Sioni Size a ddywedodd:Dewis syml. O, reit. Felly 200,000 o drigolion Hiroshimia a Nagasaki oedd y bobl ymosododd ar Pearl Harbour, targed milwrol.
Siapan gafodd ei fomio, nid Hiroshima neu Nagasaki yn benodol. Mi dalodd drigolion y ddwy ddinas y pris am ryfelgaru Siapan, ac am yr ymosodiad gan Siapan ar Pearl Harbour. Ydy o'n iawn i ymosod ar bobl milwrol heb rybudd nac achos, ond ddim yn iawn i gosbi gwlad am ddechrau rhyfel ?
Os oedd Eisenhower a Leahy yn meddu ar wybodaeth fod Siapan yn barod i ildio yna roedd Truman hefyd.
Efallai - fel y dywedais yn barod - fod Truman wedi tybio mai twyll oedd.
Sy'n gadael un canlyniad - Gollyngwyd y bom i ddangos i'r Rwsiaid pwy fyddai'r bos, ac i ddysgu gwers i'r Siapaneaid cyn i'r rhyfel orffen.
Ac i orffen y rhyfel mewn ffordd fysa'n gwneud meddianaeth Siapan gan filwyr yr Amerig yn ddianghenrhaid - hynny yw, mewn ffordd fysa'n gwneud yn siwr fysa Siapan ddim yn meiddio ailddechrau cynudd filwrol.