Re: Trais yn gyfiawn?
Postiwyd: Gwe 05 Medi 2008 1:52 pm
Mae o wir yn gwneud i fi chwerthyn wrth darllen rhai o'r atebion yma. Fydd cristion byth yn defnyddio trais a dydi trais byth yn gyfiawn a.y.y.b. Rydw i yn credu fod trais yn anghywir ond dwi'n gwybod fod yn rhai sefyllfaoedd maen rhaid cyflawni trais er mwyn amddifyn dy hyn ar pobol o gwmpas ti. Natur bodau dynol yw i anghytuno ac i brwydro yn erbyn ei gilydd. Cristion, mwslim, sikha, budda neu Jedi, dwin gwybod fod os oeddwn i yn herio rhywun digon yn y diwedd fe fydda nhw yn snapio. Maer byd yn lle galed a creulon os ydan ni yn eistedd ar ein pen-ôl yn dal blodau a pregethi heddwch fe fydda pob math o pobol yn cymryd fantais