Tudalen 9 o 9

Re: Trais yn gyfiawn?

PostioPostiwyd: Gwe 05 Medi 2008 1:52 pm
gan crazycymro
Mae o wir yn gwneud i fi chwerthyn wrth darllen rhai o'r atebion yma. Fydd cristion byth yn defnyddio trais a dydi trais byth yn gyfiawn a.y.y.b. Rydw i yn credu fod trais yn anghywir ond dwi'n gwybod fod yn rhai sefyllfaoedd maen rhaid cyflawni trais er mwyn amddifyn dy hyn ar pobol o gwmpas ti. Natur bodau dynol yw i anghytuno ac i brwydro yn erbyn ei gilydd. Cristion, mwslim, sikha, budda neu Jedi, dwin gwybod fod os oeddwn i yn herio rhywun digon yn y diwedd fe fydda nhw yn snapio. Maer byd yn lle galed a creulon os ydan ni yn eistedd ar ein pen-ôl yn dal blodau a pregethi heddwch fe fydda pob math o pobol yn cymryd fantais

Re: Trais yn gyfiawn?

PostioPostiwyd: Mer 17 Rhag 2008 3:10 pm
gan Cardi Bach
crazycymro a ddywedodd:Maer byd yn lle galed a creulon os ydan ni yn eistedd ar ein pen-ôl yn dal blodau a pregethi heddwch fe fydda pob math o pobol yn cymryd fantais


Chwarae teg i Crazycymro am ddatgan yn glir yma pendraw y ddadl wrth basiffistaidd, sef 'get your retaliation in first'. Mae'n dilyn felly mai 'might is right' oblegid y mwyaf a'r cyfoethocaf geith y goruchafiaeth mewn byd anifeiaidd o'r fath.

Yn dyw hi'n feirniadaeth wael o'n gwareiddiad ni, ac yn drist, ein bod ni'n gweld pawb a phopeth yn ddrwg; fod pawb allan i gymryd mantais a gwneud drygioni? Rwy'n credu fod y feddylfryd honno yn fwy o adlewyrchiad ohonom ni nag ydyw o wir sefyllfa dynoliaeth.

Mae'r byd am fyd yn galetach a mwy creulon os na wnawn ni rywbeth am y peth.

Re: Trais yn gyfiawn?

PostioPostiwyd: Mer 17 Rhag 2008 7:26 pm
gan Blewyn
Cardi Bach a ddywedodd:Yn dyw hi'n feirniadaeth wael o'n gwareiddiad ni, ac yn drist, ein bod ni'n gweld pawb a phopeth yn ddrwg; fod pawb allan i gymryd mantais a gwneud drygioni? Rwy'n credu fod y feddylfryd honno yn fwy o adlewyrchiad ohonom ni nag ydyw o wir sefyllfa dynoliaeth.

Synfyfyrio gorobeithol gyfaill........