Bomio'r Aifft!

Newyddion, protestiadau, trafod

Cymedrolwr: Cwlcymro

Rheolau’r seiat
Newyddion, protestiadau, trafod. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Dave Thomas » Sad 23 Gor 2005 3:37 pm

addaswyd
Dave Thomas
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 500
Ymunwyd: Mer 13 Gor 2005 10:26 pm

Postiogan Macsen » Sad 23 Gor 2005 3:43 pm

Dave Thomas a ddywedodd:Eithafwyr mwslemaidd yn cynnal ymgyrch fyd-eang yn erbyn pethau mae nhw'n ei weld fel gwrth-fwslemaidd, falle.


Wel, ie. Mae nhw wedi gwneud hyn yn glir hefyd. Yn sicr, yn ei llygaid nhw, mae ymosodiad Prydain ar Irac yn wrth-fwslemaidd. Pam felly wyt ti'n taeru nad oes gan y rhyfel yn Irac ddim byd i'w wneud a'r ymosodiadau yn Llundain?
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan sanddef » Sad 23 Gor 2005 3:46 pm

Macsen a ddywedodd:
Dave Thomas a ddywedodd:Mae'r ymosodiad yma'n chwalu'r dadleuon gwan fod Llundain yn darged gan fod byddin Prydain yn Irac. Y gwir amdani yw fod pobman yn darged i fomwyr hunanladdol: Irac, Llundain, New York, Bali, Aifft...


Dim wir. Gor-symleiddio yw cymryd fod terfysgwyr ar draws y byd yn lladd am yr un rhesymau. Dwi'n credu bod terfysgwyr wedi ymosod ar Llundain yn bennaf oherwydd y rhyfel yn Irac (mae'r ffaith iddyn nhw ddweud fod yr Eidal nesaf yn gwneud hynny'n reit glir). Dwi'n credu i derfysgwyr ymosod ar y lle yma am ei fod o'n symbol o gyfoeth a diwylliant y gorllewin, a bosib eto am ei bod nhw'n cysylltu unrhyw un o'r gorllewin (y holl dwristiaid) a'r rhyfel Irac a'r rhyfel ehangach ar derfysgwyr. Nid ymosodiad ar bobl yr Aifft mo hwn, er y bydd o debyg yn cael effaith drwg ar diwydiant twristiaeth yr Aifft. Ond debyg bod gwneud hynny ar feddwl y terfysgwyr hefyd, sy'n credu bod y twristiaid yn mewnforio ei diwylliant a felly'n llygru'n hen ffordd Eifftaidd o fyw.


Cytuno. Dw'i'm yn credu eu bod yn perthyn i "Al-Qaeda" chwaith. Mae 'na syrffed o resymau tu ol i'r gweithrediadau hyn, a 'dan ni i gyd wedi cael ein magu yn gweld arabiaid yn cael eu lladd ar y newyddion, felly dim syndod. Dw'i'n credu fod yr ymosodiad ar Fedi 11 yn Efrog Newydd wedi bod yn trigger i eithafwyr y byd mwslemaidd ac wedi eu hysbrydoli i neud mwy o ymosodiadau, ac mae'r rhyfel yn erbyn Affganistan ac Irac wedi atynnu mwy o weithredwyr i'w rhengoedd a mwy o arian i'w dwylo. Mae yn fyd-eang, ond nid ydy'n organisation byd-eang, sydd yn neud y peth yn fwy anodd.
Meh
Rhithffurf defnyddiwr
sanddef
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1608
Ymunwyd: Llun 04 Hyd 2004 9:27 am

Postiogan Dave Thomas » Sad 23 Gor 2005 3:47 pm

addaswyd
Dave Thomas
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 500
Ymunwyd: Mer 13 Gor 2005 10:26 pm

Postiogan Dave Thomas » Sad 23 Gor 2005 3:57 pm

addaswyd
Dave Thomas
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 500
Ymunwyd: Mer 13 Gor 2005 10:26 pm

Postiogan Macsen » Sad 23 Gor 2005 4:00 pm

Yn sicr nid yw ffwndamentaliaeth yn beth newydd ers rhyfel irac, ond mae y rhyfel hwnnw ac Afghanistan wedi cythruddo mwslemiaid ar draws y byd. Mae'r ffaith mae dim ond gwledydd wnaeth ymosod ar Irac sydd wedi ei 'cosbi' yn fwy o brawf. Mae'r ffaith i grwp terfysgwyr 7/7 ddweud mae 'yr Eidal sydd nesaf' yn fwy o brawb byth mae cosbi'r rheini oedd yn Irac mae nhw. Os na fysai rhyfel yn Irac mae dal yn bosib y bysai ymosodiadau terfysgol ym Mhrydain, ond bysai gan y eithafwyr ddim hanner gymaint o gefnogaeth ymysg y gymuned fwslemaidd fyd-eang a mae gyda nhw nawr. Yn syml, pam bod un ochor yn taro mae'r llall yn taro nol, a bydd y cylchred yma'n esgoli i ystent ble mae terfysgaeth ar strydoedd Prydain yn beth disgwyliedig. Mae angen tryledu yn sefyllfa nawr, gadael Irac unwaith mae'r wlad yn sefydlog, a ceisio peidio pisio off y Mwslim arferol ar y stryd gymaint yn y blynyddoedd i ddod. Bydd na bob tro eithafwyr yn y byd (mae 'na rai yn Gymru Cymraeg), ond drwy drin pobl heddychlon gweddill y byd yn deg bydd Prydain yn sicrhau nad yw'r eithafwyr yn denu cefnogaeth y bobl arferol sy'n teimlo ei bod wedi ei trin yn anheg.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan Dave Thomas » Sad 23 Gor 2005 4:09 pm

addaswyd
Dave Thomas
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 500
Ymunwyd: Mer 13 Gor 2005 10:26 pm

Postiogan Macsen » Sad 23 Gor 2005 4:26 pm

Dave Thomas a ddywedodd:
Macsen a ddywedodd:Mae'r ffaith mae dim ond gwledydd wnaeth ymosod ar Irac sydd wedi ei 'cosbi' yn fwy o brawf.


Nid oes terfysgaeth wedi bod yn yr UDA ers 9/11, gwlad y prif fyddin yn Irac. Felly ti'n anghywir.


Sut ydw i'n anghywir? Wyt ti'n meddwl os bysai gan y terfysgwyr gyfle i ymosod ar America unwaith eto mi fysan nhw'n troi'r cyfle i lawr? Dwi'n meddwl mai gwyliadwriaeth America yn erbyn terfysgiaeth sydd wedi atal ymosodiad arall.

Dave Thomas a ddywedodd:Rhoi fewn i'r terfysgwyr fyddai ail feddwl polisi tramor.


Na, mi fysai cario mlaen a'r polisi tramor yma yn chwarae i ddwylo'r terfysgwyr. Ceisio ennyn ymateb treisgar ym gem rhain. Y mwyaf rydym ni'n ymateb gyda trais, y mwyaf o fwslemiaid arferol fydd yn ymuno a'i achos, a bydd gennym ni ryfel go iawn. Y ffordd i beidio rhoi mewn iddyn nhw ydi i anwybyddu beth mae nhw'n ei wneud orau allen ni tan ei bod nhw'n sylwi nad oes pwynt gwneud mwyach.

A fyset ti'n hoffi i derfysgaeth gan fwslemiaid gyraedd pwnt lle nad yw mwslemiaid sy'n fodlon 'integreiddio' yn cael ei gadael i mewn i Brydain?

Dave Thomas a ddywedodd:Dyna pam fod Llundain yn darged blasus iddyn nhw- ddim cymaint am fod Prydain wedi mynd i fewn, ond gan fod nhw'n gwybod y byddai ymosodiad terfysgol ar Brydain, gan feio'r rhyfel yn Irac, yn ail godi'r gwahaniaeth barn yma.


Ond eto mae nhw wedi uno pobl Llundain. Felly ti'n anghywir.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan Dave Thomas » Sad 23 Gor 2005 4:30 pm

addaswyd
Dave Thomas
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 500
Ymunwyd: Mer 13 Gor 2005 10:26 pm

Postiogan Macsen » Sad 23 Gor 2005 4:33 pm

Dave Thomas a ddywedodd:Darllena fo eto. Ac eto. Yn fuan wnei di sylweddoli nad oes ymosodiad terfysgol wedi digwydd ar yr UDA, ac felly ti'n anghywir.


Darllena'r canlynol eto. Ac eto. Tydw i ddim yn dweud fod pob gwlad a aeth i Irac wedi cael ymosodiad. Felly ti sydd yn anghywir.

Dave Thomas a ddywedodd:Mae'r ffaith mae dim ond gwledydd wnaeth ymosod ar Irac sydd wedi ei 'cosbi' yn fwy o brawf.


Ti'n gweld nawr? ;)
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

NôlNesaf

Dychwelyd i Rhyfel a Heddwch

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 3 gwestai

cron