Richard V Jones a ddywedodd:Am y rhesymau uchod, nac ydynt.Hen Rech Flin a ddywedodd:Mae geiriau GLlO yn methu prawf hanes a phrawf gwyddoniaeth.
Diolch am dy ymateb Richard. Yn dy awydd i ymosod ar y person yn hytrach na'r ddadl, yr wyt wedi profi fy mhwynt yn llwyr.
Yr hyn yr oeddwn yn dweud yw bod yna gwirionedd barddonol ac ysbrydol sydd ddim o anghenraid yn wirionedd hanesyddol nac yn wirionedd gwyddonol. Mae ceisio gwrthwynebu'r fath osodiad trwy geisio profi bod darn o fydryddiaeth yn hanesyddol a gwyddonol gywir yn ymylu ar fod yn ddoniol.
Nid ceisio adrodd hanes cronolegol, megis Hanes Cymru John Bwlchllan, yw bwriad y Beibl ond son am berthynas Duw a dyn. Y gwirionedd pwysig yn hanes Twr Babel (boed yn gronolegol gywir neu beidio) yw'r hyn mae'n dweud am y berthynas honno.
Pe bai modd profi yn ddiamheuaeth nas adeiladwyd twr ym Mabel erioed bydda wirionedd ysbrydol yr hanesyn yn sefyll o hyd. Pe bai modd profi yn ddiamheuaeth bod twr wedi ei adeiladu ym Mabel bydda hynny'n ategu dim i'r bywyd ysbrydol.
Dibwynt felly yw dadlau am wirionedd "hanesyddol" neu "gwyddonol" hanesion y Beibl megis hanes twr Babel. Mor ddibwynt a dadlau am wirionedd "hanesyddol" neu "wyddonol" darn o gerdd dafod.