Tudalen 6 o 9

PostioPostiwyd: Maw 01 Tach 2005 1:39 pm
gan Hen Rech Flin
Richard V Jones a ddywedodd:
Hen Rech Flin a ddywedodd:Mae geiriau GLlO yn methu prawf hanes a phrawf gwyddoniaeth.
Am y rhesymau uchod, nac ydynt.

Diolch am dy ymateb Richard. Yn dy awydd i ymosod ar y person yn hytrach na'r ddadl, yr wyt wedi profi fy mhwynt yn llwyr.

Yr hyn yr oeddwn yn dweud yw bod yna gwirionedd barddonol ac ysbrydol sydd ddim o anghenraid yn wirionedd hanesyddol nac yn wirionedd gwyddonol. Mae ceisio gwrthwynebu'r fath osodiad trwy geisio profi bod darn o fydryddiaeth yn hanesyddol a gwyddonol gywir yn ymylu ar fod yn ddoniol.

Nid ceisio adrodd hanes cronolegol, megis Hanes Cymru John Bwlchllan, yw bwriad y Beibl ond son am berthynas Duw a dyn. Y gwirionedd pwysig yn hanes Twr Babel (boed yn gronolegol gywir neu beidio) yw'r hyn mae'n dweud am y berthynas honno.

Pe bai modd profi yn ddiamheuaeth nas adeiladwyd twr ym Mabel erioed bydda wirionedd ysbrydol yr hanesyn yn sefyll o hyd. Pe bai modd profi yn ddiamheuaeth bod twr wedi ei adeiladu ym Mabel bydda hynny'n ategu dim i'r bywyd ysbrydol.

Dibwynt felly yw dadlau am wirionedd "hanesyddol" neu "gwyddonol" hanesion y Beibl megis hanes twr Babel. Mor ddibwynt a dadlau am wirionedd "hanesyddol" neu "wyddonol" darn o gerdd dafod.

PostioPostiwyd: Maw 01 Tach 2005 1:43 pm
gan Mr Gasyth
Ond Hen Rech, od nad yw unrhwy ran o'r Beibl yn wir, yn hanesyddol a gwyddonol wir, yna beth ydi o dda? Os na ddigwyddodd y croeshoeliad a'r atgyfodiad, yn hanesyddol ac yn wyddonol yna does dim pwrpas i Gristnogaeth!

PostioPostiwyd: Maw 01 Tach 2005 2:05 pm
gan Hen Rech Flin
Mr Gasyth a ddywedodd:Ond Hen Rech, od nad yw unrhwy ran o'r Beibl yn wir, yn hanesyddol a gwyddonol wir, yna beth ydi o dda? Os na ddigwyddodd y croeshoeliad a'r atgyfodiad, yn hanesyddol ac yn wyddonol yna does dim pwrpas i Gristnogaeth!


Rwyt yn gam ddehongli'r hyn a ddywedais. Nid wyf yn honni nad yw unrhyw ran o'r Beibl yn wir yn hanesyddol a gwyddonol. Dweud wyf nad er mwyn adrodd hanes a gwyddoniaeth mae'r Beibl yn dda ond er mwyn egluro perthynas Duw a dyn.

Fel yr wyf wedi dweud mewn ymateb tebyg iti ar edefyn arall, mae hyn yn wir hefyd am hanes y croeshoeliad a'r atgyfodiad. Yn bersonol rwy'n digwydd credu bod yr hanesion yma yn gronolegol cywir. Ond pe bawn yn eu credu fel ffeithiau hanesyddol yn unig, dim ond ffeithiau diddorol byddant. Llawer pwysicach na chronoleg y croeshoeliad a'r atgyfodiad yw be maent yn dweud wrthym am gariad Duw a moddion iachawdwriaeth.

PostioPostiwyd: Maw 01 Tach 2005 3:00 pm
gan Richard V Jones
Hen Rech Flin a ddywedodd:
Richard V Jones a ddywedodd:
Hen Rech Flin a ddywedodd:Mae geiriau GLlO yn methu prawf hanes a phrawf gwyddoniaeth.
Am y rhesymau uchod, nac ydynt.

Diolch am dy ymateb Richard. Yn dy awydd i ymosod ar y person yn hytrach na'r ddadl, yr wyt wedi profi fy mhwynt yn llwyr.

Ti'n hollol obsesd! Ble yn union fi'n ymosod ar y person yn yr edefyn hwn?

Hen Rech Flin a ddywedodd:Yr hyn yr oeddwn yn dweud yw bod yna gwirionedd barddonol ac ysbrydol sydd ddim o anghenraid yn wirionedd hanesyddol nac yn wirionedd gwyddonol. Mae ceisio gwrthwynebu'r fath osodiad trwy geisio profi bod darn o fydryddiaeth yn hanesyddol a gwyddonol gywir yn ymylu ar fod yn ddoniol.

Mae hwn yn lol botes. Allwch chi ddim cymharu 'gwirionedd barddonol' gyda 'gwirionedd ysbrydol'. Ma'r naill yn farddoniaeth yn tarddu o farn a dychymyg dyn, a'r llall yn tarddu o ffynhonnell sy'n honni'r hawl i ddweud wrth pobl sut mae byw, ac wrth Dduw. Fel dywed Mr Gasyth, beth yw pwynt y Beibl os taw rhyw gymariaethau a chyffelybiaethau a storis bach i gyfleu pwynt yw'r cyfan heb unrhyw berthynas a ffaith? Dyma'r math o resymeg ddiwinyddol sylfaen-tywod sy'n golygu fod crefydd yn colli parch yn ogystal a dilynwyr. Well gen i o beth wmbreth y ddadl mai ffaith yw'r Beibl, a'r ymdrech wedyn i fynd ati i brofi hynny yn wyddonol a hanesyddol yn hytrach na trial neud rhyw esgusodion tila o'r math hyn.

Hen Rech Flin a ddywedodd:Pe bai modd profi yn ddiamheuaeth nas adeiladwyd twr ym Mabel erioed bydda wirionedd ysbrydol yr hanesyn yn sefyll o hyd.
'ysbrydol' neu 'farddonol' ti'n feddwl? Ti'n cymysgu rhwng y ddau faswn i'n ddweud.

Hen Rech Flin a ddywedodd:Dibwynt felly yw dadlau am wirionedd "hanesyddol" neu "gwyddonol" hanesion y Beibl megis hanes twr Babel. Mor ddibwynt a dadlau am wirionedd "hanesyddol" neu "wyddonol" darn o gerdd dafod.
Pam dibwynt? Ma' 'na lu o wyddonwyr yn y byd yn argyhoeddiedig o ddilysdra gwyddonol y Beibl, o'r cychwyn, i lifogydd Noa a llu o enghreifftiau eraill. Mae sylfaen wyddonol gadarn i'r Beibl, a dy ddadleuon di sy'n neud i grefyddwyr edrych fel pobol poti hollol sydd wedi eu twyllo gan eiriau barddonol/ysbrydol (dileir fel bo'r angen) y Beibl.

PostioPostiwyd: Maw 01 Tach 2005 3:29 pm
gan Iesu Nicky Grist
Hen Rech Flin a ddywedodd:Yn dy awydd i ymosod ar y person yn hytrach na'r ddadl, yr wyt wedi profi fy mhwynt yn llwyr.


Hen Rech Flin a ddywedodd:Mae darllen cyfraniad gan rywun mor bydredig

PostioPostiwyd: Maw 01 Tach 2005 3:33 pm
gan Hen Rech Flin
Ymateb rhyfedd ar y naw Mr Jones. Dyma'r tro cyntaf imi glywed unrhyw un yn ceisio dweud nad oes neges ysbrydol mewn barddoniaeth ac nad oes barddoniaeth yn y Beibl.

Ac os nad wyt yn credu mai neges ysbrydol am berthynas Duw a dyn yw brif bwrpas y Beibl, pam poeni gymaint am ei eirwiredd "wyddonol" "hanesyddol".

Os na ellir deall mae dweud wrth ddyn am Dduw, nid dweud wrth ddyn am bensaern

PostioPostiwyd: Maw 01 Tach 2005 4:03 pm
gan Hen Rech Flin
Iesu Nicky Grist a ddywedodd:
Hen Rech Flin a ddywedodd:Mae darllen cyfraniad gan rywun mor bydredig

PostioPostiwyd: Maw 01 Tach 2005 4:17 pm
gan Richard V Jones
Hen Rech Flin a ddywedodd:Ymateb rhyfedd ar y naw Mr Jones. Dyma'r tro cyntaf imi glywed unrhyw un yn ceisio dweud nad oes neges ysbrydol mewn barddoniaeth ac nad oes barddoniaeth yn y Beibl.

Yn ble fi'n dweud hyn?

Hen Rech Flin a ddywedodd:Ac os nad wyt yn credu mai neges ysbrydol am berthynas Duw a dyn yw brif bwrpas y Beibl, pam poeni gymaint am ei eirwiredd "wyddonol" "hanesyddol".

Mae 'credibility' gwyddonol a hanesyddol Cristnogaeth yn hanfodol yn y byd gwyddonol sydd ohoni, os am ennill y ddadl. Gwyddoniaeth sy'n cael ei ddefnyddio yn erbyn y Beibl drwy'r amser, a wnei di ddim ennill y ddadl drwy droi rownd a gweud 'a, ie, ond 'dyw'r wyddoniaeth ddim yn bwysig'. Mae pobol yn ei weld yn bwysig, felly beth yw'r dystiolaeth?

Hen Rech Flin a ddywedodd:Os na ellir deall mae dweud wrth ddyn am Dduw, nid dweud wrth ddyn am bensaern

PostioPostiwyd: Maw 01 Tach 2005 4:19 pm
gan Richard V Jones
Hen Rech Flin a ddywedodd:Mae rhai o'r sylwadau mae Bibopalwla wedi eu gwneud yn yr adran wleidyddol mor hynod asgell dde ag i wneud i Hitler gwrido. Ar bron pob achlysur pan fu wrthwynebiad i'w sylwadau, yn arbennig gan bobl eraill o'r asgell de mi fydd yn ymateb trwy fod yn bersonol sarhaus.

Ac ar ben y cyfan oll, ymosod ar ddyn/fenyw nad yw yn gallu ei h/amddiffyn ei hun. Anrhydeddus yn wir HRF.

Hen Rech Flin a ddywedodd:Dyna pam fy mod yn credu ei fod yn bydredig, dyna pam mae ei safbwynt yn codi cyfog arnaf.

Ymateb personol sarhaus? Y brycheyn a'r trawst HRF?

PostioPostiwyd: Mer 02 Tach 2005 12:47 pm
gan nicdafis
[Mae <a href="http://maes-e.com/profile.php?mode=viewprofile&u=2573">Richard V Jones</a>, sef <a href="http://maes-e.com/profile.php?mode=viewprofile&u=2209">bibopalwla</a> wrth gwrs, wedi'i wahardd am byth, am anwybyddu canllawiau maes-e. <a href="http://maes-e.com/viewtopic.php?t=15477">Trafodaeth ar hyn.</a>]