr edefyn eto, yr hyn dwi'n dweud yw nad oes modd cyfiawnhau trais heb unai;

a) Mandad gwleidyddol
b) Dim dewis arall moesol

Bibopawla a ddywedodd:Os yw trais yn gyfiawn, pwy sydd i weud pa ochr sy'n gyfiawn? ee y gorllewin yn erbyn ffwndamentaliaid Islamaidd sy'n mo'yn gwaredu'r 'non-believers' yn enw Duw. Falle taw Islam sy'n iawn. Falle taw eu fersiwn nhw o Islam sy'n gywir. Cyfiawnhau trais felly? Sai'n credu.


Ti wedi fy ngholli fan hyn. Beth yw dy ddadl? Fod trais mwslemaidd yn ddewis olaf moesol ta fod ganddynt fandad ddemocrataidd? Anodd ymateb ymhellach gan fod dy gyfraniad yn bur anelwig.

bibopalwla a ddywedodd:Sy'n dod a fi at y ddadl grefyddol/Gristnogol yn yr edefyn. Cadwch blydi grefydd mas ohoni. Mater personol yw crefydd, a peryg iawn yw ei ystyried wrth lunio polisi tramor.


Gad i mi gutuno, ond er tegwch i gyfranwyr eraill credaf fod modd datgan safbwyt bersonnol o fod yn erbyn trais.

bipop a ddywedodd:Hedd, mae'n anhygoel o ymhonus ar dy ran di i feddwl fod dy ddehongliad di yn un fwy dilys na'r 'efengyls Americanaidd' (a mae'n gas gen i bobol sy'n ceisio sathru'r gwrthwynebwyr drwy gyffelybu eu dadl nhw a rhywbeth Americanaidd o hyd ag o hyd, gan wybod fod llwyth o lefftis bach drewllyd ar y maes yn mynd i gytuno jyst achos yr un cyfeiriad hwnnw).


Cytuno'n llwyr :D

bibop a ddywedodd: Beth am efengyls Cymru? Beth am Dr Martyn Lloyd-Jones? Fe ddarllenodd e dipyn mwy o'r beibl na ti Hedd, a fe feddyliodd e dipyn mwy amdano fe, faswn i'n tybio, a dodd e ddim yn ddyn twp (nid dweud ydw i dy fod ti! :winc: ). Darllen ei lyfr Why does God allow war?. Sili iawn yw dweud na ellir bod yn Gristion heb fod yn heddychwr.


Cytuno eto. Pwynt gwirioneddol bwysig.

bipop a ddywedodd:
Cath Ddu a ddywedodd:Oedd yr ANC yn iawn i ddefnyddio trais - oedd i mi gan fod cyfundren hiliol a di-gyfaddawd De Affrica yn y 60au a'r 70au yn defnyddio trais i sarthu mwyafrif sylweddol. Yn yr un modd, fe fyddai trais gan 'renegade' Afrikaners yn anghyfiawn gan nad oedd iddynt fandad democrataidd.

Wot? Yn dy farn di. Dyma lle ma'r ddadl o blaid trais i weld i fi yn disgyn bob tro. Lle bo anghydweld, 'dyw trais byth yn iawn, ac eithrio fel amddiffyniad. Fire only when fired upon fel 'tai.


Dwi'n credu i ti gam ddeall y pwynt fan hyn. Yn gyntaf, barn bersonnol sydd gan bawb o fewn Maes e - hyd yn oed chdi :winc: . Dwi ddim yn cytuno efo gweddill dy ddiffiniad o fy mhwynt am yr ANC. Credaf y bydd fy ymateb i dy bwynt nesaf yn egluro pam.

bipop a ddywedodd:
Ond, wrth gwrs, yn yr oes niwclear, ma' hyd yn oed y ddadl hon yn rhy syml. Fel wedodd Carwyn James, get your retaliation in first. Beth os oes tystiolaeth yn dod i'r feu fod Gog Korea am ymosod yn niwclear ar UDA, neu Israel, neu Dde Korea? Allwch chi ddim aros tan bod nhw wedi saethu gynta' wedyn, does bosib?


Dwi'n cytuno. Mewn achos o'r fath fe fyddai pre-emptive strike yn weithred foesol gywir.

bipop a ddywedodd:
Cath Ddu a ddywedodd:Oedd yr ANC yn iawn i ddefnyddio trais - oedd i mi gan fod cyfundren hiliol a di-gyfaddawd De Affrica yn y 60au a'r 70au yn defnyddio trais i sarthu mwyafrif sylweddol.


Beth am Gandhi yn India? Fel yn India, pocedi bach oedd yn defnyddio trais yn Ne Affrica, o'dd Mandela ddim o blaid defnyddio trais (fi'n credu bod fi'n iawn fanna, ond fi'n barod i ga'l fy saethu lawr gan rhywun mwy gwybodus yn y pwnc!)


Fe fu i Mandela gyfiawnhau y defnydd o drais. Fe fu Mandela yn fodlon cyfiawnhau trais yr ANC. Creaf ei fod yn gywir yn hyn o beth.

bipop a ddywedodd:A ie, ond ma safbwynt Gwynfor Evans yn fwy cymhleth o lawer na ti'n dweud. Brwydrau y gwledydd mawr oedd rhain. Nhw o'dd yn dachre'r rhyfeloedd, a'u breuddwydion ymherodrol nhw oedd yn gyfrifol am y rhelyw ohonyn nhw. Pam ddylsai arweinydd cenedlaetholwyr Cymru fach felly fod o blaid y naill fastad neu'r llall?


Achos cachu lwyr oedd y ddadl Imperialaidd yn achos 1939. Os oedd fy nhaid (o'r un cefndir a Gwynfor) a George Orwell yn gallu gweld hynny beth yn union oedd esgus PC yn 1939/40. Dwi ddim yn credu fy mod yn anheg efo neb. Er gwaethaf popeth yr oedd 1939-45 yn rhyfel foesol gywir o safbwynt gwrth Natsiaidd.

bipop a ddywedodd:'Dyw'r ail rhyfel byd, mae'n ddrwg 'da fi weud, ddim yn frwydr mor ddu a gwyn, gwd and ifil, a ma pobol yn hoffi meddwl. Yn y naws sydd ohoni, falle bod hi'n briodol i son am derwristiaeth Lloegr. Dyna'u tacteg nhw wedi bod erioed. ee lladd 30,000 o bobol yn Dresden yn ystod y Rhyfel Mawr Gwych a Chyfiawn 1939-1945.


Ti'n cymysgu un esiampl (erchyll ond cyfiawn fe haeraf) efo fy amddiffyniad o'r penderfyniad i ymladd yn 1939. Mae disgrifio Dresden fel terwristiaeth Lloegr yn anghywir o ran cyd-destun Dresden ac hefyd fel modd o ddeall pam fod trais yn gyfiawn yn 1939-45. O ran rhyfel yn ddu a gwyn - ydi nhw byth? Ond yn yr holl hanes dwi wedi astudio hwn yw'r achos mwyaf clear cut.

Bipop a ddywedodd:Nid rhoi stop ar Hitler oedd bwriad heddychiaet GE a PC, ond gwneud yr hyn oedd, yn eu tyb hwy, yn foesol gywir, ac yn iawn i Gymru. A ma' gyda nhw bwynt. O Agincourt i Bosnia i Irac ma' bois Cymru wedi bod ar flaen y gad yn enw rhyfeloedd 'cyfiawn' Lloegr, eu gormeswyr, yn erbyn pobol eraill rownd y byd a ormeswyd gan yr un wlad. Pam ddylsai Gwynfor gefnogi parhad y sefyllfa gywilyddus hon?


Yn yr achos hwn ymladd oedd y dewis moesol gywir. Y dewis yn 1939 oedd Natsiaeth neu ymladd. Doedd dim yn foesol yn ymateb PC ac eithrio y bobl hynny oedd yn wir heddychwyr (lleiafrif bychan iawn). Ti'n gywir fod milwyr Cymru wedi bod ar flaen y gad yn rhyfeloedd Lloegr, felly hefyd ym myddinoedd Lloegr yn 1277, 1282 a thrwy gydol gwrthryfel Glyndwr. Dy bwynt? O leiaf yn yr achos hwn yr oedd yr achos yn gyfiawn.
Cath Ddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1963
Ymunwyd: Iau 22 Gor 2004 2:23 pm

Postiogan Hedd Gwynfor » Sad 23 Gor 2005 12:31 am

Bebb a ddywedodd:Doedd dim yn foesol yn ymateb PC ac eithrio y bobl hynny oedd yn wir heddychwyr (lleiafrif bychan iawn)


Barn neu ffaith?

Mae defnyddio trais i orfodi newid yn mynd yn erbyn Cristnogaeth yn fy marn i. Dwi byth yn mynd i'r capel, nac yn honni mod i'n Gristion gwell na unrhyw un arall, ond dwi wir ddim yn gallu gweld sut y gall UNRHYW Gristion gyfiawnhau defnyddio trais. Trais yw gwraidd holl broblemau'r byd. Sut gall y defnydd o drais ddatrys y broblem felly? Wir Dduw, dwi ddim yn deall?!?
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Postiogan Cath Ddu » Sad 23 Gor 2005 10:03 am

Hedd Gwynfor a ddywedodd:
Bebb a ddywedodd:Doedd dim yn foesol yn ymateb PC ac eithrio y bobl hynny oedd yn wir heddychwyr (lleiafrif bychan iawn)


Barn neu ffaith?


Ffaith o ystyried y nifer bychan ddefnyddiodd heddychiaeth fel rheswm dros beidio gwasanaethu. Nid heddychiaeth oedd yn llywio ymateb SL neu JE Daniel i'r rhyfel ond yn hytrach y ddadl (anghywir) nad rhyfel Cymru oedd hwn ond rhyfel Lloegr. Rhyfedd fyddai i un sy'n credu gymaint yn y frawdoliaeth ryngwladol (fel ti) amddiffyn agweddau mor gul.

Hedd a ddywedodd:Mae defnyddio trais i orfodi newid yn mynd yn erbyn Cristnogaeth yn fy marn i. Dwi byth yn mynd i'r capel, nac yn honni mod i'n Gristion gwell na unrhyw un arall, ond dwi wir ddim yn gallu gweld sut y gall UNRHYW Gristion gyfiawnhau defnyddio trais. Trais yw gwraidd holl broblemau'r byd. Sut gall y defnydd o drais ddatrys y broblem felly? Wir Dduw, dwi ddim yn deall?!?


Yn dy farn di. Fe fyddwn yn amddiffyn dy hawl i dy farn Hedd, ond tydi hynny ddim yn dweud fod dy farn yn gywir.
Cath Ddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1963
Ymunwyd: Iau 22 Gor 2004 2:23 pm

Postiogan Hen Rech Flin » Sul 24 Gor 2005 5:12 am

bibopalwla a ddywedodd: Beth am Dr Martyn Lloyd-Jones? Fe ddarllenodd e dipyn mwy o'r beibl na ti Hedd, a fe feddyliodd e dipyn mwy amdano fe, faswn i'n tybio, a dodd e ddim yn ddyn twp (nid dweud ydw i dy fod ti! :winc: ). Darllen ei lyfr Why does God allow war?.


Mae darllen cyfraniad gan rywun mor bydredig â thi, Bibop, yn dyfynnu fy hen gyfaill annwyl Dr Martyn Lloyd Jones yn erbyn rhywun sydd yn agosach at farn Martyn na fyddi di byth yn codi cyfog arnaf.

Rwy'n cofio cyfarfod Martyn am y tro cyntaf, pan oedd yr Olaf o Bregethwyr Mawr Cymru yn gwrando ar bregeth gennyf innau yn Llanymawddwy pan nad oeddwn ond 16 oed. Mi gefais fy llongyfarch ar uniongrededd fy mhregeth ganddo, ond meddai wrthyf, mae di fudd yw condemnio gweithredoedd pechadurus unigolyn cyn profi iddo ei fod yn bechadur mewn angen achubiaeth.

Dy ddrwg di, mewn pob dadl, yw dy fod yn lladd ar dy wrthwynebwyr yn hytrach na cheisio profi iddynt fod sylfaen eu credo yn sigledig.

Mae cyngor Martyn mor wir mewn gwleidyddiaeth ag ydi mewn crefydd. Gwell o lawer yw profi i'r Sosialwyr eu bod yn "bechaduriaid" yn y lle cyntaf cyn ymosod ar eu "pechodau".
Rhithffurf defnyddiwr
Hen Rech Flin
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1437
Ymunwyd: Gwe 29 Ebr 2005 2:52 am
Lleoliad: Dyffryn Conwy

Postiogan Mr Gasyth » Llun 25 Gor 2005 12:27 pm

Hedd Gwynfor a ddywedodd:Mae defnyddio trais i orfodi newid yn mynd yn erbyn Cristnogaeth yn fy marn i. Dwi byth yn mynd i'r capel, nac yn honni mod i'n Gristion gwell na unrhyw un arall, ond dwi wir ddim yn gallu gweld sut y gall UNRHYW Gristion gyfiawnhau defnyddio trais. Trais yw gwraidd holl broblemau'r byd. Sut gall y defnydd o drais ddatrys y broblem felly? Wir Dduw, dwi ddim yn deall?!?


Blydi hel, heblaw am ddefnydd o drais gan Gristnogion ar hyd y canrifoedd o oes y Rhufeiniaid hyd heddiw, fyddai Cristnogaeth yn ddim mwy na cwlt bach byr-hoedlog ar lannau mor y canoldir tua 2000 o flynyddoedd yn ol na fyddai neb heddiw'n gwybod dim amdano :rolio:

Sut faset ti'n amddiffyn dy deulu heb ddefnyddio trais ta Hedd? Neu fuaset ti'n gadael iddyn nhw farw?
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Postiogan Panom Yeerum » Llun 25 Gor 2005 12:31 pm

Hedd Gwynfor a ddywedodd:Mae defnyddio trais i orfodi newid yn mynd yn erbyn Cristnogaeth yn fy marn i. Dwi byth yn mynd i'r capel, nac yn honni mod i'n Gristion gwell na unrhyw un arall, ond dwi wir ddim yn gallu gweld sut y gall UNRHYW Gristion gyfiawnhau defnyddio trais. Trais yw gwraidd holl broblemau'r byd. Sut gall y defnydd o drais ddatrys y broblem felly? Wir Dduw, dwi ddim yn deall?!?


Heb drais, maen debyg na fuasai cristnogaeth yn bodoli (cyfeirio at y croeshoeliad ydwi gyda llaw.)
Panom Yeerum
 

Postiogan ceribethlem » Iau 13 Hyd 2005 8:23 pm

Fi'n tueddu i gytuno gyda'r safbwynt nad yw trais yn gyfiawn, ac i fod yn gefnogol i'r syniad o heddychiaeth.
Pan fyddai'n dweud hyn, bob tro mae rhywun yn dod lan a Hitler a'r Ail Ryfel Byd (megis uchod wrth gwrs). Yn fy marn i nid oedd lladd miloedd o Almaenwyr (a llawer ohonynt yn ddiniwed) yn gyfiawn, ond roedd yr hyn a wnaeth Hitler dipyn yn llai cyfiawn ac felly (i ddefnyddio Idiom Saesneg) a lesser of two evils oedd mynd i ryfela a lladd.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Postiogan bibopalwla » Sad 29 Hyd 2005 3:53 pm

<i>[Nodyn gan nicdafis: dw i ddim am ddileu yr isod, ond yn hytrach i'w adael i atgoffa pobl pam wnes i gau'r adran wleidyddol. Mae cyfrif bibopalwla ar gau am wythnos.]</i>

Hen Rech Flin a ddywedodd:Mae darllen cyfraniad gan rywun mor bydredig
"There are few things more pleasing than to perform a good deed by stealth, which is discovered by accident"
bibopalwla
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 105
Ymunwyd: Gwe 24 Meh 2005 8:20 pm

Postiogan Hen Rech Flin » Sul 30 Hyd 2005 3:32 am

Diolch am dy ymateb Bibopalwla.

Mae'n amlwg bod fy sylwadau wedi dy frifo. Nid dyna oedd eu bwriad. Yr unig fwriad oedd cynnal trafodaeth.

Rwy'n ymddiheuro am achosi loes iti.
Rhithffurf defnyddiwr
Hen Rech Flin
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1437
Ymunwyd: Gwe 29 Ebr 2005 2:52 am
Lleoliad: Dyffryn Conwy

NôlNesaf

Dychwelyd i Rhyfel a Heddwch

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 8 gwestai

cron