26 o blant yn marw yn Baghdad

Newyddion, protestiadau, trafod

Cymedrolwr: Cwlcymro

Rheolau’r seiat
Newyddion, protestiadau, trafod. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

26 o blant yn marw yn Baghdad

Postiogan Hedd Gwynfor » Mer 13 Gor 2005 5:25 pm

Pryd bydd y lladd yn dod i ben?

Gwefan BBC a ddywedodd:Children gathered round the Americans who were handing out sweets... Suddenly a suicide car bomber drove round from a side street and blew himself up.


http://news.bbc.co.uk/1/hi/world/middle ... 678207.stm
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Postiogan bartiddu » Mer 13 Gor 2005 5:46 pm

Erchyll eto, gwelais un plentyn yn cael ei rhoi mewn i ambiwlans gyda'i goesau wedi diflannu.:crio: Shwt oedd yr hunanfomiwr yn gwybod fod yr Americanwyr mynd i fod yna, ar y dydd iawn ac ar yr amser iawn? Oes 'na dorraeth ohonynt yn gyrru oamgulch y dinasoedd 24/7 yn chwilio am eu cyfle? :(
Rhithffurf defnyddiwr
bartiddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2285
Ymunwyd: Sad 21 Chw 2004 12:22 am
Lleoliad: Pentrwyn Cynwyl

Postiogan Mr Gasyth » Mer 13 Gor 2005 5:56 pm

Erchyll yn wir. Beth mae'r hunanfomwyr yn gobeithio ei gyflawni drwy ladd plant bach Iracaidd tydw i ddim yn gwybod!
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Postiogan Dielw » Mer 13 Gor 2005 6:12 pm

Mr Gasyth a ddywedodd:Erchyll yn wir. Beth mae'r hunanfomwyr yn gobeithio ei gyflawni drwy ladd plant bach Iracaidd tydw i ddim yn gwybod!
Mynd i'r nefoedd, obviously...
One day this chalk outline will circle this city

Survival... Recovery... Prevention la la la
Rhithffurf defnyddiwr
Dielw
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 960
Ymunwyd: Iau 30 Hyd 2003 4:08 pm
Lleoliad: heheheee... urgh

Postiogan lleufer » Mer 13 Gor 2005 7:19 pm

O diawledig. Bach a diniwed yn cael eu defnyddio i chwarae gemau peryglus oedolion. Bastardiaid di egwyddor.
<a href="http://www.flickr.com/photos/lleufer"> FLICKRO! </a>
Rhithffurf defnyddiwr
lleufer
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 413
Ymunwyd: Llun 13 Medi 2004 5:32 pm
Lleoliad: Uwchlaw Bae Ceredigion

Postiogan margiad ifas » Iau 14 Gor 2005 12:05 am

ma hyn yn uffernol, ac yn datgan lot am natur ddynol ein cyfnod. plant ydi'r symbol ora o ddiniweidrwydd a phurdeb; plant yn cael eu lladd wrth estyn am dda-da. geiria nesta wyn jones yn berthnasol -

'gwelais blentyn a'i lygaid yn gweiddi ei gur,
a bywyd yn darfod heb ddechra. . .'
*Os na chymerir iaith llenyddiaeth o enau’r werin, os dirmygir tafodiaith, cyll arddull yr iaith ei naturioldeb a’i swyn. . .*
Rhithffurf defnyddiwr
margiad ifas
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 156
Ymunwyd: Iau 16 Meh 2005 10:51 pm
Lleoliad: Cwmllynfell

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Iau 14 Gor 2005 8:25 am

Ro'n i'n siomedig iawn, o wrando ar Radio Cymru bore 'ma, na chlywais i unrhyw son am y stori hon, ac eto fe gafwyd llith ynghylch y munudau o dawelwch fydd yn digwydd ledled y byd heddiw i goffau am Lundain. Mae hyn yn profi bod marwolaeth person yn y Gorllewin wastad yn llawer pwysicach yn llygaid y cyfryngau.

Ymwadiad i Realydd, Pogon a'r Gath: Rwy'n llwyr gondemnio'r ymosodiadau'r wythnos dwetha yn ddigamsyniol. Rwy'n gwbod bod unrhyw lais sy'n meiddio son am unrhyw beth heblaw 'wwww, mae'n erchyll, rhaid hela'r basdads sy'n gyfrifol' yn un cwbwl anghyfrifol, felly jyst i wneud yn siwr eich bod chi'n deall.
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Postiogan Owain Llwyd » Iau 14 Gor 2005 10:41 am

Ddydd Mawrth, pan oedd yr heddlu ar drywydd ffrwydron mewn ty yn Leeds, dyna nhw'n symud 600 o bobl o'r cyffiniau agos rhag ofn.

Ddydd Mercher, pan oedd milwyr Americanaidd ar drywydd ffrwydron mewn rhan o Baghdad, dyna nhw'n denu llu o blant atyn nhw drwy ddosbarthu fferins.

Be ddiawl oedd yn mynd drwy eu pennau, dudwch? Bod y plant yn mynd i fod yn saffach o sefyll wrth darged amlwg? Iawn, y bomiwr oedd yn uniongyrchol gyfrifol am beth ddigwyddodd wedyn, ond go brin bod ymddygiad hollol wirion yr Americanwyr wedi helpu i leihau'r anafiadau.
Where is the horse and the rider? Where is the Horn that was blowing? They have passed like rain on the mountain, like a wind in the meadow. The days have gone down in the West, behind the hills, into Shadow.
Rhithffurf defnyddiwr
Owain Llwyd
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 335
Ymunwyd: Gwe 09 Mai 2003 9:50 am
Lleoliad: Llanrug

Postiogan khmer hun » Iau 14 Gor 2005 11:06 am

O's posib tynnu'r ebychnod ! o'r teitl? Mae'n ysgafnhau'r holl beth. Plis. Diolch.
Rhithffurf defnyddiwr
khmer hun
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1285
Ymunwyd: Maw 01 Chw 2005 8:51 pm
Lleoliad: cyffyrddus iawn


Dychwelyd i Rhyfel a Heddwch

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 8 gwestai

cron