lle aeth y protestwyr?

Newyddion, protestiadau, trafod

Cymedrolwr: Cwlcymro

Rheolau’r seiat
Newyddion, protestiadau, trafod. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

lle aeth y protestwyr?

Postiogan Aran » Maw 01 Gor 2003 7:42 pm

cyn i'r rhyfel, oedd (yn anffodus) yn agos at anochel y fyddai'n digwydd, er gwaetha'r protestiadau - bush wedi penderfynu. erbyn hyn, efo pwysau'n cynyddu ar blêr o'r ochr gwleidyddol, pan byddai pwysau protestiadau yn llawer iawn tebycach o wneud gwahaniaeth a chael milwyr Prydain yn ôl, lle mae pawb?

rwan ydy'r amser i gael miliwn o bobl ar strydoedd llundain - rwan 'sai'n gwneud gwahaniaeth...
Rhithffurf defnyddiwr
Aran
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1713
Ymunwyd: Sul 25 Mai 2003 9:56 pm
Lleoliad: Llithfaen

Postiogan Cardi Bach » Mer 02 Gor 2003 7:48 am

Ti'n iawn - bydde fe'n dda cael llu o bobl yn cerdded heibio neu'n sefyll o flaen San Steffan yn mynnu gweld y tystiolaeth o WMD. Yr unig drafferth gyda cwestiwn fel WMD yw, petai Bush a Blair rili ishe gallen nhw drefnnu fod arfau'n cael eu darganfod.

Beth fyddai'n digwydd i'r ddadl wedyn? Byddai Blair yn sicr yn gryfach.

Mae'r ishiw yn llawer mwy dyrys na WMD - ond mae angen cadw'r pwysau.

Falle mai bod yn amddiffynol odw i - ond i esbonio beth sy'n digwydd yn Aberystwyth (gan mai fan'na fi'n byw) - mae'r Rhwydwaith Heddwch yno yn cynnal cyfres o Gyfarfodydd Cyhoeddus yn trafod y pynciau ar hyd a lled y dre yn cyflwyno'r ddadl dros heddwch mewn ffordd rhesymegol. Ry'n ni hefyd (bron bob pythefnos) yn paratoi pamffled A5 yn rhoi gwybodaeth 'newydd' i bobl - ein propoganda ni os lici di - ac yn eu dosbarthu nhw o ddrws i ddrws rownd Aber - gyment ni'n gallu - ermwyn i bobl weld y dadleuon o'r ochr arall yn lle cyfryngau unllygeidiog Prydain

Yn sicr yn Aber mae pethau yn dal i fynd yn eu flaen. Ond fel wedes i - ymateb amddiffynol yw hyn. Falle gysyllta i gyda'r Stop the war Coalitioon heddi yn gofyn os oes unrhyw gynllunie gyda nhw.

Aran - wyt ti ffansi cysylltu a chynrychiolwyr y Gogledd yn gofyn beth yw' cynlluniau yno?
Rhithffurf defnyddiwr
Cardi Bach
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2694
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 7:54 am
Lleoliad: Gal

Postiogan Rhys Llwyd » Iau 03 Gor 2003 1:08 pm

Cardi nawr bod arholiade wedi beni da fi wi ffancy neud fwy o bethe erill. Ti'n aelod o gell heddwch Aber?
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan Cardi Bach » Iau 03 Gor 2003 1:35 pm

Rhys Llwyd a ddywedodd:Cardi nawr bod arholiade wedi beni da fi wi ffancy neud fwy o bethe erill. Ti'n aelod o gell heddwch Aber?


Odw, odw. Gysyllta i a thi i son mwy amdano.

Protest fawr yn cael ei drefnnu go gyfer a Llundain ar Sadwrn 27ain Medi.
Byddwn ni'n treial recriwtio myfyrwyr newydd yn wsnoth y glas y coleg.

Hefyd mae cyfarfod cyhoeddusyn cael ei drefnnu yn Nhregaron i ddiwedd Awst i drafod ble mae'r arfau a sut y bu i ni gael ein camarwain i ryfel.
Rhithffurf defnyddiwr
Cardi Bach
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2694
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 7:54 am
Lleoliad: Gal

Postiogan Rhys Llwyd » Iau 03 Gor 2003 3:57 pm

gret keep me posted dife!
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan Aran » Iau 03 Gor 2003 5:49 pm

Cardi Bach a ddywedodd:Falle mai bod yn amddiffynol odw i - ond i esbonio beth sy'n digwydd yn Aberystwyth (gan mai fan'na fi'n byw) - mae'r Rhwydwaith Heddwch yno yn cynnal cyfres o Gyfarfodydd Cyhoeddus yn trafod y pynciau ar hyd a lled y dre yn cyflwyno'r ddadl dros heddwch mewn ffordd rhesymegol. Ry'n ni hefyd (bron bob pythefnos) yn paratoi pamffled A5 yn rhoi gwybodaeth 'newydd' i bobl - ein propoganda ni os lici di - ac yn eu dosbarthu nhw o ddrws i ddrws rownd Aber - gyment ni'n gallu - ermwyn i bobl weld y dadleuon o'r ochr arall yn lle cyfryngau unllygeidiog Prydain

Yn sicr yn Aber mae pethau yn dal i fynd yn eu flaen. Ond fel wedes i - ymateb amddiffynol yw hyn. Falle gysyllta i gyda'r Stop the war Coalitioon heddi yn gofyn os oes unrhyw gynllunie gyda nhw.


do'n i ddim isio swnio'n ymosodol o gwbl am y peth - rhaid ddeud, do'n i ddim yn gwybod bod 'na cymaint o waith yn dal i fynd yn ei flaen, ond nid y trefnwyr oedd gen i mewn feddwl - meddwl o'n i am y pobl wnaeth troi allan yn eu miliynau i gefnogi, sydd bellach 'di mynd yn dawel.

a rhaid gyfaddef hefyd, do'n i ddim yn meddwl am brotestiadau yn erbyn y ffaith bod y celwydd am WMD wedi'i dangos yn glir i ni rwan. o'n i'n meddwl mwy am y syniad o dynnu milwyr Prydain allan o Irac - hynny yw, neges syml a chlir gall taro pobl yn yr un ffordd a wnaeth y busnes syml 'Paid!' yn y lle cyntaf. tyrd â'n hogia adref! math o beth.

Cardi Bach a ddywedodd:Aran - wyt ti ffansi cysylltu a chynrychiolwyr y Gogledd yn gofyn beth yw' cynlluniau yno?


cwestiwn digon dilys, ac gobeithio na wneith o swnio'n rhy bathetig os dw i'n deud bod hynny o amser sbar sydd gen i yn mynd i mewn i'r mudiadau iaith. hefyd, fedra i ddim cysylltu fy hun yn swyddogol i unrhyw protest (ar wahân i fynychu, wrth gwrs) rhag ofn mod i'n achosi problemau difrifol i 'mrawd i, sydd ar ei ffordd allan i Basra o fewn y pythefnos nesaf.

a chyn i neb ofyn, na, nid rwan mod i'n cymryd o o ddifri am y tro cyntaf, gan bell ffordd. dyn ni fel teulu wedi byw efo tuedd anfaddeuol blêr i daflu'r byddin i mewn am rai blynyddoedd rwan. fues i'n falch ofnadwy i weld y protestiadau a fu y tro yma, er bod gen i fawr o ffydd yn natur ein llywodraeth, fawr o ffydd y byddai'n ymateb yn gall, ac felly y bu.

ac oes, unwaith eto mae 'na ofn arnaf. pob lwc efo dy waith, Cardi, a diolch o galon am wneud o.
Rhithffurf defnyddiwr
Aran
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1713
Ymunwyd: Sul 25 Mai 2003 9:56 pm
Lleoliad: Llithfaen


Dychwelyd i Rhyfel a Heddwch

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 20 gwestai

cron