Bomio'r Aifft!

Newyddion, protestiadau, trafod

Cymedrolwr: Cwlcymro

Rheolau’r seiat
Newyddion, protestiadau, trafod. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Bomio'r Aifft!

Postiogan Hedd Gwynfor » Sad 23 Gor 2005 11:43 am

Cadarnhad erbyn hyn fod 83 wedi marw yn y weithred ffiaidd diweddaraf yma gan grwp sy'n cefnogi Al Qaeda! Mae'n ymddangos mae Eifftwyr oedd yr hunanfomwyr yma! Er yn wahanol i Lundain, estronwyr oedd y targed, c nid trigolion y wlad.

Delwedd

http://news.bbc.co.uk/1/hi/world/middle ... 709491.stm

BBC a ddywedodd:At least 83 people have been killed and scores more wounded in bomb attacks in the Egyptian resort of Sharm al-Sheikh.


Oes modd rhoi stop ar y cylch yma o drais?
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Postiogan Macsen » Sad 23 Gor 2005 11:53 am

Mi es i'r Aifft nol yn mis Ionawr yn gwybod mae y flwyddyn yma fysai un o'r cyfleuodd olaf i fynd yno cyn i bethau fynd yn beryg. Mae'n debyg fy mod i wedi mynd ar yr amser iawn, gyda'r ymosodiad yma ac un yn Cairo yn gynharach yn y flwyddyn!

Ond nid ymosodiad ar estroniaid yn unig yw hwn - mae'r Aifft yn dibynnu ar dwristiaeth am tua 40% o incwm y wlad. Mi allai ymosodiadau fel hyn blymio'r bobl leol mewn i dlodi gwaeth yn ddigon cyflym.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan Dave Thomas » Sad 23 Gor 2005 12:01 pm

addaswyd
Dave Thomas
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 500
Ymunwyd: Mer 13 Gor 2005 10:26 pm

Postiogan sanddef » Sad 23 Gor 2005 12:41 pm

Mudiad ydy yn erbyn cyfalafiaeth (hynny yw, y sustem sy'n tarddu o'r Gorllewin).
Meh
Rhithffurf defnyddiwr
sanddef
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1608
Ymunwyd: Llun 04 Hyd 2004 9:27 am

Postiogan Dave Thomas » Sad 23 Gor 2005 12:53 pm

addaswyd
Dave Thomas
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 500
Ymunwyd: Mer 13 Gor 2005 10:26 pm

Postiogan Macsen » Sad 23 Gor 2005 2:22 pm

Dave Thomas a ddywedodd:Mae'r ymosodiad yma'n chwalu'r dadleuon gwan fod Llundain yn darged gan fod byddin Prydain yn Irac. Y gwir amdani yw fod pobman yn darged i fomwyr hunanladdol: Irac, Llundain, New York, Bali, Aifft...


Dim wir. Gor-symleiddio yw cymryd fod terfysgwyr ar draws y byd yn lladd am yr un rhesymau. Dwi'n credu bod terfysgwyr wedi ymosod ar Llundain yn bennaf oherwydd y rhyfel yn Irac (mae'r ffaith iddyn nhw ddweud fod yr Eidal nesaf yn gwneud hynny'n reit glir). Dwi'n credu i derfysgwyr ymosod ar y lle yma am ei fod o'n symbol o gyfoeth a diwylliant y gorllewin, a bosib eto am ei bod nhw'n cysylltu unrhyw un o'r gorllewin (y holl dwristiaid) a'r rhyfel Irac a'r rhyfel ehangach ar derfysgwyr. Nid ymosodiad ar bobl yr Aifft mo hwn, er y bydd o debyg yn cael effaith drwg ar diwydiant twristiaeth yr Aifft. Ond debyg bod gwneud hynny ar feddwl y terfysgwyr hefyd, sy'n credu bod y twristiaid yn mewnforio ei diwylliant a felly'n llygru'n hen ffordd Eifftaidd o fyw.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan Dave Thomas » Sad 23 Gor 2005 3:02 pm

addaswyd
Dave Thomas
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 500
Ymunwyd: Mer 13 Gor 2005 10:26 pm

Postiogan Macsen » Sad 23 Gor 2005 3:18 pm

Dave Thomas a ddywedodd:Mae'n edrych yn fwy amlwg fel fod ymgyrch ryngwladol yn mynd ymlaen ac fod y terfysgwyr yn ffeindio esgus gwahanol i gyfiawnhau eu gweithred erchyll ym mhob gwlad.


Felly rwyt ti'n credu bod y terfysgwyr wir yn gwneud hyn am 'kicks' a dim ond esgusion ydi unrhyw cymelliadau gwleidyddol mae nhw'n smailio'i gael?
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan Dave Thomas » Sad 23 Gor 2005 3:25 pm

addaswyd
Dave Thomas
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 500
Ymunwyd: Mer 13 Gor 2005 10:26 pm

Postiogan Macsen » Sad 23 Gor 2005 3:32 pm

Dave Thomas a ddywedodd:Rydw i'n meddwl fod lle i amau fod ymgrych fyd-eang derfysgol yn mynd ymlaen gan eithafwyr mwslemaidd...


Erm, dwi ddim yn credu fod neb yn amau hynny. Ond pan wyt ti'n dweud 'esgusodion' wyt ti'n ceisio dweud bod yr eithafwyr Mwslimaidd yma ddim a rheswm am yr ymosodiadau ac yn ei gwneud nhw am sbort, ta bod ganddynt ryw fath o agenda cudd tydi nhw ddim am ei wneud yn amlwg? Os felly beth wyt ti'n meddwl yw'r agenda cudd hwnnw?
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Nesaf

Dychwelyd i Rhyfel a Heddwch

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 16 gwestai

cron