Torri 'Resolutions' y CU

Newyddion, protestiadau, trafod

Cymedrolwr: Cwlcymro

Rheolau’r seiat
Newyddion, protestiadau, trafod. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Torri 'Resolutions' y CU

Postiogan Cwlcymro » Sad 28 Meh 2003 7:55 pm

Dau reswm oedd yna dros fynd i ryfel a Iraq, yr hen WMD a'r ffaith i Iraq dorri resolutions (be di'r gair Cymraeg am hwnna?) y Cenhedloedd Unedig. Rwan fod y chwilio am unrhyw WMD yn ffynu, be nawn ni a'r ddadl arall? Oedd hi'n deg ymosod achos fod Iraq yn gwrthod cyfatebu a Resolution 1881?

Pa wlad sy di torri y mwya o 'resolutions' y CU?
Pa wlad sydd wedi bod 'in breach' am fwya o amser?

Iraq? Na
Gogledd Korea? Na
Zimbabwe? Dim yn agos
Yr atab ydi Israel. Rwan dwi'm yn un o'r bobl sy'n rhoi bai problemau'r Dwyrain Canol i gyd ar ysgwyddau Iarael, ma Palestine ar ei bai hefyd, ond ma'r agwedd Americanaidd tuag at hyn yn gymaint o ddychryn ag ydio o sioc.

Tra roedd Bush a Blair yn lambastio'r Ffrancwyr am fygwth defnyddio ei veto mi anghofion nhw ddweud wrthym ni pwy sydd wedi defnyddio'r veto yn y gorffenol.

Ers 1966 mae
Cheina wedi defnyddio 4
Ffrainc wedi defnyddio 14
Rwsia wedi defnyddio 15
Prydain wedi defnyddio 29
America wedi defnyddio 76!!

A ma gan America a Prydain y chiic i ddweud fod Ffrainc ar fai am fygwth defnyddio eu hun nhw, er fod ganddynt gefnogaeth yr Almaen, Rwsia a naw gwlad arall o'r Cyngor Diogelwch (pawb ond America, Prydain a Bwlgaria).

A pryd gofynwch chi ma America wedi defnyddio'r holl vetos ma? Yr ateb yn syml, yn amlach na dim, ydy i roi stop ar unrhywun syn trio beirniadu Israel. ER HYN ma Israel DAL wedi torri mwy na unrhyw wlad arall.

Ar y funud ma na wal anferthol yn cael ei hadeiladu yn syth drwy dir Palestain, wal sy'n atgof cry o'r hen wal Ferlin. Ma pentrefi yn cal ei torri ffwr o'i tir amaeth, a unrhyw symudiad rhwng ddwy ochr y wal yn agos i amhosib.

Os oes unrhyw Balestain yn terfysgu yn erbyn Israel mi geith ei gosbi, annodd dadlau a hynny, ond yn ogystal a hyn mi geith ei deulu ei gosbi, a'i bentref ei ddymchwel. Y gair am hyn yw 'Collective punishment', rhywbeth sydd wedi ei wahardd gan y Geneva Convention.

Ychydig fisoedd yn ol mi gafodd merch o America ei lladd pan sefyllodd hi o flaen bulldozer. Mi wnaeth y gyrrwr refyrsho a mynd drosdi eto i neud yn siwr. Mi dynnodd ei ffrindia hi lyniau o hyn yn digwydd. Ma Israel yn mynnu ma set yp oddi, a fod y ferch wedi neidio dan y bulldozer ar lluniau wedi ei gwneud wedyn gyda cyfrifiadur.

Ychydig fisoedd ynol hefyd bu farw gohebydd o Brydain, cafodd ei saethu yn ei gefn gan filwr Israel. Ma'r bai yn cael ei roi ar derfysgwyr Palestine, er fod digonedd o dystion yn dweud yn wahanol.

Beth mae llywodraeth America yn ei wneud am hyn? Ei cosbi? Mynnu sanctions? Mynd yno i 'ryddhau'r bobl'? Ta rhoi $3bn y flwyddyn iddy nhw a'i dysgu sut i wneud bomiau niwclear? Geshwch!
Wales? Whales? Do you mean 'da fish, or them singing bastards?
Cwlcymro
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2874
Ymunwyd: Sul 15 Meh 2003 1:12 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Macsen » Iau 14 Awst 2003 6:51 pm

Mae yna gymaint o bwlshit rownd America ac Israel mae angen adenydd i gadw uwch ei ben o. Dyw America ddim yn chware wrth ei rheolau ei hun.

Dwi ddim yn meddwl y cafodd y llyniau yna o'r protestwr eu doctori. Tebygol mae gwneud ryw suffragette impression wnaeth hi gan ddisgwyl i'r bulldozer stopia wrth weld sglein gwyn americanaidd ei chroen hi. Ond does dim dadlau bod Israel wedi gwneud mwy i haeddu cosb nag Iraq a'r rheini. Ond mae Israel ar ochor America, ac yn beryd, medda nhw, i droi drosodd unrhyw deroristiaid sy'n dod i mewn i'w gafael nhw. Mae o werth $3bn i America cael gwlad ar yr 'inside'. Dwi'n meddwl bod unrhyw ffrindiau'n werthfawr i America ar y funud.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan Cwlcymro » Iau 14 Awst 2003 7:29 pm

Meddyliwch am deulu o Balestine. Ma'i ty nhw o fewn dau gan medr i'r wal newydd ma, y "security fence".

-Os oes ffrind, neu hyd yn oed EI MERCH eisiau dod i'w gweld, man rhaid cal pas gan fyddin Israel gynta.
-Dosna NEB yn cal mynd mewn na allan o'r ty ar ol iddi dywyllu
-Geith y teulu ddim cadw car gan fod cerbyda wedi ei gwahardd o fewn 200 medr i'r wal.
-Ma ysgol y plant lleia, 500 medr i ffwrdd yn drec o DDEG MILLTIR gan bod eisiau mynd at y check point yn y giat ac yn ol!
-O ia, a mai tir ffarmio nhw, ei bywoliaeth nhw, ochr arall i'r ffens, felly gawn nhw moi ffermio!!

Mi gafodd bachgen bach ei saethu yn farw deufis yn ol am chwara pel droed rhy agos i'r ffens. Yn ol Israel mi odd y casgliad o ugian o fechgyn yn "riot"

Mi gafodd bachgen arall ei saethu yn farw am roi banner Palestine i fynnu ar y ffens mewn protest heddychlon (sy rwan yn draddodiad ar ol pob angladd 'merthyr'). Yn ol Israel mi oedd o'n 'ymosod' ar y ffens a doedde nhw methu gweld ma bachgen 8 oed oddo.

Mi gafodd merch fach ei saethu yn farw ar ffordd ir siop, er i'r fyddin ddenaiop unrhyw gyfrifoldeb i ddechrau ma swyddog di-enw wedi cyfadde 'ella' ma cangymeriad rhyw filwr 'trigger happy' oeddo.

Dachi'n gwbo, weithia, dim ond weithia, dwi'n falch ma'r Saeson sy'n yng gothrymu ni!
Wales? Whales? Do you mean 'da fish, or them singing bastards?
Cwlcymro
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2874
Ymunwyd: Sul 15 Meh 2003 1:12 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Dylan » Gwe 15 Awst 2003 5:10 pm

Yn ddiddorol iawn tydi'r CU ddim hyd yn oed yn cydnabod Jerusalem fel prifddinas Israel hyd heddiw. Pan ffurfiwyd y wlad nol yn 1948, un o'r amodau oedd bod "y ddinas sanctaidd" yn aros yn hollol niwtral. Parodd hynny ddim yn hir iawn.

Llyfr da am bwnc tebyg (wedi'i seilio fwy at agwedd America tuag at Nicaragua ond yn son am lot o enghreifftiau eraill hefyd, yn cynnwys y Dwyrain Canol) ydi "Deterring Democracy" gan Noam Chomsky. Mae o gen i felly croeso i ti'i fenthyg o os lici di. Teg fuasai dweud mai perthyn i adain chwith y spectrwm wleidyddol mae'r awdur, ond mae'n agoriad llygad os unrhywbeth. Digon o ffynonellau yn cael eu crybwyll felly mae modd ymchwilio ymhellach i mewn i'r cyhuddiadau a wneir.
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Dylan » Gwe 15 Awst 2003 5:18 pm

Cwlcymro a ddywedodd:Dachi'n gwbo, weithia, dim ond weithia, dwi'n falch ma'r Saeson sy'n yng gothrymu ni!


Er bod gwledydd cyfoethog gorllewin Ewrop yn tueddi i edrych nol ar eu gorffenol imperialaeth efo mymryn o gywilydd, bosib iawn bod America ddim hyd yn oed wedi cyrraedd brig eu himperialaeth hwythau eto gan eu bod yn wlad weddol ifanc. Wedi dweud hynny, 'dw i'n amau buasai unrhyw wlad arall yn ymddwyn mewn ffordd debyg petaent hwythau yn esgidiau'r Amerig. Er bod Ewrop yn lot mwy liberal erbyn hyn (a diolch byth am hynny), mae 'na ddiawl o lot o ffordd i fynd eto. 'Dw i'n amheus iawn o resymau Ffrainc am wrthwynebu'r rhyfel ddiweddar yn Irac, er enghraifft, er 'mod i wedi cytuno a nhw ac yn falch iawn eu bod wedi gwneud hynny.
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Macsen » Sad 16 Awst 2003 10:39 pm

Y gwahaniaeth rhwng imperialaeth Ewrop a'r Amerig ydi nad oedd Ewrop yn kiddio'i hunen fod gweddill y byd yn hoff o'r sefyllfa.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan Dylan » Sul 17 Awst 2003 1:31 pm

heh, bosib iawn. :)
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon


Dychwelyd i Rhyfel a Heddwch

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 4 gwestai