Dau reswm oedd yna dros fynd i ryfel a Iraq, yr hen WMD a'r ffaith i Iraq dorri resolutions (be di'r gair Cymraeg am hwnna?) y Cenhedloedd Unedig. Rwan fod y chwilio am unrhyw WMD yn ffynu, be nawn ni a'r ddadl arall? Oedd hi'n deg ymosod achos fod Iraq yn gwrthod cyfatebu a Resolution 1881?
Pa wlad sy di torri y mwya o 'resolutions' y CU?
Pa wlad sydd wedi bod 'in breach' am fwya o amser?
Iraq? Na
Gogledd Korea? Na
Zimbabwe? Dim yn agos
Yr atab ydi Israel. Rwan dwi'm yn un o'r bobl sy'n rhoi bai problemau'r Dwyrain Canol i gyd ar ysgwyddau Iarael, ma Palestine ar ei bai hefyd, ond ma'r agwedd Americanaidd tuag at hyn yn gymaint o ddychryn ag ydio o sioc.
Tra roedd Bush a Blair yn lambastio'r Ffrancwyr am fygwth defnyddio ei veto mi anghofion nhw ddweud wrthym ni pwy sydd wedi defnyddio'r veto yn y gorffenol.
Ers 1966 mae
Cheina wedi defnyddio 4
Ffrainc wedi defnyddio 14
Rwsia wedi defnyddio 15
Prydain wedi defnyddio 29
America wedi defnyddio 76!!
A ma gan America a Prydain y chiic i ddweud fod Ffrainc ar fai am fygwth defnyddio eu hun nhw, er fod ganddynt gefnogaeth yr Almaen, Rwsia a naw gwlad arall o'r Cyngor Diogelwch (pawb ond America, Prydain a Bwlgaria).
A pryd gofynwch chi ma America wedi defnyddio'r holl vetos ma? Yr ateb yn syml, yn amlach na dim, ydy i roi stop ar unrhywun syn trio beirniadu Israel. ER HYN ma Israel DAL wedi torri mwy na unrhyw wlad arall.
Ar y funud ma na wal anferthol yn cael ei hadeiladu yn syth drwy dir Palestain, wal sy'n atgof cry o'r hen wal Ferlin. Ma pentrefi yn cal ei torri ffwr o'i tir amaeth, a unrhyw symudiad rhwng ddwy ochr y wal yn agos i amhosib.
Os oes unrhyw Balestain yn terfysgu yn erbyn Israel mi geith ei gosbi, annodd dadlau a hynny, ond yn ogystal a hyn mi geith ei deulu ei gosbi, a'i bentref ei ddymchwel. Y gair am hyn yw 'Collective punishment', rhywbeth sydd wedi ei wahardd gan y Geneva Convention.
Ychydig fisoedd yn ol mi gafodd merch o America ei lladd pan sefyllodd hi o flaen bulldozer. Mi wnaeth y gyrrwr refyrsho a mynd drosdi eto i neud yn siwr. Mi dynnodd ei ffrindia hi lyniau o hyn yn digwydd. Ma Israel yn mynnu ma set yp oddi, a fod y ferch wedi neidio dan y bulldozer ar lluniau wedi ei gwneud wedyn gyda cyfrifiadur.
Ychydig fisoedd ynol hefyd bu farw gohebydd o Brydain, cafodd ei saethu yn ei gefn gan filwr Israel. Ma'r bai yn cael ei roi ar derfysgwyr Palestine, er fod digonedd o dystion yn dweud yn wahanol.
Beth mae llywodraeth America yn ei wneud am hyn? Ei cosbi? Mynnu sanctions? Mynd yno i 'ryddhau'r bobl'? Ta rhoi $3bn y flwyddyn iddy nhw a'i dysgu sut i wneud bomiau niwclear? Geshwch!