Cardi Bach a ddywedodd:Falle mai bod yn amddiffynol odw i - ond i esbonio beth sy'n digwydd yn Aberystwyth (gan mai fan'na fi'n byw) - mae'r Rhwydwaith Heddwch yno yn cynnal cyfres o Gyfarfodydd Cyhoeddus yn trafod y pynciau ar hyd a lled y dre yn cyflwyno'r ddadl dros heddwch mewn ffordd rhesymegol. Ry'n ni hefyd (bron bob pythefnos) yn paratoi pamffled A5 yn rhoi gwybodaeth 'newydd' i bobl - ein propoganda ni os lici di - ac yn eu dosbarthu nhw o ddrws i ddrws rownd Aber - gyment ni'n gallu - ermwyn i bobl weld y dadleuon o'r ochr arall yn lle cyfryngau unllygeidiog Prydain
Yn sicr yn Aber mae pethau yn dal i fynd yn eu flaen. Ond fel wedes i - ymateb amddiffynol yw hyn. Falle gysyllta i gyda'r Stop the war Coalitioon heddi yn gofyn os oes unrhyw gynllunie gyda nhw.
do'n i ddim isio swnio'n ymosodol o gwbl am y peth - rhaid ddeud, do'n i ddim yn gwybod bod 'na cymaint o waith yn dal i fynd yn ei flaen, ond nid y trefnwyr oedd gen i mewn feddwl - meddwl o'n i am y pobl wnaeth troi allan yn eu miliynau i gefnogi, sydd bellach 'di mynd yn dawel.
a rhaid gyfaddef hefyd, do'n i ddim yn meddwl am brotestiadau yn erbyn y ffaith bod y celwydd am WMD wedi'i dangos yn glir i ni rwan. o'n i'n meddwl mwy am y syniad o dynnu milwyr Prydain allan o Irac - hynny yw, neges syml a chlir gall taro pobl yn yr un ffordd a wnaeth y busnes syml 'Paid!' yn y lle cyntaf. tyrd â'n hogia adref! math o beth.
Cardi Bach a ddywedodd:Aran - wyt ti ffansi cysylltu a chynrychiolwyr y Gogledd yn gofyn beth yw' cynlluniau yno?
cwestiwn digon dilys, ac gobeithio na wneith o swnio'n rhy bathetig os dw i'n deud bod hynny o amser sbar sydd gen i yn mynd i mewn i'r mudiadau iaith. hefyd, fedra i ddim cysylltu fy hun yn swyddogol i unrhyw protest (ar wahân i fynychu, wrth gwrs) rhag ofn mod i'n achosi problemau difrifol i 'mrawd i, sydd ar ei ffordd allan i Basra o fewn y pythefnos nesaf.
a chyn i neb ofyn, na, nid rwan mod i'n cymryd o o ddifri am y tro cyntaf, gan bell ffordd. dyn ni fel teulu wedi byw efo tuedd anfaddeuol blêr i daflu'r byddin i mewn am rai blynyddoedd rwan. fues i'n falch ofnadwy i weld y protestiadau a fu y tro yma, er bod gen i fawr o ffydd yn natur ein llywodraeth, fawr o ffydd y byddai'n ymateb yn gall, ac felly y bu.
ac oes, unwaith eto mae 'na ofn arnaf. pob lwc efo dy waith, Cardi, a diolch o galon am wneud o.