Tudalen 5 o 9

PostioPostiwyd: Sul 30 Hyd 2005 10:08 am
gan Lowri Fflur
Dydi'r ddadl nad yw Cristnogaeth a thrais yn cydfynd ddim yn dal dwr o gwbl i mi. Yn ol Cristnogion taflodd Duw Efa allan o ardd Eden am fwyta'r afal, yna dilynodd Afa hi. Y cyntaf i bechu oedd Efa (am fwyta'r afal). Yr ail oedd Duw (am beidio maddau i Efa a gorfod dial). Y trydydd oedd Afa (am ddilyn Efa.) Ac yna tu allan i Ardd Eden doedd pethau ddim yn berffaith a datblygodd y "vicious cycle" o drais. Fy mhwynt yw bod bai ar Duw a'i fod o yn rhan o'r "vicious cycle" yma. Nid oes ganddo le o gwbl i farnu pobl am fod yn dreisgar. Mae o yn rhan o'r trais yma. Mae Cristnogaeth a thrais yn cydfynd yn hollol naturiol.

Efallai bod y Beibl gyda negeseuon fel "troi y foch arall" ond mae hi'n amhosib i bobl gyrraedd y nodau yma ac os mae yna dduw mae o'n gwybod hyn. Doedd o ei hun ddim yn gallu "troi y foch arall".

PostioPostiwyd: Sul 30 Hyd 2005 2:02 pm
gan dawncyfarwydd
y fam ddaear a ddywedodd:Yr ail oedd Duw (am beidio maddau i Efa a gorfod dial).
:lol: :lol:

Mae hynna yn cael gwobr 'Dehongliad Mwya Gwallgo o'r Beibl Tragwyddoldeb - Tragwyddoldeb'.

PostioPostiwyd: Sul 30 Hyd 2005 2:28 pm
gan gronw
dawncyfarwydd a ddywedodd:Mae hynna yn cael gwobr 'Dehongliad Mwya Gwallgo o'r Beibl Tragwyddoldeb - Tragwyddoldeb'.

beth am roi dy safbwynt yn lle trio gwneud hwyl ar ben rhywun arall?

PostioPostiwyd: Sul 30 Hyd 2005 3:00 pm
gan dawncyfarwydd
Sori. Yn fy marn i mae'n beth gwirion i geisio gwrthbrofi a thanseilio Duw drwy ddefnyddio hanes o'r Beibl. Sut mae posib i Dduw bechu yn ei erbyn ei hun? OS ti'n galw Duw yn bechadur, pechadur yn erbyn pwy ydi o?
Fe elli di ddadlau ei fod o yn anghyson, medri, ond dydi'r ddadl yna ddim yn dal dwr oherwydd na allai Duw adael i ddyn bechu fel gwnaeth Adda ac Efa. Mi wnaeth Adda ac Efa anwybyddu Duw a phechu, felly roedd yn rhaid i Dduw eu cosbi nhw. Dyna ydi cyfiawnder - nid gadael i ddyn wneud beth bynnag licith o - a pan ti'n styried y gosb gaethon nhw mae hi'n ddigon rhesymol, ti'm yn meddwl?

y fam ddaear a ddywedodd:Ac yna tu allan i Ardd Eden doedd pethau ddim yn berffaith a datblygodd y "vicious cycle" o drais. Fy mhwynt yw bod bai ar Duw a'i fod o yn rhan o'r "vicious cycle" yma.
Anghytuno. Bai dyn ydi trais - ei fod o yn camddefnyddio'r ewyllys rydd a gafodd o.
Yr wrth-ddadl i hynny fyddai 'pam mae Duw yn gadael i hynny ddigwydd ta?'. Yr ateb ydi ei fod o wedi rhoi'r cyfle i hynny stopio drwy farwolaeth Iesu; mae o'n rhoi'r cyfle i bawb fod yn gydradd.
Mae'r Beibl yn dangos hynny mewn dwy stori annibynnol o'i gilydd, sef twr babel a pan ydi'r dau ddisgybl yn siarad hefo'r dyrfa ar gychwyn yr eglwys fore. Yn nhwr Babel fe gosbodd Duw y bobl am ei amharchu o drwy greu anhrefn llwyr, a'i ddull o o wneud hyn oedd creu nifer o wahanol ieithoedd fel nad oedd gwahanol genhedoledd yn eu deall ei gilydd. Ar ddechrau'r eglwys fore roedd y disgyblion yn siarad

PostioPostiwyd: Sul 30 Hyd 2005 6:18 pm
gan Mr Gasyth
dawncyfarwydd a ddywedodd:Yn nhwr Babel fe gosbodd Duw y bobl am ei amharchu o drwy greu anhrefn llwyr, a'i ddull o o wneud hyn oedd creu nifer o wahanol ieithoedd fel nad oedd gwahanol genhedoledd yn eu deall ei gilydd.


dwyt ti ddim wir yn credu fod hon yn stori wir nagwyt?

PostioPostiwyd: Llun 31 Hyd 2005 9:31 am
gan Richard V Jones
Hen Rech Flin a ddywedodd:Mae cyngor Martyn mor wir mewn gwleidyddiaeth ag ydi mewn crefydd. Gwell o lawer yw profi i'r Sosialwyr eu bod yn "bechaduriaid" yn y lle cyntaf cyn ymosod ar eu "pechodau".

Mewn gwleidyddiaeth byddai hyn yn golygi trafod ideoleg yn hytrach na minutiae. Does gan bobl ddim diddordeb yn hyn. A ma'r un peth yn wir am grefydd. Dwed wrthyn nhw bod ti'n credu mewn bwydo'r tlawd, gret. Dwed wrthyn nhw eu bod yn bechadurion a fe ewn nhw'n grac a colli diddordeb.

Gyda llaw, mae gan Bibopalwla bwynt. Ti yn swnio'n nawddoglyd!

PostioPostiwyd: Maw 01 Tach 2005 3:26 am
gan Hen Rech Flin
Croeso i'r ffau llewod, Richard.
Richard V Jones a ddywedodd:Gyda llaw, mae gan Bibopalwla bwynt. Ti yn swnio'n nawddoglyd!

Nid ydwyf yn swnio'n nawddoglyd. Yr wyf yn nawddoglyd. Rwyf yn Hen Rech Flin. Mae bod yn nawddoglyd yn rhan hanfodol o swydd ddisgrifiad pob Hen Rech Flin gwerth ei halen.

PostioPostiwyd: Maw 01 Tach 2005 4:02 am
gan Hen Rech Flin
GLlO a ddywedodd:Wylit, wylit Lywelyn
Wylit waed pe welet hyn.


Nonsens llwyr o ran pob prawf hanesyddol yw cyfarch dyn ym 1969 a fu farw ym 1282.

Prin iawn yw'r afiechydon sy' achosi dagrau gwaed, a does dim tystiolaeth bod Llywelyn yn dioddef o unrhyw un ohonynt.

Mae geiriau GLlO yn methu prawf hanes a phrawf gwyddoniaeth.

Ond eto yr wyf, er gwaethaf pob prawf gwyddonol ac hanesyddol yn eu herbyn, yn eu credu ac yn eu derbyn fel gwirionedd.

Prawf fy mod yn dwp ac afresymol mae'n debyg!

PostioPostiwyd: Maw 01 Tach 2005 9:26 am
gan Richard V Jones
Hen Rech Flin a ddywedodd:
GLlO a ddywedodd:Wylit, wylit Lywelyn
Wylit waed pe welet hyn.

Er gwybodaeth, 'wylit waed pe gwelit hyn' fi'n credu sy'n gywir.
Hen Rech Flin a ddywedodd:Prin iawn yw'r afiechydon sy' achosi dagrau gwaed, a does dim tystiolaeth bod Llywelyn yn dioddef o unrhyw un ohonynt.
Darllen eto HRF. Wylit, Wylit mae'n ddweud, ac nid Wylaist, Wylaist. 'Dyw GLlO ddim yn dweud ei fod e wedi wylo gwaed, dweud y basai petai yn gweld yr hyn oedd yn digwydd. Does dim tystiolaeth felly nac oes, wrth reswm, am nad yw wedi digwydd.

Hen Rech Flin a ddywedodd:Mae geiriau GLlO yn methu prawf hanes a phrawf gwyddoniaeth.
Am y rhesymau uchod, nac ydynt.

Hen Rech Flin a ddywedodd:Ond eto yr wyf, er gwaethaf pob prawf gwyddonol ac hanesyddol yn eu herbyn, yn eu credu ac yn eu derbyn fel gwirionedd.
Twp, ac afresymol.

Hen Rech Flin a ddywedodd:Prawf fy mod yn dwp ac afresymol mae'n debyg!

O. Ni'n gytun felly.

PostioPostiwyd: Maw 01 Tach 2005 9:28 am
gan Richard V Jones
Hen Rech Flin a ddywedodd:
Richard V Jones a ddywedodd:Gyda llaw, mae gan Bibopalwla bwynt. Ti yn swnio'n nawddoglyd!

Nid ydwyf yn swnio'n nawddoglyd. Yr wyf yn nawddoglyd.

Hyd y gwela' i, roedd ei ymateb felly yn un cwbl ddealladwy. Cywilydd arno ti HRF.